Mae'r Cabinet wedi derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ar gynlluniau buddsoddi'r dyfodol ar gyfer ysgolion cynradd yn Llanilltud Faerdref, Tonysguboriau a Glyn-coch. Mae'r Cabinet wedi cytuno i symud ymlaen i gam datblygu nesaf ym mhroses gyllido Model Buddsoddi Cydfuddiannol Llywodraeth Cymru.
Ddydd Llun, 18 Gorffennaf, ystyriodd y Cabinet adroddiad yn ymwneud â darpariaeth adeiladau newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Maes-y-bryn (Llanilltud Faerdref), Ysgol Gynradd Tonysguboriau (Tonysguboriau) a chymuned Glyn-coch yn y flwyddyn academaidd 2025/26. Fis diwethaf, derbyniwyd caniatâd terfynol i uno Ysgol Gynradd y Cefn ac Ysgol Gynrad Craig-yr-Hesg yng Nglyn-coch erbyn 2026 a chreu ysgol fwy ar gyfer y ddau dalgylch. Mae angen dod o hyd i gyllid ar gyfer prosiect yr ysgol newydd yn ogystal â phrosiectau ysgolion Maes-y-bryn a Thonysguboriau.
Byddai'r prosiectau'n cael eu darparu'n rhan o'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, sef y llwybr cyllid refeniw ar gyfer Band B y Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu (Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gynt). Byddai'r ysgolion yn derbyn 81% o gyllid refeniw gan Lywodraeth Cymru yn rhan o'r model yma.
Y cam cyntaf er mwyn sicrhau dilyniant i unrhyw brosiect Model Buddsoddi Cydfuddiannol yw cyflwyno Achos Amlinelliad Strategaeth i Lywodraeth Cymru. Mae adroddiad y Cabinet o ddydd Llun yn nodi bod y ddogfen yma ar gyfer ysgolion Maes-y-bryn, Tonysguboriau a Glyn-coch wedi'i chyflwyno ym mis Mawrth 2022. Cafodd ei chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Mai.
Yr ail gam yw cyflwyno cais prosiect newydd i Gwmni Partneriaeth Addysg Cymru (WEPCo) - sector breifat Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni prosiectau Model Buddsoddi Cydfuddiannol. Bydd cam yma'r broses yn golygu bod modd bwrw ymlaen â'r cynigion, a dechrau ar y gwaith cynllunio a dichonoldeb ar gyfer pob un o'r adeiladau newydd.
Bydd datblygu'r cynlluniau yma'n cynnwys ymgysylltu â'r ysgolion, cyrff llywodraethu ac Aelodau Etholedig, yn ogystal â chynnal ymgynghoriadau perthnasol gyda'r cymunedau ehangach wrth i'r prosiectau ddatblygu trwy'r camau amrywiol. Mae'r adroddiad yn nodi bod rhaid i'r Cabinet gymeradwyo pob cam yn unigol maes o law.
Ddydd Llun cytunodd y Cabinet i gyflwyno Cais Prosiect Newydd i WEPCo er mwyn bwrw ymlaen â'r tri phrosiect.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: "Mae'r Cabinet wedi cytuno i fwrw ymlaen a'r prosiectau buddsoddi cyffrous yma ar gyfer Ysgol Gynradd Maes-y-bryn, Ysgol Gynradd Tonysguboriau a chymuned ehangach Glyn-coch. Mae'r prosiectau yma'n rhan o'n buddsoddiad ehangach gwerth £252 miliwn mewn cyfleusterau addysg ar gyfer Band B y Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Rydyn ni am gyflwyno cyfleusterau o'r radd flaenaf i ddisgyblion, gweithwyr a chymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol.
"Mae'r Cyngor eisoes wrthi'n cyflawni prosiectau eraill yn rhan o Fand B y Model Buddsoddi Cydfuddiannol - mae cynlluniau mawr i gymryd lle'r adeiladau yn Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref, Ysgol Gynradd Pont-y-clun ac Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi bellach wedi symud ymlaen cam arall. Derbyniwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y prosiectau yma ym mis Mawrth 2022, a bydd y gwaith yn dechrau ar y safleoedd yn yr Hydref. Bydd modd i'r swyddogion ddefnyddio eu profiad gwerthfawr o'r broses yma wrth fynd ati i geisio caniatâd y Cabinet ar gyfer y prosiectau yn Llanilltud Faerdref, Tonysguboriau a Glyn-coch.
"Mae gwaith ar safleoedd Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, Ysgol Rhydywaun ac Ysgol Gynradd Ffynnon Taf yn mynd yn ei flaen yn llwyddiannus cyn dechrau'r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi. Dyma'r prosiectau buddsoddi mwyaf diweddar i'r Cyngor eu cyflawni mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Mae'n bwysig nodi bod y Cyngor yn ceisio sicrhau bod pob prosiect rydyn ni'n eu cynllunio a'u datblygu yn rhai Carbon Sero-Net ac yn cydymffurfio â'n hymrwymiadau Newid Hinsawdd."
Wedi ei bostio ar 22/07/22