Skip to main content

Traciau a Llwybrau newydd ar agor ym Mharc Gwledig Cwm Dâr

DVCP Track

Mae Parc Gwledig Cwm Dâr wedi bod yn destun gwaith cynaliadwy i ddatblygu a gosod llwybrau amlddefnydd, gyda dehongliadau ac adeiladwaith i ymwelwyr.

Mae'r Prosiect Traciau a Llwybrau newydd bellach wedi'i gwblhau ac ar agor i'r cyhoedd. Mae'r llwybrau newydd yma i'w canfod ar hyd ardal y llyn uchaf, y gronfa ddŵr ac ardaloedd Afon Dâr y parc.

Er mwyn cyflawni'r prosiect Traciau a Llwybrau, derbyniodd y Cyngor arian o gynllun grant 'Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles yng Nghymru' Llywodraeth Cymru, ac fe gafodd dehongliadau a meinciau newydd eu gosod yn ystod tymor y gwanwyn.

Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "A minnau'n byw'n agos, rydw i'n ymweld â Pharc Gwledig Cwm Dâr yn aml, ac mae ei brydferthwch naturiol a'r amgylchedd sydd o'i gwmpas yn fy synnu bob tro. Dyma un o berlau Rhondda Cynon Taf.

"Mae'n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn, ac mae'r Traciau a Llwybrau newydd ynghyd â'r byrddau dehongli, yn ychwanegu at brofiad yr ymwelydd."

Yn rhan o'r gwelliannau yma ym Mharc Gwledig Cwm Dâr, mae seilwaith gwyrdd wedi'i greu. Mae'r seilwaith yma wedi arwain at fuddion economaidd a chymunedol trwy gynyddu nifer yr ymwelwyr a defnydd o'r parc.

Mae'r gwaith wedi cynnwys ailosod ac ymestyn llwybrau cynaliadwy a oedd eisoes yn bodoli ym Mharc Gwledig Cwm Dâr, gyda sylfaen craidd caled wedi'i gywasgu. Roedd y llwybrau gwreiddiol wedi erydu'n llwyr dros amser, ond bellach wedi'u hadnewyddu, ac yn edrych yn wych.

Lle bo hynny'n bosibl, mae lled y llwybrau hefyd wedi cynyddu'n sylweddol ac wedi'u gosod ar dir â graddiant cymharol wastad. Mae'r holl waith sydd wedi mynd rhagddo'n cyd-fynd yn dda gyda'r amgylchedd naturiol sy'n amgylchu'r parc, ac yn mynd law yn llaw â'r dehongliadau sy'n seiliedig ar ecoleg.

Mae'r gwaith sydd wedi mynd rhagddo ar y llwybrau'n golygu bod cymysgedd o arwynebau llwybr ar gael i ymwelwyr. Mae bellach rhwydwaith helaeth o lwybrau anffurfiol ar sail natur ac arwynebau caled ar hyd ar led Parc Gwledig Cwm Dâr.

Parc Gwledig Cwm Dâr www.darevalleycountrypark.co.uk

Parc Gwledig Cwm Dâr yn Aberdâr, yw un o'r cyrchfannau mwyaf cyffrous ac amrywiol yn ne Cymru, gyda thros 200 erw o fannau agored yn llawn pethau i'w gwneud.

Mae'n gartref i Barc Beiciau Disgyrchiant ar gyfer Teuluoedd, sy'n newydd sbon, lle mae modd i feicwyr fynd ar lwybrau ar ochr y mynydd, gan brofi eu sgiliau ar y traciau pwmp ar hyd y ffordd. Mae modd i ymwelwyr ddod â'u beiciau eu hunain.

Crwydrwch y parc gwledig, ei lynnoedd, ei fynyddoedd a'i olygfeydd. Mae modd i chi herio'r copaon ar hyd llwybrau'r mynyddoedd, neu fynd am dro bach hamddenol sy'n fwy addas ar gyfer cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio.

Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn un o Byrth Darganfod Parc Rhanbarthol y Cymoedd. Fe'i hystyrir yn atyniad hanfodol i ymwelwyr gan ei fod yn agor y drws i anturiaethau pellach yng Nghymoedd De Cymru.

Wedi ei bostio ar 11/07/2022