Byddwch yn ddiogel dros yr haf a chadwch i ffwrdd o gronfeydd dŵr Rhondda Cynon Taf. Mae nofio yn y dyfroedd yma'n hynod o beryglus a rhaid osgoi gwneud hyn ar bob achlysur.
Mae'r Cyngor yn rhybuddio ei drigolion bod nifer o beryglon arwyddocaol fel offer cudd a dŵr oer iawn mewn cronfeydd dŵr ac mae'n annog pawb i'w hosgoi.
Gallai unrhyw un sy'n penderfynu nofio mewn cronfa ddŵr fod yn peryglu ei fywyd ei hunan.
Mae'r peryglon o ran nofio mewn cronfeydd dŵr yn cynnwys y canlynol:
- Peiriannau awtomatig sydd o dan wyneb y dŵr, all ddechrau heb rybudd amlwg weithiau
- Dŵr oer a dwfn iawn sy'n gallu achosi i'r nofwyr cryfaf fynd i drafferth
- Mae'r rhan fwyaf o gronfeydd dŵr mewn lleoliadau anghysbell, heb fawr o signal ffonau symudol, felly bydd llai o gyfleoedd i wasanaethau brys achub eich bywyd os ydych chi'n mynd i drafferth.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: “Efallai bod cronfeydd dŵr yn ymddangos fel lle gwych i fod yn ystod misoedd poeth yr haf, ond maen nhw'n llawn peryglon cudd; tymheredd rhewllyd, peiriannau cudd a cherrynt cryf sydd â'r modd i dynnu hyd yn oed y nofwyr cryfaf o dan y dŵr.
“Mae’r neges yn syml – cadwch yn ddiogel bob amser yn yr awyr agored a chadwch allan o’n cronfeydd dŵr. Does dim caniatâd gan unrhyw un i nofio mewn cronfeydd dŵr. Does dim hawl eu defnyddio a ddylai pobl ddim mynd i nofio ynddyn nhw yn ystod misoedd poeth yr haf.
“Rhaid i mi bwysleisio bod pobl sy'n penderfynu mynd i nofio mewn cronfeydd dŵr nid yn unig yn peryglu eu bywydau eu hunain, ond hefyd bywydau'r bobl all fod yn ceisio achub eu bywydau nhw os ydyn nhw'n mynd i drafferth.
“Does dim modd pwysleisio digon pa mor beryglus yw nofio heb ganiatâd mewn cronfeydd dŵr. Mae modd i'r dŵr fod yn farwol, hyd yn oed i'r rhai sy'n ystyried eu hunain yn nofwyr cryf.
“Pan fydd y tywydd yn gynnes, efallai y bydd y dŵr yn eich denu chi, ond peidiwch â rhoi eich hunan mewn perygl. Os byddwch chi'n mynd i drafferth yn y dŵr, byddwch chi'n boddi o fewn munudau ond bydd y boen i'ch ffrindiau a'ch teulu yn para am oes."
Wedi ei bostio ar 15/07/22