Skip to main content

Cyngor Wedi Ymrwymo i Gyfamod y Lluoedd Arfog

Veteran sercuces

Mae eleni yn nodi 10 mlynedd ers i Gyngor Rhondda Cynon Taf ddod yn un o'r Awdurdodau Lleol cyntaf yng Nghymru i sefydlu Cyfamod y Lluoedd Arfog, a elwid gynt yn Gyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog.

Degawd yn ddiweddarach, mae’r Cyngor yn parhau i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw, a'u teuluoedd.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae ein dyled yn fawr i holl ddynion a menywod y lluoedd arfog sydd wedi ymladd a gwasanaethu gartref a thramor.

“Collodd nifer eu bywydau yn ystod y brwydro, ond rydyn ni'n parhau i’w diolch ac yn eu cofio gyda balchder, gan gynnig ein cefnogaeth i’w teuluoedd a’n holl gyn-filwyr ar draws Rhondda Cynon Taf.

“Mae’n bwysig bod pob un o’n cyn-filwyr o bob oed, a’u teuluoedd, yn gwybod bod Gwasanaeth Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog y Cyngor yno i gynnig cymorth, cefnogaeth ac arweiniad iddynt pryd bynnag maen nhw'u hangen yn ystod eu bywydau.

“Mae’r Cyngor yn falch o barhau â’i ymrwymiad i Gyfamod y Lluoedd Arfog, a gafodd ei llofnodi gyntaf 10 mlynedd yn ôl. Ddegawd yn ddiweddarach rydyn ni'n parhau i fod yn deyrngar ac yn addo ein cefnogaeth barhaus.”

Mae gan Rondda Cynon Taf hanes balch o werthfawrogi ei Lluoedd Arfog, Ddoe a Heddiw. Llofnododd y Cyngor Gyfamod y Lluoedd Arfog gan ymrwymo iddo yn ystod seremoni yng Nghlwb Pêl-droed Rygbi Heol Sardis, Pontypridd, yn 2012, ac mae'r Cyfamod yn destament i gefnogaeth barhaus y Cyngor i Gymuned y Lluoedd Arfog.

Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn ddatganiad gwirfoddol o gydgefnogaeth rhwng y gymuned sifil o Rondda Cynon Taf a'r Gymuned Lluoedd Arfog sydd wedi'i lleoli yn y Fwrdeistref Sirol. Mae'r addewid yn cydnabod y parch deuol rhwng y Cyngor, ei asiantau partner, ei chymunedau lleol a Phersonél y Lluoedd Arfog (sy’n gwasanaethu ac wedi ymddeol) yn ogystal â'u teuluoedd.

Ym mis Mai 2011, cyhoeddodd Y Weinyddiaeth Amddiffyn  "Gyfamod y Lluoedd Arfog: Heddiw ac Yfory" a oedd yn nodi "cyfamod parhaol rhwng pobl y DU, Llywodraeth Ei Mawrhydi a phawb sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog y Goron a'u teuluoedd." Y Cyfamod yw'r mynegiant o'r rhwymedigaeth foesol rhwng y Llywodraeth a'r genedl sy'n ddyledus i'r Lluoedd Arfog.

Cafodd hyn ei ddilyn ym mis Tachwedd 2011 gan gyhoeddiad Llywodraeth Cymru o'i "Phecyn Cymorth ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru", sy'n cyd-fynd â'r Cyfamod ar draws y DU ac yn gosod yr hyn sy'n cael ei wneud o fewn y meysydd datganoledig o gyfrifoldeb.

Yn rhan o Gyfamod y Lluoedd Arfog, ym mis Mehefin 2011 lansiodd Llywodraeth y DU gynllun Cyfamod Cymunedol, sy'n annog darparwyr gwasanaethau cyhoeddus, y sector preifat a'r sectorau gwirfoddol a chymunedol i gynnig cymorth wedi'i dargedu ar gyfer eu cymuned lluoedd arfog lleol.

Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhondda Cynon Taf

Cyngor Rhondda Cynon Taf oedd un o'r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i gytuno i Gyfamod y Lluoedd Arfog yn 2012. Cafodd yr ymrwymiad yma ei ailddatgan yn 2018, gan gadarnhau'r gyd-ddealltwriaeth rhwng ei chymunedau lleol a'r Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw.

Ddegawd yn ddiweddarach, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn parhau â'i ymrwymiad i Gyfamod y Lluoedd Arfog, sy'n symud amcanion y Cyngor ymlaen yn sylweddol o ran rhoi cymorth i gymuned y Lluoedd Arfog.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o fod wedi sefydlu Rhwydwaith Staff y Lluoedd Arfog, sy'n cynnwys aelodau o staff o wasanaethau amrywiol y Cyngor. Mae hefyd wedi cyflwyno proses Gwarantu Cyfweliad y Lluoedd Arfog ac mae ganddo Wasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr llwyddiannus iawn, sydd wedi sefydlu a chefnogi tri grŵp i Gyn-filwyr ar draws y Fwrdeistref Sirol.

Mae Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr y Cyngor hefyd yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd ac ymroddedig am ddim i aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys ystod o wasanaethau gan gynnwys Budd-daliadau, Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Cyllid, Cyflogaeth a Thai.

Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr Cyngor Rhondda Cynon Taf

Derbyniodd Cyngor Rhondda Cynon Taf Wobr Aur fawreddog y Weinyddiaeth Amddiffyn yn 2017 i gydnabod y cymorth y mae'n ei roi i gymuned y Lluoedd Arfog yn lleol.

Ar 2 Mehefin 2018, rhoddodd yr Awdurdod Lleol Ryddfraint y Fwrdeistref Sirol yn Rhondda Cynon Taf i Weinyddiaeth Amddiffyn Sain Tathan, a holl bersonél yr Awyrlu Brenhinol, o'r gorffennol i'r presennol. Rhoddodd y Cyngor Ryddid y Fwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf hefyd i'r Gwarchodlu Cymreig yn 2013.

Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr ar gael i holl bersonél y Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw, a'u teuluoedd. E-bost: GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 07747 485 619 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am-5pm). 

Wedi ei bostio ar 06/06/2022