Mae'r Cyngor wedi sicrhau swm mawr o gyllid gan Lywodraeth Cymru a bydd yn dechrau gwaith cyflawni cynllun lliniaru llifogydd sylweddol yn Abercwmboi, a hynny er mwyn lleihau'r risg o lifogydd yn yr eiddo ac ar y briffordd yn Nheras Bronallt.
Ddydd Iau 16 Mehefin, aeth Arweinydd y Cyngor i gwrdd â Chynghorwyr lleol y ward i roi gwybodaeth a throsolwg o'r gwaith. Bydd y cynllun yn dechrau ddydd Llun 27 Mehefin gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer lliniaru llifogydd. Bydd y gwaith yn cael ei gynnal oddi ar y ffordd ddienw (ochr yn ochr â'r B4275) lle mae Bythynnod y Lofa (Pit Cottages). Mae cwrs dŵr yn rhedeg i’r gorllewin o’r tai yma, trwy ardal o gefn gwlad a thrwy seilwaith draenio presennol fydd yn cael ei wella yn ystod y gwaith sydd ar ddod.
Bydd y cynllun yn cynnwys adeiladu pwll arafu mawr ar hyd y cwlfer presennol, a hynny er mwyn cynyddu'n sylweddol faint o ddŵr mae'n gallu ei ddal. Mae pyllau arafu yn casglu dŵr ac yn ei ryddhau'n araf i'r system ddraenio. Mae hyn yn helpu i atal gormod o ddŵr rhag mynd i mewn i'r system yn ystod cyfnodau o law trwm. Bydd man rheoli malurion a mynediad gwell ar gyfer cyflawni gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol hefyd yn cael eu creu'n rhan o'r cynllun.
Bydd y Cyngor yn cynnal y gwaith yma ochr yn ochr â'r is-gontractwr, Hammonds Ltd. Bydd y gwaith yn para hyd at bedwar mis, ond fydd dim llawer o darfu ar y gymuned o ganlyniad i leoliad pell safle'r gwaith. Bydd modd cyrraedd y safle oddi ar y B4275 ger ei gyffordd â Bythynnod Abercwmboi, sy'n arwain i Fythynnod y Lofa.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Bydd y cynllun sylweddol yma yn Abercwmboi yn gwella seilwaith draenio presennol yn fawr, gan gasglu dŵr glaw a lleihau faint o ddŵr y bydd raid i'r rhwydwaith ei reoli ar unrhyw un adeg. Bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar yr ardaloedd sydd pellach i lawr yr afon yn ystod cyfnodau o law trwm, gan amddiffyn cartrefi a busnesau lleol a'r briffordd o gwmpas ardal Teras Bronallt.
“Roedd modd i fi ymweld â'r safle yr wythnos yma gyda Chynghorwyr ward Aberaman, a bydd Swyddogion yn rhoi'r diweddaraf i'r Aelodau am gynnydd y cynllun wrth iddo ddatblygu dros y misoedd nesaf.
“Mae'r gwaith yma yn Abercwmboi yn debyg i gynllun diweddar yn Lôn y Parc a chaeau chwarae Cae Pugh yn Nhrecynon. Cafodd sianel newydd a phwll arafu eu creu i gynyddu faint o ddŵr y mae'r rhwydwaith yn gallu ei ddal. Mae'r ddau gynllun wedi elwa o gyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru, ac rydyn ni'n croesawu'r cymorth parhaus yma i'n helpu ni i gyflawni cynlluniau lliniaru llifogydd wedi'u targedu ar gyfer ein cymunedau.
“Mae'r Cyngor hefyd yn parhau i flaenoriaethu buddsoddi mewn mesurau lliniaru llifogydd a draenio'n rhan o’i Raglen Gyfalaf ar gyfer y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol ar gyfer 2022/23, gwerth £26.3 miliwn. Yn ogystal â hyn, mae dros £6.4 miliwn wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith sy'n gysylltiedig â Storm Dennis eleni, yn ogystal â £400,000 i symud 10 cynllun Ffyrdd Cydnerth arall yn eu blaenau, a thua £3.9 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer lliniaru llifogydd ar draws rhaglenni Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a Grant Gwaith Graddfa Fach.
“Rydw i'n falch y bydd gwaith ar Gynllun Lliniaru Llifogydd Pen Uchaf Teras Bronallt yn Abercwmboi yn dechrau'n fuan. Oherwydd bod y gwaith yn cael ei gynnal i ffwrdd o'r briffordd, fydd dim llawer o darfu ar y gymuned. Bydd y Cyngor yn rhoi'r newyddion diweddaraf i drigolion wrth i'r gwaith i gyflawni'r gwaith gwella pwysig yma i'r rhwydwaith draenio fynd rhagddo, er budd y gymuned.”
Wedi ei bostio ar 17/06/22