Skip to main content

Disgyblion yn ail-ddysgu am ryfeddodau ailgylchu gwastraff

Mae disgyblion Ysgol Gynradd Maes-y-Deri wedi mentro i fyd ailgylchu a gwastraff wrth i atyniad Ymweld â Bryn Pica agor ei ddrysau am y tro cyntaf mewn dwy flynedd.

Y disgyblion lwcus yma oedd y cyntaf i ymweld â’r safle ers cyn pandemig Covid-19 ym mis Mawrth 2020. Roedd y disgyblion yn llawn cyffro wrth ddarganfod sut a pham ei bod hi mor bwysig ailgylchu ledled y Fwrdeistref Sirol a thu hwnt.

Yn ystod yr ymweliad arbennig yma, fe gymerodd y plant ran mewn taith ryngweithiol a darganfod nifer o gyfrinachau am ailgylchu. Cawson nhw hefyd gyfle i weld drostyn nhw eu hunain sut mae modd defnyddio gwastraff i greu eitemau newydd, a sut mae gwastraff yn cael ei ddidoli yn fathau gwahanol, yma yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd y Ganolfan Ailgylchu ac Addysgu ryngweithiol - Canolfan Ymwelwyr Alun Maddox, sydd wedi'i lleoli ger Amgen Cymru a safle tirlenwi Bryn Pica - ei hagor yn swyddogol ym mis Medi 2019.

Mae gan y Ganolfan fideos rhyngweithiol, a ddangosodd i'r disgyblion sut mae gwastraff ailgylchu'n cael ei drin yma yn y Fwrdeistref Sirol. Roedd modd iddyn nhw hefyd ddysgu sut mae poteli yn cael eu hailgylchu drwy gymryd rhan mewn cwis rhyngweithiol, darganfod beth sydd yn eu biniau, neidio i'r môr rhyngweithiol, didoli gwastraff ailgylchu yn y Cyfleuster Adennill Deunydd bach a llawer yn rhagor.  

Mae'r Ganolfan ar agor pump diwrnod yr wythnos i ysgolion a grwpiau cymuned lleol yn Rhondda Cynon Taf. Bydd pob ysgol/grwp sy'n cymryd rhan mewn sesiwn ailgylchu yr haf yma'n cael eu hychwanegu i raffl i gael cyfle i ennill pecyn amgylcheddol cychwynnol sy’n cynnwys naill ai offer codi sbwriel neu offer garddio. Mae'r pecyn yma werth tua £150.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth:

"Dylai ailgylchu fod yn rhan annatod o'n bywydau bellach, yn enwedig ar gyfer ein trigolion iau. Mae Canolfan Ymwelwyr Alun Maddox yn cyfrannu at addysgu pobl am ailgylchu a'r amgylchedd mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol, a'r gobaith yw gosod y seiliau er mwyn i'r cenedlaethau nesaf barhau i ailgylchu. Bydd hefyd modd defnyddio'r Ganolfan i addysgu grwpiau cymunedol am y broses ailgylchu ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gyda nhw. Mae'n wych gweld bod plant Ysgol Gynradd Maes-y-Deri wedi mwynhau eu trip i'r ganolfan.

Mae ailagor y Ganolfan yma'n gyfraniad cyffrous at y gwasanaethau sydd ar gael i drigolion ar hyd y Fwrdeistref Sirol, a'r gobaith yw bydd addysgu pobl ifainc am yr angen i ailgylchu a gofalu am y Fwrdeistref Sirol a phob man tu hwnt iddi yn helpu i gynyddu cyfraddau ailgylchu ymhellach. Mae'n bryd i aros, meddwl ac ailgylchu!"

I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad i'ch ysgol neu grwp cymunedol chi, ewch i www.rctcbc.gov.uk/YmweldBrynPica, e-bostiwch YmweldBrynPica@rctcbc.gov.uk.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag ailgylchu yn RhCT, dilynwch y Cyngor ar Twitter/Facebook neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu.   

Wedi ei bostio ar 22/06/22