Union 40 mlynedd yn ôl yr wythnos yma, ymosodwyd ar long Sir Galahad a Sir Tristram yn Ne’r Iwerydd, un o adegau allweddol Rhyfel y Falklands, gan ladd 48 o ddynion y Lluoedd Arfog Prydeinig, y rhan fwyaf ohonyn nhw o'r Gwarchodlu Cymreig.
Fel arwydd o barch i bawb a fu farw yn ystod yr ymosodiad hwnnw, ac yn ystod yr holl wrthdaro yn y Falklands yn 1982, cafodd gwasanaeth coffa i nodi 40 mlynedd ers y rhyfel ei gynnal ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd.
Digwyddodd yr ymosodiad ar long Sir Galahad yn Bluff Cove, Ynysoedd Falkland, ar 8 Mehefin, 1982. Cafodd y gwasanaeth coffa ei gynnal wrth Gofeb Sir Galahad Rhyfel y Falklands ym Mharc Coffa Ynysangharad. Mae’r garreg goffa, sydd wedi’i lleoli yn yr Ardd Goffa, yn anrhydeddu’r rhai o ardal Taf-elái a fu farw mewn brwydr dros ryddid yn Ynysoedd Falkland.
Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber: “Mae’n bwysig ein bod ni'n nodi’r diwrnod yma gan fod cynifer o bobl wedi colli eu bywydau yn ystod Rhyfel y Falklands, gan gynnwys rhai o drigolion Rhondda Cynon Taf. Heddiw rydyn ni'n eu cofio nhw i gyd ac yn anfon ein cydymdeimlad at eu teuluoedd.
“Mae ein dyled yn fawr i’n holl Luoedd Arfog, ddoe a heddiw, a’u teuluoedd. Bydd y Cyngor yma'n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i’w cefnogi.”
Ar 2 Ebrill 1982, fe wnaeth yr Ariannin oresgyn Ynysoedd Falkland, sef trefedigaeth anghysbell y DU yn Ne'r Iwerydd. Dywedodd yr Ariannin ei fod wedi etifeddu'r ynysoedd o Sbaen yn y 1800au a'i fod am adennill eu sofraniaeth. Roedd y Deyrnas Unedig wedi rheoli’r ynysoedd ers 150 o flynyddoedd, a phenderfynodd yn gyflym i ymladd yn ôl, gan arwain at ryfel byr ond chwerw a barodd 72 diwrnod.
Yn ystod y frwydr a ddilynodd, bu farw 655 o filwyr yr Ariannin a 255 o filwyr Prydain, yn ogystal â thri pherson o Ynysoedd Falkland. Llwyddodd lluoedd Prydain i adennill y Falklands ar 14 Mehefin, 1982.
Bu farw 48 o ddynion ar fwrdd llong y Sir Galahad yn Bluff Cove ddydd Mawrth, 8 Mehefin 1982, ac roedd 32 ohonyn nhw o'r Gwarchodlu Cymreig. Cafodd llawer yn rhagor eu hanafu. Dinistriodd jetiau Skyhawk long y Sir Galahad chwe diwrnod cyn diwedd Rhyfel y Falklands.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn parhau i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw, a'u teuluoedd. Cyngor Rhondda Cynon Taf oedd un o'r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i gytuno i Gyfamod y Lluoedd Arfog yn 2012, a chadarnhawyd yr ymrwymiad yma yn 2018.
Mae Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr y Cyngor yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd ac ymroddedig am ddim i aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys ystod o wasanaethau gan gynnwys Budd-daliadau, Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Cyllid, Cyflogaeth a Thai.
Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr y Cyngor:
Derbyniodd yr Awdurdod Lleol Wobr Aur fawreddog y Weinyddiaeth Amddiffyn yn 2017 i gydnabod y cymorth y mae'n ei roi i gymuned y Lluoedd Arfog yn lleol.
Mae Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr Rhondda Cynon Taf ar gael i holl bersonél y Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw, a'u teuluoedd. E-bost: GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 07747 485 619 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am-5pm).
Wedi ei bostio ar 09/06/2022