Skip to main content

Cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr erbyn y flwyddyn academaidd newydd

Excellent progress has been made with the YGG Aberdar investment

Mae cynnydd aruthrol wedi'i wneud ar y gwaith o adeiladu cyfleusterau ysgol a gofal plant gwerth £4.7 miliwn yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr – gyda'r rhan helaeth o'r gwaith wedi'i gwblhau cyn dechrau'r flwyddyn ysgol newydd ym mis Medi. 

Dechreuodd y contractwr Andrew Scott Ltd weithio ar y safle haf diwethaf, ac maen nhw bellach wedi cwblhau sylwedd y gwaith adeiladu ar amser, gyda'r prosiect yn cael ei gyflawni mewn pryd ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022/23.  Bydd y cyfleusterau newydd ar gyfer yr ysgol gynradd yng Nghwmdâr yn cael eu trosglwyddo i'r Cyngor yr wythnos yma.

£4.706 miliwn yw cyfanswm y buddsoddiad sydd wedi'i rannu'n ddwy ran a'i ategu gan Lywodraeth Cymru. Mae'r rhan gyntaf yn fuddsoddiad o £3.69 miliwn sy'n manteisio ar gyllid drwy'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, ynghyd â chyfraniad gan y Cyngor, i ehangu capasiti'r ysgol i gynnig 72 yn rhagor o leoedd. Mae'r ail ran yn manteisio ar £1.016 miliwn o'r Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg, er mwyn creu cyfleuster gofal plant cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol sydd â 30 o leoedd.

Bydd y cyfleuster gofal plant newydd yn ategu Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru. Mae'r cynllun yn cael ei ddarparu i ariannu cyfuniad o addysg mewn Meithrinfa Cyfnod Sylfaen a gofal plant ychwanegol i rieni sy'n gweithio. Mae'r ddarpariaeth yma ar gael i blant 3 a 4 oed am hyd at 30 awr yr wythnos, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Yn ei gyfanrwydd, mae'r prosiect wedi rhoi estyniad mawr i'r ysgol o bedair ystafell ddosbarth, ystafelloedd cotiau a thoiledau, ardal amlddefnydd â stiwdio a mannau cwrdd anffurfiol, ac ystafell hylendid ar y llawr gwaelod. Bydd y cyfleuster gofal plant newydd ar y llawr gwaelod isaf ac yn cael ei redeg gan Gylch Meithrin Cwmdâr. Mae prif neuadd a maes parcio presennol yr ysgol hefyd wedi'u hestyn, tra bod man chwarae wyneb caled newydd wedi cael ei osod.

Bydd contractwr y Cyngor yn dychwelyd i'r safle yn ystod gwyliau haf yr ysgol i gwblhau rhywfaint o waith y tu allan, gan gynnwys dymchwel a chael gwared ar ystafelloedd dosbarth symudol presennol yr ysgol mewn pryd ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. Bydd y Cyngor yn cwblhau'r gwaith o osod offer a dodrefn newydd yn y cyfleuster newydd fel ei fod e'n barod i staff a disgyblion yr ysgol ei ddefnyddio o fis Medi.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: “Mae cyfleusterau newydd Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr yn cynrychioli'r buddsoddiad mawr diweddaraf mewn ysgolion yn Rhondda Cynon Taf, wrth i ni weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu cyfleusterau addysg o'r radd flaenaf ar gyfer hyd yn oed mwy o'n disgyblion a'n staff, a'u cymunedau lleol. Mae hwn yn fuddsoddiad o fwy na £4.7 miliwn ar gyfer estyniad i'r ysgol a'r elfen gofal plant o'r prosiect.

"Bydd y cyfleuster gofal plant yn helpu i ddiwallu'r angen sydd wedi dod i'r amlwg am leoedd gofal plant cyfrwng Cymraeg yn yr ardal leol, yn ogystal â chynorthwyo plant i bontio i'r ysgol am y tro cyntaf. Bydd e hefyd yn helpu teuluoedd i gymryd mantais o Gynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru.

"Bydd yr estyniad i'r adeilad yn caniatáu cynnydd pwysig yn nifer y lleoedd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg y mae'r ysgol yn cynnig, a chaniatáu i'r ysgol wasanaethu ardal ehangach o Gwm Cynon. Bydd e'n helpu'r Cyngor i gyflawni'r deilliannau sydd wedi'u hamlinellu yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, gan wneud cyfraniad pellach at nod ‘Cymraeg 2050’ Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg.

"Dim ond un rhan yw'r prosiect yma o'r buddsoddiad o £252 miliwn sy'n cael ei wneud mewn partneriaeth â Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â chwblhau prosiect Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, mae buddsoddiad ategol ar gyfer Ysgol Rhydywaun ar y gweill, fydd yn darparu bloc addysgu newydd i gynyddu nifer y lleoedd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg o fis Medi ymlaen.

"Rydw i'n falch iawn bod sylwedd prosiect Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr bellach wedi'i gwblhau, ac yn cael ei drosglwyddo i'r Cyngor yr wythnos yma – wedi'i orffen mewn pryd i'w ddefnyddio o fis Medi. Rydw i'n edrych ymlaen at ymweld â staff a disgyblion a'u gweld nhw'n mwynhau eu cyfleusterau newydd yn ystod y flwyddyn academaidd newydd."

Wedi ei bostio ar 21/07/2022