Skip to main content

Dweud eich dweud ar gynlluniau drafft ar gyfer ysgol newydd Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn

An artist impression of the proposed new school for YGG Llyn y Forwyn

Mae modd i drigolion weld y cynlluniau cychwynnol a dweud eu dweud mewn perthynas â’r cynlluniau sy’n ymwneud â’r ysgol gynradd newydd arfaethedig ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn yng Nglynrhedynog, yn rhan o ymgynghoriad sydd hefyd yn cynnwys arddangosfa gyhoeddus.

Ym mis Medi 2021, rhoddodd y Cabinet ganiatâd ffurfiol i'r Cyngor fynd ati i ddarparu'r adeilad erbyn 2024, yn rhan o Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru. Bydd yn cael ei adeiladu ar dir i'r gogledd o'r Ucheldir (ar hen safle 'Ffatri Chubb'), a bydd staff a disgyblion yn elwa o amgylchedd dysgu newydd sbon. Mae angen gwaith cynnal a chadw gwerth dros £1 miliwn ar yr ysgol bresennol, a does dim llawer o gyfleoedd i ehangu cyfleusterau'r safle.

Bydd yr adeilad ysgol newydd yn ehangu’r ddarpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg lleol – ac yn cynnwys cyfleusterau modern, hyblyg a hygyrch y bydd modd i'r gymuned eu defnyddio. Bydd mannau awyr agored gwell yn cefnogi'r gwaith o ddarparu holl weithgareddau'r cwricwlwm, a bydd maes parcio i staff a man gollwng ar gyfer bysiau hefyd yn cael eu darparu ar y safle. Bydd yr adeilad newydd hefyd yn bodloni gofynion Carbon Sero-Net o ran sut bydd yr ysgol yn gweithredu, gan gefnogi ymrwymiadau newid yn yr hinsawdd y Cyngor a Llywodraeth Cymru.

Mae KEW Planning bellach yn cynnal Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio sy'n rhoi cyfle i drigolion ddysgu rhagor am gynlluniau cychwynnol y datblygiad. Mae modd i drigolion ddweud eu dweud ar y cynigion drafft. Bydd hyn yn helpu i lywio cais y Cyngor a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu.

Mae modd gweld dogfennau cynllunio drafft, ynghyd â gwybodaeth ychwanegol a thaith fideo o’r datblygiad, ar wefan yr ymgynghoriad. Mae copïau caled o'r dogfennau ar gael yn Llyfrgell Glynrhedynog, Yr Hwb, Heol y Gogledd.

Mae croeso i drigolion fynychu'r achlysur i'r gymuned yn Adain Ieuenctid Ysgol Gymuned Glynrhedynog ddydd Mercher, 6 Gorffennaf (3pm-6pm). Bydd modd cwrdd â charfan y prosiect, dysgu rhagor am y cynlluniau a dweud eich dweud wyneb yn wyneb.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ddydd Mawrth, 26 Gorffennaf, ac mae modd rhoi adborth trwy wefan KEW planning. Mae modd i drigolion hefyd gyflwyno sylwadau drwy anfon llythyr i’r cyfeiriad post sydd wedi’i gynnwys ar y wefan, neu drwy anfon e-bost: info@kewplanning.co.uk.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: “Mae modd i'r gymuned ddweud eu dweud ar y cynlluniau gwerth miliynau o bunnoedd i ddarparu ysgol newydd sbon ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn. Cafodd cynlluniau ar gyfer yr ysgol newydd eu cymeradwyo'n ffurfiol gan y Cabinet yn 2021. Bydd y cynllun yn cael ei gyflawni gan fanteisio ar gyfraniad o 65% gan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, wrth i'r ysgol barhau i ddarparu'r cyfleusterau gorau posibl ar gyfer disgyblion mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

“Byddai’r ysgol newydd yn creu amgylchedd dysgu y mae modd i staff a disgyblion fod yn falch ohono, gan helpu i ddarparu pob agwedd ar y cwricwlwm yn well. Byddai'r adeilad newydd yn disodli'r adeiladau Fictoraidd, does dim llawer o gyfleoedd i ehangu'r cyfleusterau ar y safle presennol. Mae'r safle newydd yn fwy ac mae modd iddo gynnal adeiladau sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif ynghyd â mannau casglu a gollwng a mannau dysgu awyr agored llawer gwell.

“Bydd yr ysgol newydd yn cynyddu’r ddarpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg yn lleol, ac yn helpu i gyflawni deilliannau Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg fwyaf diweddar y Cyngor. Bydd hefyd yn helpu'r Cyngor i gyfrannu ymhellach at uchelgais Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Cynhaliwyd ymgynghoriad â’r gymuned a rhanddeiliaid allweddol ynghylch y cynigion ar gyfer yr ysgol newydd yn gynnar yn 2021, ac roedd mwyafrif llethol o’r rheiny a ymatebodd yn cytuno â'r buddsoddiad. Roedd hyn yn ystyriaeth allweddol pan roddodd y Cabinet ei gymeradwyaeth ffurfiol. Mae modd i drigolion weld yr holl gynlluniau drafft a’r dogfennau cynllunio ar wefan yr ymgynghoriad, ac hefyd yn Llyfrgell Glynrhedynog, neu’r achlysur i'r cyhoedd sy'n cael ei gynnal yng Nghanolfan Cymuned Glynrhedynog ddydd Mercher nesaf.

“Rwy’n annog trigolion i ddysgu rhagor a dweud eu dweud yn ystod y pedair wythnos nesaf. Bydd yr holl adborth yn cael ei drafod gan swyddogion y Cyngor i helpu i lunio’r cais cynllunio ffurfiol, a fydd yn cael ei gyflwyno maes o law.”

Wedi ei bostio ar 01/07/2022