Skip to main content

Gwobr Ysgolion sy'n Parchu Hawliau UNICEF

Rights Respect

Mae Canolfan Addysg Tŷ Gwyn yn Aberdâr wedi ennill Gwobr Arian Ysgolion sy'n Parchu Hawliau UNICEF – yr unig un yng Nghymru.

Mae'r cynllun gwobrau Ysgolion sy’n Parchu Hawliau yn cael ei gynnal gan UNICEF, y sefydliad lles cymdeithasol byd-eang sy’n gweithredu mewn 192 o wledydd a thiriogaethau ledled y byd.

Mae UNICEF yn gweithio’n agos gydag ysgolion ledled y DU i greu mannau diogel ac ysbrydoledig i ddysgu, lle mae plant yn cael eu parchu, eu doniau’n cael eu meithrin ac mae modd iddyn nhw ffynnu.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Chyfranogiad Pobl Ifainc: “Llongyfarchiadau i bawb sy’n gysylltiedig â Chanolfan Addysg Tŷ Gwyn ar ennill y Wobr Arian yma gan UNICEF.

"Fel hyrwyddwr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, mae UNICEF yn eiriol dros lywodraethau er mwyn amddiffyn a hyrwyddo hawliau pob plentyn, gan gredu na ddylai hawliau plant fyth gael eu peryglu gan eu hamgylchiadau.

“Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cefnogi’r farn honno ac mae hawliau plant eisoes yn ganolog i’n hethos ac wedi’u gwreiddio ym mhopeth a wnawn i ddarparu addysg wedi'i theilwra o safon i’n holl ddisgyblion wrth hyrwyddo'u datblygiad a’u lles cyfannol a diwallu eu hanghenion ychwanegol.”

Mae’r disgyblion, y staff a phawb sy’n gysylltiedig â Chanolfan Addysg Tŷ Gwyn yn falch o dderbyn Gwobr Arian Ysgolion sy’n Parchu Hawliau UNICEF wrth iddyn nhw barhau i sicrhau bod eu cymuned yn effro i'w hawliau, a bod yr hawliau hynny’n cael eu haddysgu, eu dysgu, eu hymarfer, eu parchu, eu diogelu a'u hyrwyddo.

Meddai Victoria Cox-Wall, Pennaeth Canolfan Addysg Tŷ Gwyn: “Rydyn ni i gyd yn falch iawn o dderbyn Gwobr Arian Ysgolion sy’n Parchu Hawliau UNICEF yn dilyn siwrne 18 mis o hyd lle rydyn ni wedi ail-strwythuro ein haddysgu, dysgu a chymorth i ddisgyblion a staff.

“Mae'r wobr yma'n fawreddog gan mai UNICEF yw’r sefydliad mwyaf blaenllaw yn y byd ar gyfer plant a’u hawliau, gan weithio gyda theuluoedd, cymunedau lleol, partneriaid a llywodraethau ledled y byd i helpu pob plentyn i oroesi a ffynnu.

“Mae ein cwricwlwm yn hybu datblygiad sgiliau, annibyniaeth a chreadigrwydd ac rydyn ni'n rhoi pwyslais cryf ar lais pob plentyn yn cael ei glywed.”

Mae Gwobr Ysgolion sy'n Parchu Hawliau UNICEF yn seiliedig ar egwyddorion cydraddoldeb, urddas, parch, cyfranogiad a pheidio â gwahaniaethu. Mae’n ceisio annog ysgolion i roi hawliau’r plentyn wrth wraidd popeth maen nhw'n ei wneud - o gynllunio strategol a llunio polisïau i’r holl addysgu, dysgu ac asesu a gweithgareddau hamdden, diwylliant a chymunedol ehangach.

Wedi ei bostio ar 25/07/22