Bydd y Cyngor yn cyflawni gwelliannau draenio ar yr A4059 ger y Drenewydd, Aberpennar, i leihau’r perygl llifogydd yn ystod glaw trwm. Bydd y gwaith yn dechrau ar 20 Mehefin a bydd llif traffig i'r ddau gyfeiriad yn cael ei gynnal.
Bydd y gwaith gwella yn cael ei gynnal o fewn y rhan 40mya o’r A4059 Heol Newydd, ychydig i’r de o’r Drenewydd. Cafodd gwaith clirio ymlaen llaw ei gyflawni dros benwythnos ar ddechrau Ebrill 2022 er mwyn paratoi ar gyfer y cynllun. Mae'r Cyngor wedi penodi Peter Simmons Contractors i gyflawni'r prif waith, gan ddechrau ddydd Llun, 20 Mehefin.
Bydd y gwaith yn cynnwys gosod gylïau mawr ychwanegol, a fydd yn cael eu cysylltu â strwythur pant sy'n cludo dŵr glaw i gwrs dŵr sy'n bodoli eisoes. Bydd hyn yn lleihau’r perygl llifogydd ar y rhan yma o’r A4059 mewn amodau tywydd gwael.
Mae'r contractwr wedi rhoi gwybod y bydd traffig dwy ffordd yn cael ei gynnal yn ystod y rhan helaeth o'r gwaith, a fydd yn para tua phum wythnos. Mae'n bosibl y bydd angen arwyddion 'Stop/Go' o bryd i'w gilydd ar gyfer peiriannau a nwyddau. Bydd y llwybr troed gyferbyn â'r ffordd yn cael ei ddargyfeirio ar hyd llwybr troed presennol.
Cafodd cyllid gwerth £7.5miliwn ei ddarparu gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer gwaith gwella’r priffyrdd a chynlluniau draenio wedi’u targedu yn 2020/21 a 2021/22. Cafodd £400,000 pellach ei sicrhau ar gyfer 2022/23 i symud ymlaen â 10 cynllun, gyda £44,000 ychwanegol wedi'i fuddsoddi gan y Cyngor.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Bydd gwaith yn cael ei gynnal dros y pum wythnos nesaf i gyflawni gwaith gwella pwysig i’r system ddraenio oddi ar yr A4059 ger y Drenewydd. Mae’r gwaith yn cynnwys gosod gylïau ychwanegol a fydd yn dargyfeirio dŵr glaw oddi ar y ffordd, er mwyn lleihau’r risg o lifogydd dŵr wyneb a gafodd eu profi yn y lleoliad yma yn y gorffennol.
“Mae’r Cyngor wedi cyflawni gwaith gwerth miliynau o bunnoedd ar draws nifer o gynlluniau Ffyrdd Cydnerth dros y ddwy flynedd ddiwethaf – ac mae’n parhau â’r gwaith wedi'i dargedu yma yn 2022/23 gyda £400,000 ychwanegol wedi’i sicrhau. Mae gwelliannau draenio dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi’u cyflawni ar Ffordd Liniaru’r Porth yn Ynys-hir, ar yr A4061 Ffordd y Rhigos, yn Stryd Hermon a’r Stryd Fawr yn Nhreorci, ac mewn sawl lleoliad ar yr A4059 – i’r gogledd o Gylchfan Asda, o Ben-y-waun i Dreorci, a rhwng Aberpennar ac Abercynon.
“Cyn hir, bydd trigolion a chymudwyr yn sylwi ar y gwaith yn dechrau gerllaw’r A4059 ar y darn o ffordd ychydig i’r de o’r Drenewydd – o ddydd Llun, 20 Mehefin. Bydd llif traffig yn parhau i'r ddau gyfeiriad wrth gynnal y gwaith, felly mae'n annhebygol y bydd tarfu sylweddol ar ddefnyddwyr ffyrdd. Bydd y Cyngor yn gweithio gyda'r contractwr i fwrw ymlaen â'r gwaith cyn gynted ag y bo modd ac yn y ffordd fwyaf effeithlon ag sy'n bosib. Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.”
Mae’r Cyngor hefyd wedi sicrhau cyllid ar wahân gan Lywodraeth Cymru sydd wedi'i glustnodi ar gyfer lliniaru llifogydd yn ystod 2022/23. Mae hyn yn cynnwys £2.939 miliwn o'r rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, a £939,250 o'r rhaglenni Grant Gwaith Graddfa Fach.
Wedi ei bostio ar 14/06/2022