Skip to main content

Adborth o'r ymgynghoriad ar gynlluniau adfywio Pontypridd

The Pontypridd Placemaking Plan sets out future regeneration plans for the town

Bydd y Cabinet yn trafod yr adborth a ddaeth i law yn rhan o ymgynghoriad a gafodd ei gynnal yn ddiweddar mewn perthynas â Chynllun Creu Lleoedd Pontypridd (drafft). Mae'n bosibl y bydd y Cyngor yn mabwysiadu'r cynllun yma'n dilyn ymateb cadarnhaol gan drigolion mewn perthynas ag amcanion a phrosiectau'r cynllun.

Ym mis Chwefror 2022, cytunodd y Cabinet i geisio barn trigolion am y Cynllun drafft cychwynnol, sy'n amlinellu'r weledigaeth ar gyfer gwaith adfywio pellach ym Mhontypridd, a hynny'n dilyn Fframwaith Adfywio presennol Pontypridd (2017-2022). Mae'r cynllun yn manteisio ar y buddsoddiad gwerth £115 miliwn sydd wedi'i ddarparu ers 2017. Cafodd Llys Cadwyn a Chwrt yr Orsaf eu cyflawni yn rhan o'r buddsoddiad yma, ynghyd â chynlluniau pwysig sy’n ymwneud â YMCA Pontypridd, Canolfan Gelf y Miwni a Pharc Coffa Ynysangharad.

Mae’r Cynllun yn nodi uchelgeisiau craidd ar gyfer Pontypridd. Mae'r uchelgeisiau yma’n cynnwys bod yn gyrchfan busnes ac yn lle gwych i fyw, bod yn dref hygyrch sydd â chysylltiadau trafnidiaeth da, sy’n cynnig mannau gwyrdd ar lan yr afon a threflun unigryw, a bod yn gyrchfan ddiwylliannol a chymdeithasol, yn ogystal â thref gynhwysol a chydnerth. Mae'r Cynllun hefyd yn cynnwys pum ardal sydd â gofod gwag mawr i fod yn ganolbwynt ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol – Porth y De, Craidd Canol y Dref, Ardal y Farchnad, Porth y Gogledd a Pharc Coffa Ynysangharad.

Mae cynlluniau cyffrous ar waith ym Mhorth y De i ailddatblygu hen safle'r Neuadd Bingo a safle Clwb Nos Angharad, yn ogystal ag adeiladau Marks & Spencer (M&S), Dorothy Perkins a Burtons (97-99a, 100-102 Stryd y Taf).

Ymatebion a ddaeth i law yn rhan o'r ymgynghoriad (1 Mawrth i 29 Mawrth)

Mae'r adroddiad sy’n cael ei gyflwyno i’r Cabinet ddydd Mercher (22 Mehefin) yn crynhoi'r adborth o'r ymgynghoriad, a gafodd ei gynnal ar wefan Dewch i Siarad. Cafodd dau achlysur 'galw heibio' cyhoeddus eu cynnal yn lleol, a bu swyddogion yn ymgysylltu â busnesau a sefydliadau lleol. Cafodd arddangosfa ei chynnal yn Llyfrgell Pontypridd, ac anfonwyd negeseuon at randdeiliaid allweddol.

Cafodd cyfanswm o 164 o arolygon, 135 o arolygon byr a 70 o syniadau eu cyflwyno. Daeth wyth llythyr i law hefyd, gan gynnwys llythyrau gan fusnesau, staff, Cynghorwyr Lleol, Cyngor Tref Pontypridd ac Ardal Gwella Busnes Pontypridd. 

O ran y gofod gwag sydd wedi'i nodi ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol, mae’r adroddiad yn nodi bod 84.1% yn cytuno â’r weledigaeth ar gyfer Porth y De, mae 91.1% yn cytuno â'r cynlluniau sy'n ymwneud â Chraidd Canol y Dref, 78.3% ar gyfer Ardal y Farchnad, 73.3% ar gyfer Porth y Gogledd a 78.2% ar gyfer Parc Coffa Ynysangharad.

Roedd y rhan fwyaf o'r bobl a ymatebodd i'r ymgynghoriad yn 'cytuno' neu'n 'cytuno'n gryf' â'r cynigion ar gyfer Porth y De – gydag 88.4% o blaid y cynllun i droi hen safle'r Neuadd Bingo/Clwb Nos Angharad yn westy gan ddefnyddio'r llawr gwaelod at ddibenion manwerthu. Hefyd, roedd 90.9% ac 89.7% o’r rheiny a ymatebodd o blaid y cynlluniau priodol ar gyfer safleoedd M&S a Dorothy Perkins/Burtons. Byddai'r rhain yn cael eu defnyddio i agor y dref tua'r afon gan fanteisio ar gyfleoedd hamdden, masnachol ac adwerthu.

Yn olaf, roedd dros 70% o’r rheiny a ymatebodd i'r ymgynghoriad o’r farn y byddai’r Cynllun yn denu mwy o bobl i ymweld â Phontypridd a gweithio a byw yno, ac y byddai’r dref a’r ardaloedd cyfagos yn elwa’n economaidd ohono. Daw'r adroddiad i'r casgliad bod yr ymateb cyffredinol i'r ymgynghoriad yn gadarnhaol iawn, ac yn amlwg o blaid y Cynllun. Bydd y Cyngor yn parhau i ymgysylltu â thrigolion, busnesau a rhanddeiliaid ehangach wrth i'r cynllun ddatblygu ac wrth i syniadau gael eu datblygu ymhellach. Mae dadansoddiad llawn o’r adborth wedi'i gynnwys yn yr adroddiad sy'n cael ei gyflwyno i'r Cabinet ddydd Mercher. Mae modd gweld yr adroddiad yma ar wefan y Cyngor.

Y diweddaraf am y prosiect (safleoedd y Neuadd Bingo a M&S/Dorothy Perkins/Burtons)

Mae'r adroddiad hefyd yn rhoi'r newyddion diweddaraf ar gynnydd prosiectau allweddol ar gyfer ardal Porth y De.  Cytunodd y Cabinet ym mis Chwefror 2022 y dylid bwrw ymlaen â'r gwaith caffael ffurfiol i sicrhau partner datblygu ar gyfer Safle'r Neuadd Bingo. Mae gwaith sylweddol wedi dechrau ers hynny i baratoi'r dogfennau tendro - ac mae'r gwaith caffael yn debygol o ddechrau ym mis Gorffennaf.

Cafodd eiddo 13-17 Heol Sardis a 103-110 Stryd Taf eu prynu ym mis Mawrth hefyd, yn rhan o Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn rhoi cyfle i greu rhagor o le i gyflawni'r gwaith adeiladu, ac mae swyddogion ar hyn o bryd yn ymgysylltu â busnesau yn yr eiddo yma.

O ran safleoedd M&S a Dorothy Perkins/Burtons, cytunodd y Cabinet ym mis Chwefror 2022 y dylid cyflwyno cais i ddymchwel yr adeiladau. Mae'r Cyngor yn disgwyl arweiniad mewn perthynas â rhaglen ariannu tair blynedd Llywodraeth Cymru a'r gofynion cysylltiedig cyn bwrw ymlaen â'r gwaith.

Mae'r gwaith paratoi wedi parhau, ac mae carfan amlddisgyblaethol dan arweiniad Rhomco Consulting Ltd wedi'i phenodi i fwrw ymlaen â gwaith arolygu a dylunio'r gwaith dymchwel. Bydd rhaglen fanwl yn cael ei llunio a'i hadolygu yn ystod yr wythnosau nesaf.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Datblygu a Ffyniant: “Mae Cynllun Creu Lleoedd Pontypridd yn amlinellu cynigion y Cyngor i fuddsoddi ymhellach yng nghanol y dref, ar ben yr hyn sydd eisoes wedi’i gyflawni ers 2017. Mae hyn yn cynnwys Llys Cadwyn, Cwrt yr Orsaf, a chynnydd pwysig o ran prosiectau YMCA Pontypridd, Canolfan Gelf y Miwni a Pharc Coffa Ynysangharad.

“Mae’r Cynllun, a gafodd ei drafod gan y Cabinet yn gynharach eleni, yn gosod amcanion ar gyfer tref Pontypridd, yn ogystal â nodi pum ardal ar gyfer adfywio yn ystod y blynyddoedd i ddod. Mae’n cynnwys prosiectau ailddatblygu mawr ar gyfer pen deheuol y dref, gyda chynnig i ddatblygu gwesty gan ddefnyddio'r llawr gwaelod at ddibenion manwerthu ar hen safle'r Neuadd Bingo – a chyfle i agor y dref i gyfeiriad yr afon gan ddarparu cyfleoedd hamdden, masnachol a manwerthu ar safleoedd M&S a Burton/Dorothy Perkins. Dyma gyfnod cyffrous iawn i Bontypridd!

“Rwy’n falch bod cynifer o drigolion, busnesau a rhanddeiliaid wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yn ystod mis Mawrth. Daeth 370 o ymatebion i law, gan ddefnyddio ystod o ddulliau i gymryd rhan. Bydd yr adroddiad gan swyddog sy'n cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn ystod ei gyfarfod ar ddydd Iau yn tynnu sylw at yr ymateb cadarnhaol iawn i'r hyn y mae'r cynllun yn ei gynnig - gan gynnwys ei ddyheadau ar gyfer y dref a'r prosiectau sy'n cael eu cynnig.

“Bydd y Cabinet yn manteisio ar y cyfle i drafod y camau nesaf ddydd Mercher, gan benderfynu a oes angen unrhyw newidiadau yn dilyn yr ymgynghoriad – a bydd modd i'r Aelodau ddewis i gymeradwyo’r cynllun yn ffurfiol. Bydd swyddogion hefyd yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith caffael ar gyfer partner datblygu mewn perthynas â hen safle'r Neuadd Bingo, yn ogystal â’r gwaith parhaus sy’n ymwneud â dymchwel adeiladau M&S, a gwaith dylunio’r datblygiad yn y dyfodol.”

Wedi ei bostio ar 17/06/2022