Mae Dirprwy Bennaeth yn Rhondda Cynon Taf wedi ennill Gwobr Arian yng Ngwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson 2022.
Mae Nicola Richards, o Ysgol Gynradd Caegarw, wedi’i hanrhydeddu â Gwobr Arian yng Ngwobr Athro’r Flwyddyn mewn Ysgol Gynraddam ei hymrwymiad rhagorol i newid bywydau'r plant y mae'n gweithio gyda nhw bob dydd.
Clywodd y panel beirniaid fod Mrs Richards yn athrawes ysbrydoledig sy'n gosod lles staff a disgyblion wrth galon y cwricwlwm ysgol gyfan. Mae hi'n credu'n gryf bod ysgol hapus yn ysgol sy'n dysgu.
Mae ei hagwedd siriol a chadarnhaol at fywyd ysgol yn heintus, ac mae’n aelod hoffus o’r staff. Mae ei hymagwedd 'gallu gwneud' o gyflwyno’r cwricwlwm yn sicrhau bod pob plentyn yn cyrraedd ei lawn botensial trwy brofiadau dysgu cofiadwy, cyffrous a chyfoethog sy'n cael eu harwain gan y plentyn.
A hithau'n enillydd y Wobr Arian, mae Nicola Richards bellach ar y rhestr fer i ennill un o'r 16 o Wobrau Aur yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Bydd y seremoni yn cael ei darlledu ar raglen The One Show y BBC yn rhan o ddathliad wythnos gron o addysgu, lle bydd wynebau enwog yn anrhydeddu enillwyr y gwobrau bob nos yn y cyfnod cyn y seremoni.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Chyfranogiad Pobl Ifainc: “Mae Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson 2022 yn gyfle gwych i ddathlu’r arweinwyr ysgol eithriadol a’r athrawon sydd wedi cyflawni gwyrthiau wrth ddod â’u cymunedau lleol ynghyd, er gwaethaf heriau’r blynyddoedd diwethaf.
“Mae nifer o arweinwyr ysgol ac athrawon o’r fath gyda ni'n gweithio bob dydd yn ein hysgolion ar draws y Fwrdeistref Sirol, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am bopeth maen nhw'n ei wneud i’n disgyblion. Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi dangos i ni pa mor hanfodol yw ein hysgolion i’r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu.
“Hoffwn hefyd longyfarch Nicola Richards ar ei llwyddiant anhygoel yng Ngwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson, gan ddod â balchder mawr i Rondda Cynon Taf ac yn arbennig i bawb sy’n gysylltiedig ag Ysgol Gynradd Caegarw yn Aberpennar.”
Meddai Huw Griffiths, Pennaeth yn Ysgol Gynradd Caegarw: “Mae pawb sy’n gysylltiedig â’n hysgol yn hynod o falch o Nicola Richards am ennill y gydnabyddiaeth genedlaethol yma ar ôl dwy flynedd anodd i bawb sy’n gweithio yn y proffesiwn addysg.
“Mae Mrs Richards yn aelod gwerthfawr o’n tîm ac yn uchel ei pharch ymhlith ei chydweithwyr a’r teuluoedd. Mae hi'n gwerthfawrogi ei pherthynas â’r disgyblion ac mae ei hagwedd gyfannol a siriol at addysg yn ffactor arwyddocaol yn llwyddiant ei disgyblion.”
Mae Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson yn ddathliad blynyddol o ragoriaeth mewn addysg. Cafodd ei sefydlu yn 1998 i gydnabod effaith athrawon ac athrawesau ysbrydoledig sy'n newid bywydau'r bobl ifanc sy'n ddisgyblion iddyn nhw. Eleni yw'r 23ain blynedd o ddathlu staff addysgu ysgolion ledled y DU.
Wedi ei bostio ar 16/06/22