Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd AMBR o wres eithafol ar gyfer dydd Sul a dydd Llun a dydd Mawrth (17-19 Gorffennaf). Bydd yn effeithio ar Rondda Cynon Taf a sawl rhan arall o Gymru a’r DU.
Rydyn ni'n cynghori pobl i wneud newidiadau sylweddol i arferion dyddiol ac arferion gwaith er mwyn ymdopi â'r amodau. Mae rhagolygwyr yn rhagweld y gallai'r tymereddau eithriadol o uchel arwain at effeithiau eang ar drigolion a seilwaith.
Mae modd i wres eithafol effeithio ar iechyd unigolion, ac mae modd i rai o'r effeithiau yma fod yn ddifrifol. Mae'n bosibl bydd y gwres yn achosi oedi wrth deithio ac yn amharu ar drafnidiaeth.
Mae yna bethau syml y mae modd i bawb eu gwneud i amddiffyn eu hunain rhag gormod o wres a haul:
- Arhoswch allan o'r gwres – arhoswch y tu mewn, osgowch weithgareddau awyr agored egnïol, gwisgwch eli haul a gorchuddiwch eich corff.
- Ymoerwch – yfwch ddigon o ddŵr.
- Cadwch eich amgylchedd yn glaear (cool) – arhoswch yn y rhan oeraf o'r adeilad a chadwch ystafelloedd yn gysgodol ac yn oer.
- Cadwch lygaid ar eraill – cadwch lygaid ar deulu neu gymdogion oedrannus neu sâl.
Tywydd Poeth Eithafol: Cyngor i'r Cyhoedd
Mae perchnogion anifeiliaid anwes hefyd yn cael eu cynghori i'w cadw allan o wres eithafol, eu cadw'n oer a sicrhau eu bod yn cael digon o ddŵr i'w yfed.
Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid (‘RSPCA’): Gofalu am gŵn yn yr haf
Os ydych chi'n bwriadu ymweld ag ardaloedd arfordirol, llynnoedd ac afonydd, cadwch at yr holl rybuddion diogelwch. Bydd tymheredd y dŵr yn llawer oerach na thymheredd yr aer. Hefyd, er eu bod nhw'n demtasiwn, PEIDIWCH â nofio mewn cronfeydd dŵr ar unrhyw adeg.
Bydd y Cyngor yn monitro'r tywydd ac yn mynd i'r afael ag unrhyw faterion a all godi o ganlyniad i'r gwres eithafol. Os oes gyda chi unrhyw broblemau dros y penwythnos, ffoniwch rif argyfwng tu allan i oriau y Cyngor ar 01443 425011.
Ffoniwch 999 mewn achosion o argyfwng yn unig. Ceisiwch gyngor gan 111 am faterion iechyd sydd ddim yn frys.
Wedi ei bostio ar 18/07/2022