Skip to main content

Cynghorydd wedi'i benodi'n Gadeirydd Awdurdod Tân

Steve-Bradwick---Aberdare-East

Mae un o Gynghorwyr Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Steven Bradwick, wedi'i benodi’n Gadeirydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru ac mae’n edrych ymlaen at ddechrau yn ei rôl newydd.

Mae'r Cynghorydd Bradwick, yr aelod etholedig ar gyfer Dwyrain Aberdâr ers 2008, wedi bod yn ddirprwy gadeirydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru ers 10 mlynedd. Y Cynghorydd Bradwick yw'r cynghorydd cyntaf o Rondda Cynon Taf i fod yn Gadeirydd yr Awdurdod.

Meddai'r Cynghorydd Steven Bradwick: "Rwy'n falch iawn o gael fy mhenodi'n Gadeirydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru, a minnau wedi bod yn Ddirprwy Gadeirydd ers degawd. Mae'r rôl yma a’r cyfrifoldebau sydd ynghlwm yn bwysig iawn i mi a hoffwn i ddiolch i'r Awdurdod am ymddiried ynof i.

"Byddaf i'n gweithio ar ran Rhondda Cynon Taf ac awdurdodau lleol eraill sy'n rhan o Awdurdod Tân ac Achub De Cymru ac yn parhau â fy ngwaith yn Gynghorydd yn Rhondda Cynon Taf."

Ers mis Ebrill 1996, mae Awdurdod Tân ac Achub De Cymru wedi bod yn gyfrifol am gefnogi Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Mae gan Awdurdod Tân ac Achub De Cymru 24 aelod sy'n cynrychioli'r 10 Awdurdod Lleol mae'n eu gwasanaethu.

Mae Cynghorydd Rhondda Cynon Taf, Aurfron Roberts (Gilfach-goch) wedi'i phenodi'n Gadeirydd y Pwyllgor Adnoddau Dynol a Chydraddoldeb. Mae'r Cynghorwyr canlynol hefyd yn cynrychioli Rhondda Cynon Taf ar Awdurdod Tân ac Achub De Cymru: Y Cynghorydd Glynne Holmes (Llantrisant a Thonysguboriau) a'r Cynghorydd Dawn Parkin (Gorllewin Tonyrefail).

Mae'r Cynghorydd Steven Bradwick hefyd yn aelod o Bwyllgor Trwyddedu Cyngor Rhondda Cynon Taf, Gweithgor y Lluoedd Arfog, Cydbwyllgor Capita Glamorgan a’r Pwyllgor Craffu – Gwasanaethau Cymuned. Mae'r Cynghorydd hefyd yn Gadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Gymunedol Aberdâr ac yn aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Caradog, Aberdâr.

Wedi ei bostio ar 27/06/22