Bydd y Cabinet yn trafod cynigion i'r Cyngor gyflogi carfan newydd o Wardeiniaid y Gymuned er mwyn sicrhau presenoldeb gweladwy, sy'n tawelu meddwl, yng nghanol ein trefi, ein parciau a'n cymunedau – yn ogystal ag ariannu 10 Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu ychwanegol i weithio yn Rhondda Cynon Taf.
Mae adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ddydd Mercher, 22 Mehefin yn nodi y byddai Wardeiniaid y Gymuned yn sicrhau presenoldeb gweladwy, mewn gwisg swyddogol, mewn ardaloedd lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn broblem, gan ganolbwyntio ar barciau a chanol trefi. Byddai'r garfan yn gweithredu saith diwrnod yr wythnos, gan gynnwys patrolau gyda'r nos. Eu prif ddyletswydd fyddai tawelu meddwl a helpu'r gymuned ehangach i greu amgylchedd byw mwy diogel a dymunol i bawb.
Bydden nhw'n helpu Carfan Cymunedau Diogel y Cyngor i ymateb i adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol, a gorfodi'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) sy'n gwahardd yfed alcohol yng nghanol trefi a defnyddio sylweddau meddwol eraill mewn cymunedau lleol.
Rhagwelir hefyd y byddai'r Wardeiniaid newydd yn rhan o Garfan Gorfodi ac Ymwybyddiaeth Materion yr Amgylchedd ar ei newydd wedd, gan weithio'n agos gyda'r Garfan Gorfodi Gofal y Strydoedd. Yn rhan o'u rôl, byddai modd iddyn nhw roi dirwyon am droseddau amgylcheddol o ddydd i ddydd fel baw cŵn neu droseddau rheoli cŵn eraill o dan GDMC y Cyngor, megis y gwaharddiad ar gŵn o bob maes chwarae i blant a chaeau chwaraeon wedi'u marcio a gynhelir gan y Cyngor.
Mae'n bwysig nodi na fydd y wardeiniaid yn disodli presenoldeb na gweithgarwch yr Heddlu yng nghymunedau Rhondda Cynon Taf. Yn lle hynny, bydden nhw'n ategu'r gwasanaethau presennol, gan weithio gyda holl sefydliadau sy'n aelodau o'r Bartneriaeth Cymunedau Diogel, yn ogystal â sefydliadau cymunedol a gwirfoddol.
Mae'r adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ddydd Mercher hefyd yn argymell bod yr Aelodau'n cytuno i'r Cyngor ariannu 10 PCSO ychwanegol. Byddai'r Swyddogion yma'n cael eu lleoli dan gyfarwyddyd Heddlu De Cymru, ond bydden nhw'n adnodd ychwanegol pwrpasol i weithio yn Rhondda Cynon Taf. Byddai hyn ar ben yr holl PSCOs presennol, ac yn ychwanegol at gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru i ariannu 100 o PCSOs ychwanegol ledled Cymru.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Bydd y Cabinet yn trafod adroddiad swyddog sy'n argymell bod y Cyngor yn cyflogi carfan o 10 Warden y Gymuned newydd er mwyn darparu patrolau mewn gwisg swyddogol mewn ardaloedd lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn broblem, gan ganolbwyntio ar barciau a chanol trefi. Rydyn ni'n gwybod bod ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y pandemig, a bwriad y wardeiniaid yw darparu presenoldeb sy'n tawelu meddwl trigolion.
“Eu prif nod fyddai helpu trigolion i deimlo'n ddiogel yn ein cymunedau, ond byddai eu rôl yn amlochrog. Er enghraifft, bydden nhw'n helpu'r Garfan Cymunedau Diogel i ymateb i achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac yn gweithredu'n adnodd ychwanegol i fynd i'r afael â sbwriel a throseddau amgylcheddol eraill fel baw cŵn. Mae'r Garfan Gorfodi Gofal y Strydoedd yn delio â'r achosion yma ar hyn o bryd.
“Wrth gynyddu nifer y wardeiniaid ar lawr gwlad, bydd modd iddyn nhw sicrhau cysylltiadau agos ar draws nifer o wasanaethau eraill y Cyngor – o'r adran TCC i Ymgysylltu ag Ieuenctid a Safonau Masnach, yn ogystal ag Aelodau Etholedig. Bydd y garfan hefyd yn helpu i gryfhau gwaith ar y cyd ymhellach â sefydliadau allanol sy'n rhan o'r Bartneriaeth Cymunedau Diogel.
“Mae'r adroddiad i'r Cabinet hefyd yn argymell bod Aelodau'n cytuno i'r Cyngor ddarparu cyllid i’r Heddlu ar gyfer 10 PSCO lleol ychwanegol, a fyddai’n gwasanaethu cymunedau lleol yn Rhondda Cynon Taf. Unwaith eto, bwriad hyn yw cynyddu presenoldeb gweladwy, mewn gwisg swyddogol, ar ein strydoedd, a chryfhau’r plismona amhrisiadwy mewn ardaloedd lle mae problemau, a hynny er budd trigolion ac ymwelwyr.”
Wedi ei bostio ar 17/06/22