Bydd y Cyngor yn ymgymryd â'r gwaith hanfodol i amnewid wyth o'r goleuadau stryd ar Heol Abercynon, Glyn-coch. Effaith y gwaith yma fydd cau'r ffordd yn ystod y dydd. I leihau aflonyddwch, mae'r gwaith wedi'i drefnu yn ystod gwyliau'r haf ysgolion (25-29 Gorffennaf).
Mae angen amnewid y goleuadau stryd gan eu bod nhw'n hen ac mae cynllun oes y colofnau wedi dod i ben. Mae pyst a bracedi'r colofnau yn dangos arwyddion bod problem rhwd, ac efallai'n peri gofid i gerddwyr a defnyddwyr y ffordd os nad ydy'r gwaith amnewid yn mynd yn ei flaen. Bydd y Cyngor yn amnewid wyth colofn, gan newid y llusernau LED ar yr un pryd.
Mae angen cau'r ffordd er mwyn sicrhau diogelwch y modurwyr a'r gweithlu, gan fod rhan yma o'r briffordd ar Heol Abercynon yn gul.
Bydd y gwaith yn cael ei gynnal yn ystod y dydd, o ddydd Llun, 25 Gorffennaf i ddydd Gwener, 29 Gorffennaf rhwng 8am a 4pm. Rhwng yr amseroedd yma, bydd Heol Abercynon ar gau i'r ddau gyfeiriad, rhwng ei chyffyrdd â'r Gelli a Fferm y Cwm. Bydd mynediad i gerddwyr a'r gwasanaethau brys o hyd.
Bydd arwyddion yn dangos y llwybr amgen yn y ddau gyfeiriad ar gyfer gyrwyr yn glir. O ochr ogleddol y ffordd sydd ar gau, ewch ar hyd Heol Abercynon, Stryd y Parc, Heol Aberdâr, Heol Aberpennar, Heol Ynysmeurig, yr A4054, yr A470, Stryd y Bont (yr A4223), Heol Berw a Heol Ynys-y-bŵl.
I’r cyfeiriad arall (o ochr ddeheuol y ffordd sydd ar gau), ewch ar hyd Heol Ynys-y-bŵl, Heol Berw, Stryd y Bont, Yr A470, slipffordd Abercynon tua'r gogledd, Heol Ynysymeurig, Heol Yr Orsaf, Stryd Herbert, Heol Aberpennar, Heol Aberdâr, Stryd y Parc a Heol Abercynon.
Meddai Roger Waters, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng Flaen Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: "Mae angen amnewid wyth colofn yn Heol Abercynon, gan newid y llusernau LED ar yr un pryd. Mae'r gwaith yn rhan o gynllun adnewyddu goleuadau'r stryd flynyddol y Cyngor Mae cyfanswm o £200,000 wedi'i glustnodi ar gyfer ariannu cynlluniau yn Rhondda Cynon Taf yn ystod y flwyddyn 2022/23. Mae'r arian yn dod gan y Rhaglen Gyfalaf Priffyrdd. Dros y blynyddoedd diwethaf, cafodd pob bwlb yn ein goleuadau stryd ei hamnewid ar gyfer bylbiau LED er mwyn lleihau ein defnydd ynni a chyfrannu at ein nodau a'n hymrwymiadau at newidiadau yn yr hinsawdd.
"Rydyn ni wedi penderfynu cau'r ffordd ar gyfer cynnal y gwaith yng Nglyn-coch yn ystod gwyliau'r haf i leihau'r effaith ar y gymuned. Rydyn ni'n cydnabod y bydd y gwaith angenrheidiol yn amharu ar y traffig lleol. Bydd y Cyngor yn gweithio mor gyflym â phosibl i orffen y gwaith, hoffwn i ddiolch i'r gymuned ymlaen llaw am eu cydweithrediad wrth i ni gyflawni'r gwaith yma."
Wedi ei bostio ar 19/07/2022