Skip to main content

Ailagor bwyty poblogaidd yn Aberpennar ar ôl cyfnod cythryblus Covid

Cynon Valley Bowls - June 22 -57

Mae staff mewn bwyty poblogaidd yn Aberpennar, a wnaeth ymdrech gymunedol hanfodol yn ystod pandemig y Coronafeirws, wrth eu bodd bod modd iddyn nhw ddechrau gweini bwyd a diodydd, gan gynnwys eu cerfdy enwog, unwaith eto.

O 28 Mehefin, bydd bwyty Woods yn ail-agor saith diwrnod yr wythnos, gan gynnig dewis gwych o dameidiau ysgafn, stêcs, byrgyrs a phrydau traddodiadol fel scampi a phastai stêc a chwrw. Bydd hefyd, wrth gwrs, yn cynnig ei ginio rhost poblogaidd ar ddydd Sul.

Cafodd bwyty Woods, sydd wedi'i leoli yng Nghanolfan Fowlio Dan Do Cwm Cynon, ei feddiannu'n llwyr gan y GIG yn anterth y pandemig.

Trowyd y bwyty/ardal fwyta boblogaidd a phrysur yn ganolfan brofi a brechu â 18 gorsaf bron dros nos, tra daeth ystafelloedd staff a swyddfeydd yn storfeydd ar gyfer y brechlynnau.

Roedd staff a oedd yn fwy cyfarwydd â gweini byrddau a choginio bwyd yn cael eu hadleoli ac fe wnaethon nhw ymdrech anhygoel i gynnal profion Coronafeirws ar gyfer trigolion Cwm Cynon a thu hwnt.

Yn ddiweddarach, fe wnaethon nhw ailhyfforddi eto i ddod yn rhan hanfodol o'r rhaglen frechu enfawr a ddarparwyd, unwaith eto, ym mhrif ardal fwyta bwyty Woods.

Bron i ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae'r lleoliad wedi'i drosglwyddo'n ôl i’r Cyngor gan y GIG ac rydyn ni’n gweithio gyda rheolwr Woods, Allison Giblin, a'i staff i ail-lansio'r lleoliad.

“Rydyn ni'n falch ein bod ni wedi bod yn rhan bwysig o’r ymateb cymunedol i’r Coronafeirws,” meddai Alison, sydd wedi rheoli’r ganolfan ers 28 mlynedd.

“Rydw i mor falch o fy staff a oedd mor barod i gael eu hailhyfforddi i chwarae eu rhan i amddiffyn a gofalu am gymunedau, gan gynnwys llawer o bobl rydyn ni wedi arfer eu gweld yma fel cwsmeriaid.

“Roedden nhw mor broffesiynol. Er hyn, nawr yw'r amser i ni ddychwelyd at yr hyn rydyn ni'n caru ei wneud orau. Mae gwaith adfywio wrthi’n mynd rhagddo yn y bwyty a dydyn ni ddim yn gallu aros i ailagor gyda gwedd newydd a bwydlen newydd!”

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cyngor ar gyfer Aberpennar: “A ninnau'n berchnogion yr adeilad, roedden ni'n falch o’i enwebu i’w ddefnyddio yn safle profi a brechu yn rhan o’r ymateb i’r Coronafeirws yn 2020.

“Fe wnaeth y bwyty ddiflannu bron dros nos ac roedd  staff yn hynod barod i ailhyfforddi er mwyn dod yn rhan hanfodol o’r frwydr rheng flaen yn erbyn y Coronafeirws.

“Nawr ein bod ni mewn sefyllfa lle mae modd cau’r ganolfan brofi a brechu, mae’n briodol i ni gydnabod yr ymdrech honno, a gweithio gyda staff a rheolwyr Bwyty Woods i ddychwelyd y lleoliad i’w hen ogoniant.

“Rydw i'n gwybod bod Alison a’i staff yn edrych ymlaen at ddychweliad eu cwsmeriaid ac at groesawu wynebau newydd i fwyty Woods.”

Mae rhagor o wybodaeth am fwyty Woods yn www.cvibc.co.uk neu dilynwch Woods Restaurant ar Facebook.

 

Wedi ei bostio ar 24/06/2022