Mae'r Cyngor ar fin gorffen y gwaith mawr o gryfhau strwythurau'r priffyrdd ar Heol yr Orsaf, Treorci. Bydd angen gosod goleuadau traffig dros dro ar ddechrau gwyliau haf yr ysgolion i gwblhau'r gwaith terfynol.
Mae'r gwaith hanfodol o gynnal a chadw Pont Cantilifer Nant Cwm-parc a'r Stiwt wedi digwydd dros y ddau haf diwethaf, er mwyn sicrhau bod y strwythurau sy'n gyfrifol am gynnal yr A4061 yn cael eu trwsio ac mewn cyflwr digon da i wynebu'r dyfodol. Y flwyddyn yma, mae'r contractwr Walters Ltd wedi cyflawni gwaith sylweddol sy'n cynnwys atgyfeirio'r afon er mwyn caniatáu gwaith yno, a dymchwel parapet concrid y wal gynnal ar yr A4061 Heol yr Orsaf yn ogystal â'r cafnau haearn sy'n cynnal y llwybr cerdded.
Mae corred carreg bloc hefyd wedi'i adeiladu a pharapedau concrid wedi'u gosod i lawr yr afon o Bont y Stiwt. Mae gwaith trwsio a chryfhau wedi digwydd ar Bont y Stiwt ac i'r llwybr cerdded. Bydd arwyneb maes parcio'r llyfrgell hefyd am gael ei drwsio ar.
Wrth gyhoeddi'r rhaglen waith eleni ym mis Ebrill, dywedodd y Cyngor y byddai angen goleuadau traffig yn ystod pythefnos olaf y cynllun, er mwyn gallu cwblhau'r prif waith. Mae'r gwaith wedi cael ei drefnu yn ystod gwyliau haf yr ysgolion i leihau anghyfleustra.
O ganlyniad i hyn, bydd rhaid cau'r lôn tua'r gogledd ar Heol yr Orsaf a'r llwybr cerdded o ddydd Llun, 25 Gorffennaf i ddydd Gwener, 5 Awst. Bydd goleuadau traffig 4 ffordd ar waith yno. Bydd safle bws y Parc a'r Dar yn symud bellach tua'r gogledd am bythefnos.
Hoffai'r Cyngor ddiolch i drigolion lleol a chymudwyr am eu cydweithrediad wrth i'r gwaith terfynol yma gael ei gwblhau. Bydd y Cyngor yn cyfathrebu â thrigolion pan fydd safle'r contractwr ym maes parcio'r llyfrgell yn cael ei symud, a gall yr ardal gael ei defnyddio unwaith eto ar gyfer parcio i ymwelwyr.
Wedi ei bostio ar 22/07/22