Cytunodd y Cabinet yn ei gyfarfod ar 22 Mehefin y byddai'r Cyngor yn parhau i ymrwymo i gymuned y Lluoedd Arfog ac yn buddsoddi £100,000 iddi dros y pum mlynedd nesaf. Penderfynwyd hefyd y byddai'r Swyddog Treftadaeth a Henebion newydd yn datblygu rhaglen fuddsoddi a gwella ar gyfer ein Cofebau Rhyfel. Bydd y swyddog yma'n bwynt cyswllt allweddol i gymunedau ledled Rhondda Cynon Taf.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi buddsoddi yn y gefnogaeth sydd ar gael i'n cyn-filwyr ac yn falch o fod yn un o'r Awdurdodau Lleol cyntaf i gynnig Cyfamod y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Mae'r Cyfamod Cymunedol yn ddatganiad gwirfoddol o gydgefnogaeth rhwng y gymuned sifil o Rondda Cynon Taf a'r Gymuned Lluoedd Arfog lleol.
Yn 2019, lansiodd y Cyngor wasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr sy'n rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd ac ymroddedig am ddim i aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys ystod o wasanaethau gan gynnwys budd-daliadau, gofal cymdeithasol i oedolion, cyllid, cyflogaeth a thai. Hyd yn hyn mae'r gwasanaeth wedi helpu dros 600 o Gyn-filwyr ac aelodau o'u teuluoedd yn Rhondda Cynon Taf. Bydd y £100,000 pellach yma'n sicrhau bod y buddsoddiad yma'n parhau dros y pum mlynedd nesaf.
Dros y deunaw mis diwethaf mae Carfan y Lluoedd Arfog wedi gweithio'n agos â chynghorwyr, grwpiau cymuned lleol ac Adran y Priffyrdd ar nifer o brosiectau Cofebau Rhyfel. Mae'r prosiectau yma wedi cynnwys gwaith gwella a chynnal a chadw. Yn ogystal â hyn darparodd y garfan ystod o gefnogaeth i'r gymuned yng Nghwm-parc wrth agor ei chofeb ryfel newydd.
Dyma'r gwaith cynnal a chadw sydd wedi digwydd:
- Tŵr Cloc Penrhiw-ceibr - Prosiect adfywio mawr yn cynnwys trwsio pedair wyneb y cloc ac adfywio'r gofeb i'w gogoniant gynt. Cafodd y gofeb a'r paneli pres, sy'n coffáu'r rhai o bentref Penrhiw-ceibr a gollodd eu bywydau, eu glanhau.
- Cofeb Rhyfel Aberpennar - Gwelliannau i'r llwybrau troed sy'n arwain at y gofeb, yn ogystal â gosod nifer o feinciau a biniau Rhyfel Byd Cyntaf.
- Parc Coffa Ynysangharad - Gosod celfi stryd o'r Rhyfel Byd Cyntaf.
- Gerddi Coffa Cynon - Mae'r Cyngor yn cefnogi'r broses o osod darllenfa wybodaeth ar safle'r gerddi coffa ac yn cydweithio â Phwyllgor Geddi Coffa Cynon.
Meddai Dirprwy Arweinydd y Cyngor a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber:
"Mae ein dyled ni i aelodau'r Lluoedd Arfog sydd wedi gwasanaethu gartref a thramor yn fawr.
Collodd nifer eu bywydau ond rydyn ni'n parhau i'w cofio nhw â balchder a diolchgarwch ac yn estyn llaw i deuluoedd aelodau'r Lluoedd Arfog ledled Rhondda Cynon Taf.
Mae’n bwysig bod pob un o’n cyn-filwyr o bob oed, a’u teuluoedd, yn gwybod bod Gwasanaeth Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog y Cyngor yno i gynnig cymorth, cefnogaeth ac arweiniad iddyn nhw pryd bynnag maen nhw'u hangen yn ystod eu bywydau.
Mae'r Cyngor yn falch o barhau i gefnogi Cyfamod y Lluoedd Arfog, ddeng mlynedd wedi iddo ei arwyddo. Ddegawd yn ddiweddarach rydyn ni'n parhau i fod yn driw ac yn dal i gefnogi aelodau'r Lluoedd Arfog.
Bydd y buddsoddiad rydyn ni wedi'i gynllunio ar gyfer y pum mlynedd nesaf yn sicrhau bod y gefnogaeth yma'n parhau. Bydd y Swyddog Treftadaeth a Henebion yn ein cynorthwyo ni i ddatblygu rhaglen fuddsoddi a gwella ar gyfer ein Cofebion Rhyfel sy'n hollbwysig wrth goffáu'r rheini a aberthodd eu bywydau."
Wedi ei bostio ar 30/06/22