Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn galw ar drigolion lleol i roi gwaed er mwyn helpu cleifion mewn angen.
Mae angen gwaed ar ysbytai bob dydd er mwyn trin cleifion mewn achosion brys, mamau a babanod yn ystod genedigaeth a'r rheiny sy'n cael cemotherapi ar gyfer canser, yn ogystal â sawl cyflwr arall.
Mae'r galw ar Wasanaeth Gwaed Cymru gan ysbytai wedi bod yn fawr ac yn barhaus wrth iddyn nhw ailddechrau darparu gwasanaethau megis llawdriniaethau cyffredinol sydd angen cynhyrchion gwaed. Mae'r cynnydd yma'n golygu bod angen rhagor o bobl i roi gwaed i helpu i ddiwallu'r anghenion ychwanegol yma.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Rydyn ni'n falch iawn o barhau i gefnogi Gwasanaeth Gwaed Cymru a’u hymgyrch recriwtio ledled ein Bwrdeistref Sirol. Fis diwethaf yn unig, roedd 541 o roddion gwaed a allai achub bywydau yn Rhondda Cynon Taf.
“Mae’r Gwasanaeth yn dibynnu’n llwyr ar haelioni pobl sy’n byw yng Nghymru i ddarparu rhoddion gwaed hanfodol i gleifion. Gyda dim ond awr o’ch amser, mae gyda chi gyfle i wneud gwahaniaeth i bobl yn eich cymuned a thu hwnt.”
Mae sawl defnydd i un rhodd gan fod modd ei rhannu'n dri chynnyrch, sef celloedd coch, platennau a phlasma wedi'i rewi'n ffres. Mae hyn yn golygu y gall un rhodd achub – neu wella – bywydau hyd at dri oedolyn neu chwe babi.
Trefnwch eich apwyntiad yn RhCT ar-lein heddiw:
Ledled Rhondda Cynon Taf, mae angen dros 250 o roddion gwaed a chynhyrchion gwaed bob mis ar gleifion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Mae apwyntiadau ar gael mewn pedwar lleoliad – Neuadd Chwaraeon Cymuned Cwm Dâr, Aberdâr, Canolfan Hamdden Rhondda Fach, Glynrhedynog, Gwesty’r Parc Treftadaeth, Trehafod a Chanolfan Arloesedd Clwyfau Cymru, Tonysguboriau.
Meddai Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru: “Bob dydd mae angen tua 350 o roddion gwaed i helpu’r 20 o ysbytai yng Nghymru rydyn ni’n eu cyflenwi, gan gynnwys Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
“Mae pobl yr ardal yma bob amser wedi bod yn gefnogol wrth roi gwaed, ond rydyn ni'n annog rhagor o drigolion i ystyried dod yn rhoddwyr gwaed er mwyn helpu cleifion mewn angen.
“Erbyn hyn, mae gyda ni ragor o gapasiti yn yr ardal felly dyma obeithio y bydd hyn yn helpu i’w gwneud yn haws i bobl roi gwaed.
“Rydyn ni'n gofyn yn benodol am y rheiny sydd eisoes yn rhoi gwaed O negatif, O positif ac A positif i ddod aton ni. Os mai dyma'ch tro cyntaf yn rhoi gwaed, peidiwch â phoeni. Cofrestrwch gyda ni a byddwn ni'n rhoi gwybod pa grŵp gwaed ydych chi."
Trefnwch apwyntiad rhoi gwaed a all achub bywyd rhywun yma https://www.welsh-blood.org.uk/cy/ neu ffonio 0800 252 266 heddiw.
Wedi ei bostio ar 18/07/2022