Cyn bo hir bydd y Cyngor yn bwrw ymlaen â gwaith trwsio sylweddol ar Bont Dramffordd Gellisaf yn Nhrecynon, sy'n heneb gofrestredig. Bydd dau gam i'r cynllun yma, a fydd gwaith eleni ddim yn tarfu ar fywyd yr ardal.
Mae Pont Dramffordd Gellisaf yn cynnig llwybr i gerddwyr i ffwrdd o Daith Cynon, rhwng Trecynon a Hirwaun. Mae'n rhychwantu hyd yr Afon Cynon, i'r gogledd-orllewin o safle hen ffatri cyw iâr Mayhew.
Bydd y cynllun yn dechrau ddydd Llun, 1 Awst. Bydd y gwaith yn ymatebol ac yn cydymffurfio â statws heneb gofrestredig y strwythur.Mae'r Cyngor wedi penodi'r cwmni Centregreat Ltd i gyflawni'r gwaith, sydd wedi'i ariannu gan Raglen Gyfalaf y Cyngor ar gyfer Strwythurau Parciau. Bydd dau gam i'r gwaith, gyda'r gwaith cyntaf yn dechrau yn ystod yr haf.
Bydd gwaith eleni, sy'n cael ei gynnal tan fis Hydref 2022, yn canolbwyntio ar drwsio ochr y bont sy'n wynebu i fyny'r afon. Mae'r gwaith yn cynnwys clirio'r safle, cael gwared â llystyfiant sydd ar y strwythur, ail-osod cerrig rhyddion, gosod cerrig newydd ac ailadeiladu rhan uchaf y 'wingwalls' a'r 'spandrel walls'. Wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen, bydd angen atgyweirio sgwrfeydd yr ategweithiau a newid y ffens sy'n amddiffyn y strwythur.
Bydd mynediad i gerddwyr dros y bont yn cael ei gynnal trwy gydol y gwaith, a dydyn ni ddim yn rhagweld bydd y gwaith yn tarfu ar y gymuned.
Mae gweddill y gwaith i drwsio ochr arall y bont, sy'n wynebu i lawr yr afon, yn cael ei drefnu i ddechrau yn ystod haf 2023.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Mae'r Cyngor yn deall pwysigrwydd hanesyddol a diwylliannol Pont Dramffordd Gellisaf, ac oherwydd natur y strwythur mae'r Cyngor wedi gweithio gydag awdurdodau perthnasol er mwyn cynllunio cynllun sy'n ymatebol ac yn cydymffurfio â statws heneb gofrestredig y strwythur. Bydd cam cyntaf y gwaith yn dechrau 1 Awst, ac yn para am gyfnod o dri mis. Yn dilyn hyn, bydd ail gam y gwaith yn dechrau yn ystod haf 2023.
"Mae'r cynllun yma'n rhan o elfen Priffyrdd a Thrafnidiaeth Rhaglen Gyfalaf y Cyngor ar gyfer Parciau a Chefn Gwlad 2022/23, sydd gwerth £26.365 miliwn. Yn ychwanegol, mae buddsoddiad gwerth £5.65 miliwn wedi'i ddyrannu gan y Cyngor ar gyfer strwythurau. Mae rhaglenni blaenoriaeth eraill yn cynnwys atgyweirio llwybr troed Stryd y Nant yn Ystrad, gosod pont droed newydd dros Reilffordd Llanharan, Cantilifer Nant Cwm-parc/Pont y Stiwt yn Nhreorci, a chryfhau Pont Imperial yn y Porth.
"Mae hyn ar wahân i'r cyllid o £6.441 miliwn gan Lywodraeth Cymru a sicrhawyd ar gyfer y gwaith yn dilyn Storm Dennis yn 2022/23, i ddatblygu cynlluniau Pont Heol Berw, Pont Droed Castle Inn, Pont Droed Tyn-y-bryn a Phont Droed y Bibell Gludo.
Dydyn ni ddim yn disgwyl i'r gwaith i drwsio Pont Dramffordd Gellisaf yn Nhrecynon darfu ar y gymuned. Bydd mynediad i gerddwyr dros y bont yn cael ei gynnal trwy gydol y gwaith. Bydd y contractwyr ar y safle yn paratoi ar gyfer y gwaith o ddydd Llun. Diolch i breswylwyr am eu cydweithrediad wrth i'r gwaith pwysig yma gael ei gwblhau."
Cyn bo hir, bydd y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i breswylwyr i ymwneud â'r gwaith parhaus i drwsio'r Bont Tram Haearn, sydd i gyfeiriad y de o lwybr hanesyddol y dramffordd, Tresalem. Cafodd yr heneb ei symud yn ystod hydref 2021 er mwyn cynnal gwaith adfer arbenigol oddi ar y safle.
Wedi ei bostio ar 29/07/22