Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn rhoi Rhyddfraint y Fwrdeistref Sirol i'r holl weithwyr allweddol i gydnabod eu gwaith caled anhunanol a'u hymroddiad drwy gydol pandemig byd-eang COVID-19.
Bydd tri achlysur awyr agored i'r holl deulu yn cael eu cynnal ym mis Gorffennaf ar gyfer Rhyddfraint y Fwrdeistref Sirol, sef yr anrhydedd fwyaf y gall yr awdurdod lleol ei rhoi.
Gan ddechrau am 11am a gorffen am 5pm, bydd yr achlysur ‘Diolch i'r Gymuned’ cyntaf yn cael ei gynnal ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, ddydd Sadwrn 9 Gorffennaf, yna ym Mharc Gelligaled, Ystrad, ddydd Sadwrn 16 Gorffennaf a Pharc Aberdâr ddydd Sadwrn 23 Gorffennaf.
Mae croeso i bawb ddod i'r achlysuron, a hynny er mwyn dod â'r gymuned gyfan ynghyd ar ôl cyfnod mor heriol.
Bydd adloniant i blant AM DDIM yn cynnwys creu anifeiliaid â balŵns a sgiliau syrcas, ynghyd â ffair fach, teganau gwynt, golff am hwyl a theithiau Segway (bydd cost fach ynghlwm â'r rhain).
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Rwyf wrth fy modd ac yn falch bod ein holl weithwyr allweddol yn cael Rhyddfraint ein Bwrdeistref Sirol. Chwaraeodd pob un ohonyn nhw ran anhygoel yn y frwydr yn erbyn pandemig byd-eang COVID-19, a arweiniodd at farwolaeth cynifer o bobl.
“Bydd y tri achlysur yn ymwneud â myfyrio a chofio'r holl bobl a fu farw - aelodau o'r teulu, anwyliaid, ffrindiau a phobl doedden ni ddim hyd yn oed yn eu hadnabod. Ond bydd hefyd yn gyfle i ni ddiolch i gynifer o’n gweithwyr allweddol a roddodd gymaint yn ystod y cyfnod tywyll ac anodd hwnnw.
“Rydyn ni'n dod i gysylltiad â gweithwyr allweddol ym mhob man, ac ym mhob math o swyddi, o'r gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol, y gwasanaethau brys, staff rheng flaen, y rheiny sy'n dosbarthu ein post a'n nwyddau i bobl sy'n gweithio mewn siopau. Mae'r rhestr yn mynd yn ei blaen. Mae ein dyled yn fawr iddyn nhw i gyd am eu hymdrechion yn ystod y pandemig.
“Mae’r Cyngor yma'n anrhydeddu popeth mae'r bobl yma wedi'i wneud ar ein cyfer ni gan roi'r 'diolch' mwyaf posibl iddyn nhw, sef Rhyddfraint Rhondda Cynon Taf.”
Mae gyda Rhondda Cynon Taf hanes balch o gydnabod ac anrhydeddu'r rheiny sydd wedi rhoi gwasanaeth eithriadol i'r Fwrdeistref Sirol. Dim ond y rheiny sydd wir yn haeddu'r anrhydedd sy'n derbyn y Rhyddfraint. Mae'r anrhydedd yma'n fawreddog ac yn brin trwy fwriad, a hynny er mwyn sicrhau ei phwysigrwydd.
Meddai Maer Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Wendy Treeby: “Bydd yn anrhydedd enfawr i roi Rhyddfraint Rhondda Cynon Taf i bob un o’n gweithwyr allweddol. Mae gormod o lawer i'w cydnabod nhw'n unigol, ond gyda'n gilydd byddwn ni'n dweud y 'diolch' mwyaf posibl yn yr unig ffordd y gallwn ni, gan roi Rhyddfraint ein Bwrdeistref Sirol i'n holl weithwyr allweddol.
“Mae gweithwyr allweddol yn dod o bob cefndir. Efallai mai nhw yw eich partner, aelod o'ch teulu, neu'ch ffrind. Gweithiwr allweddol yw rhywun sy'n cael ei ystyried ei fod yn darparu gwasanaeth hanfodol, waeth pa mor fawr neu fach. Maen nhw'n gwybod pwy ydyn nhw.
“Byddwn ni’n ddiolchgar iddyn nhw i gyd am byth. Wrth dderbyn Rhyddfraint Rhondda Cynon Taf, mae ein gweithwyr allweddol mewn cwmni da.”
Dyma rai o'r rheiny sydd wedi derbyn Rhyddfraint Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf; Glowyr De Cymru; Y Cymry Brenhinol; Y Gwarchodlu Cymreig; awdures a dramodydd, y diweddar Elaine Morgan OBE; sylfaenydd y Rasys Nos Galan, y diweddar Bernard Baldwin MBE; y Cory band; a'r Weinyddiaeth Amddiffyn Sain Tathan a phob aelod o'r Awyrlu Brenhinol, heddiw a ddoe.
Roedd y Cyngor yn annog ei drigolion i ddangos eu gwerthfawrogiad i weithwyr allweddol a staff y GIG yn ystod y pandemig trwy ymuno â miloedd o bobl i sefyll ar stepen eu drysau ac yn eu gerddi a chlapio yn rhan o'r ymgyrch genedlaethol.
Yn ystod pandemig COVID-19, mae ymdrech, gwaith ac aberthau gweithwyr allweddol ar draws Rhondda Cynon Taf a thu hwnt wedi bod yn hollbwysig wrth ddiogelu eraill. Yn ystod y pandemig, dangoson ni werthfawrogiad tuag at weithwyr allweddol o'r fath yn lleol ac yn genedlaethol trwy enfysau, negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol, arwyddion ffyrdd a chanmoliaeth wythnosol ar stepen ein drysau.
Wedi ei bostio ar 14/07/2022