Yn fuan, bydd y Cyngor yn dechrau ar y gwaith o atgyweirio ac uwchraddio'r seilwaith draenio presennol yn rhan o gam un Cynllun Lliniaru Llifogydd Treorci, sy'n cael ei ddatblygu ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru.
Bydd cam cychwynnol y gwaith yn dechrau ddydd Llun, 11 Gorffennaf, ar dir y Cyngor a thir preifat ychydig i'r de o Fynwent Treorci. Bydd e'n cynnwys gwaith cynnal a chadw hanfodol ac uwchraddio asedau cwrs dŵr cyffredin presennol ym mhen uchaf Ffordd y Fynwent ac o'i gwmpas – gan gynnwys gwaith yng Nghwm y Goedwig.
Bydd gwaith penodol hyd at yr Hydref 2022 yn cynnwys uwchraddio cefnfur, leinio ac atgyweirio cwlfer, atgyweirio deunyddiau i atal erydu, ailadeiladu sianeli agored a gwaith hwyluso mynediad ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol. Bydd preswylwyr a pherchnogion tir yn derbyn llythyr yn fuan sy'n rhoi rhagor o wybodaeth am y gwaith sydd i ddod. Yn gyffredinol, mae disgwyl y bydd y gwaith yn achosi cyn lleied o darfu â phosibl yn ystod y cam cychwynnol yma o'r cynllun.
Bydd y gwaith yn gwella effeithlonrwydd y rhwydwaith yn y tymor byr i ganolig, tra bod y Cyngor yn datblygu Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y cynllun ehangach.
Mae cam un cynllun Treorci yn cael ei ariannu gan grant Lliniaru Effeithiau Llifogydd (Prosiectau Mawr) Llywodraeth Cymru, ynghyd â chyfraniad gan y Cyngor.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Bydd gwaith yn dechrau yr wythnos nesaf ar gam un Cynllun Lliniaru Llifogydd Treorci i gyflawni gwaith uwchraddio ac atgyweirio’r asedau draenio tua phen uchaf Ffordd y Fynwent. Bydd hyn yn gwella gwytnwch y seilwaith presennol, er mwyn lliniaru'r perygl o lifogydd yn ystod cyfnodau o law trwm.
"Mae’r Cynllun Lliniaru Llifogydd ehangach yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae gwaith adeiladu cam un, a gwaith dylunio a datblygu manwl cam dau, wedi’u cynnwys yn rhaglen gyfalaf y Cyngor, gwerth £26.365m, ar gyfer Priffyrdd a Thrafnidiaeth yn 2022/23. Mae'r gwaith yn cynrychioli cynllun allweddol sy’n cael ei ddatblygu.
"Mae cyflawni gwelliannau penodol i liniaru effeithiau llifogydd a gwella draenio ledled y Fwrdeistref Sirol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Cyngor, ac rydyn ni'n parhau i gyflwyno ceisiadau am gyllid allanol i ategu ein buddsoddiad mawr yn y maes.
"Yn y blynyddoedd diwethaf, mae dros £14 miliwn wedi'i wario ar wella seilwaith lliniaru llifogydd ac mae tua £20 miliwn wedi'i wario ar waith atgyweirio wedi stormydd. Y flwyddyn ariannol yma, mae dros £6.4 miliwn wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith sy'n gysylltiedig â Storm Dennis, yn ogystal â £3.9 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer lliniaru llifogydd ar draws rhaglenni Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a Grant Gwaith Graddfa Fach. Ar ben hynny, mae £440,000 wedi'i glustnodi i symud 10 cynllun Ffyrdd Cydnerth arall yn eu blaenau.
"Mae'r gwaith cam un sydd i ddod yn Nhreorci, sy'n dechrau ar 11 Gorffennaf, yn annhebygol o darfu'n ormodol ar breswylwyr lleol. Bydd y Cyngor yn gweithio'n galed i wneud cynnydd da tuag at gwblhau'r gwaith yn nes ymlaen eleni, er mwyn cyflawni'r gwelliannau lliniaru llifogydd yma er budd y gymuned leol."
Wedi ei bostio ar 08/07/22