Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru, mae’r Cyngor wedi cadarnhau y bydd pob disgybl dosbarth derbyn yn cael cynnig prydau ysgol am ddim o fis Medi ymlaen, gyda disgyblion Blwyddyn 1 a 2 i ddilyn yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Ddydd Llun (20 Mehefin), cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd plant dosbarth derbyn yn dechrau cael prydau ysgol gynradd am ddim – yn rhan o’i hymrwymiad i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd erbyn 2024. Ychwanegodd y Llywodraeth y bydd y rhan fwyaf o blant ym mlynyddoedd 1 a 2 hefyd yn dechrau derbyn y ddarpariaeth erbyn Ebrill 2023, gydag awdurdodau lleol i dderbyn cymorth i’w chyflwyno.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf bellach wedi cadarnhau y bydd plant dosbarth derbyn yn y fwrdeistref sirol yn cael cynnig prydau ysgol am ddim o ddydd Llun 5 Medi 2022, sef dechrau tymor yr hydref.
Yn ogystal, bydd holl blant blwyddyn 1 yn Rhondda Cynon Taf yn dechrau derbyn y cynnig ar ddechrau tymor ysgol y gwanwyn ym mis Ionawr 2023, ac yna holl blant blwyddyn 2 o ddechrau tymor ysgol yr haf yn Ebrill 2023.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: "Rwy'n falch iawn bod y Cyngor wedi gallu cadarnhau ei safbwynt ar y mater o gyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd, yn fuan iawn yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru. Mae hwn yn gam pwysig iawn tuag at gyrraedd yr uchelgais rydyn ni'n ei rannu: na fydd unrhyw blentyn yn llwglyd tra ei fod yn yr ysgol.
"Mae cyhoeddiad y Cyngor wedi cadarnhau y bydd ein disgyblion ifainc yn y dosbarth derbyn yn dechrau cael prydau ysgol am ddim yn y flwyddyn ysgol newydd o fis Medi 2022, ac yna blwyddyn 1 a 2 yn gynnar yn 2023. Mae’n arbennig o galonogol y bydd disgyblion blwyddyn 1 yn Rhondda Cynon Taf yn derbyn y ddarpariaeth ym mis Ionawr 2023, yn gynt na'r argymhelliad i awdurdodau lleol o Ebrill 2023.
"Yr wythnos yma, mae'r Cyngor wedi ysgrifennu at rieni a gwarcheidwaid i gadarnhau’r trefniadau lleol yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru, a bydd e'n cyfathrebu â theuluoedd eto wrth i’r cynnig gael ei gyflwyno i bob grŵp blwyddyn."
Wedi ei bostio ar 27/06/22