Skip to main content

Teyrnged i'r Cynghorydd Anthony Burnell

Councillor A Burnell

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi talu teyrnged i'r Cynghorydd Anthony Burnell a fu farw ddydd Mawrth, 19 Gorffennaf.

Roedd y Cynghorydd Burnell (Plaid Cymru) yn aelod etholedig cyfredol wedi iddo gael ei ethol i gynrychioli ward Ynys-y-bwl yn etholiadau lleol mis Mai 2022. Roedd hefyd yn aelod o Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd, y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol.

Meddai'r Cynghorydd Wendy Treeby, Maer Rhondda Cynon Taf: "Ar ran y Cyngor, hoffwn i estyn ein cydymdeimladau dwys â theulu'r Cynghorydd Burnell yn eu galar. Rydyn ni hefyd yn cydymdeimlo â'i gyd Gynghorwyr o Blaid Cymru. 

"Er ei gyfnod byr yn aelod etholedig i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ers mis Mai 2022, byddwn ni'n cofio ei bersona cyfeillgar ac annwyl. Roedd Anthony yn gyn-weithiwr i'r Awdurdod Lleol ac yntau'n aelod o Gyngor Cymuned Ynys-y-bwl am flynyddoedd. Roedd Anthony bob tro'n hyrwyddwr dros ei gymuned leol yn Ynys-y-bwl.

"Roedd Anthony yn falch iawn o gael ei ethol i gynrychioli ei gymuned yn rhan o'r Cyngor, ac rwy'n gwybod iddo edrych ymlaen at gynrychioli ei etholaeth, ei ffrindiau a'i gymdogion ar Gyngor y Sir.

Meddai'r Cynghorydd Karen Morgan, arweinydd Grŵp Plaid Cymru Rhondda Cynon Taf: "Mae calonau Cynghorwyr Plaid Cymru RhCT wedi'u torri wedi colled ein ffrind. Roedd Tony yn ddyn uchel ei barch, yn hyrwyddwr cymunedol ac yn angerddol am wasanaethu'r cymunedau oedd yn hollbwysig iddo. Gwnaeth Tony gymaint i Ynys-y-bwl a Choed-y-Cwm dros y blynyddoedd a byddwn ni'n gweld ei eisiau'n fawr. Rydyn ni'n cydymdeimlo â'i wraig a'i rai annwyl.

Wedi ei bostio ar 21/07/22