Skip to main content

Disgyblion o Ysgol Gyfun Treorci yn derbyn Statws Llysgennad Ieuenctid

Gwahoddwyd disgyblion o Ysgol Gyfun Treorci i ymuno â Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn Achlysur Coffa Cenedlaethol Srebrenica yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro ddydd Mercher 6 Gorffennaf, ar ôl iddyn nhw gael Statws Llysgennad Ieuenctid am gyfres o brosiectau ac ymgyrchoedd arloesol gyda'r nod o addysgu cyfoedion a'r gymuned.

Rhoddwyd y statws i'r disgyblion gan Faer Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Wendy Treeby, ar ôl cymryd rhan mewn rhaglen beilot arloesol sy'n cael ei rhedeg gan Swyddogion Cydlyniant Cymunedol RhCT.

Mae’r rhaglen wedi’i hachredu ac mae disgyblion sy’n cymryd rhan ynddi yn cael y cyfle i ennill cymhwyster am yr amser maen nhw'n ei dreulio, a'r ymdrech a'r gwaith maen nhw'n creu, yn ogystal â chael tystysgrif statws sy'n dangos eu hymrwymiad i herio gwahaniaethu a hyrwyddo cydlyniant yn Nhreorci a’r cymunedau cyfagos fel Llysgenhadon Ieuenctid.

Yn rhan o’r prosiect, mynychodd y disgyblion sy’n cymryd rhan yn y Rhaglen Llysgenhadon Ieuenctid ddiwrnodau hyfforddi gydag Abi Carter (Archeolegydd Fforensig, cyd-gadeirydd Cofio Srebrenica Cymru a ddewiswyd trwy bleidlais yn un o’r menywod mwyaf dylanwadol yng Nghymru) a’r Dirprwy Gadeirydd Geena Whiteman a siaradodd â nhw am Droseddau Casineb a hil-laddiad, yn benodol yr hil-laddiad a ddigwyddodd yn Srebrenica, Bosnia 1995.  Yna cafodd y disgyblion y dasg o ddatblygu prosiect i goffau’r bywydau a gollwyd yn Srebrenica a chodi ymwybyddiaeth o’r hil-laddiad a throseddau rhyfel a ddigwyddodd yno.

Cyflwynwyd y prosiectau wythnos diwethaf mewn Noson Gyflwyno yn Theatr y Parc a'r Dâr, Treorci.  Roedd y Maer, y Prif Arolygydd dros Gymunedau Diogel ac Abi Carter yn gweithredu fel panel o feirniaid i ddewis prosiect buddugol.  Roedd pob un o'r prosiectau yn rhagorol, gyda llawer o ymdrech yn cael ei roi i'r ymgyrchoedd gan y disgyblion. 

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis – Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg:

“Mae’r enw Srebrenica wedi dod yn gyfystyr â’r dyddiau tywyll hynny ym mis Gorffennaf 1995 pan, yn y man diogel cyntaf erioed i’w ddatgan gan y Cenhedloedd Unedig, cafodd miloedd o ddynion a bechgyn eu llofruddio’n systematig a’u claddu mewn beddau torfol. Cafodd y dioddefwyr eu dewis i'w llofruddio oherwydd eu bod nhw'n Fwslemiaid. Hwn oedd yr erchylltra gwaethaf ar dir Ewrop ers yr Ail Ryfel Byd.

Rydyn ni'n ymfalchïo yn ein traddodiad o estyn croeso yng Nghymru, ond mae’r cof am Srebrenica yn atgof pwysig o ble y gall gwahaniaethu, eithrio a hybu casineb ac eithafiaeth arwain. Rydyn ni wedi ymrwymo i fynd i’r afael â phob math o gasineb ac anoddefgarwch yn Rhondda Cynon Taf, ac rydyn ni'n falch o ddilyn arweiniad ein pobl ifainc yn hyn o beth. 

Rydw i'n teimlo’n hyderus bod dyfodol ein cymunedau mewn dwylo diogel pan fo pobl ifainc yn Rhondda Cynon Taf yn dangos y fath fenter, chwilfrydedd ac angerdd.

Rydyn ni'n annog trigolion sydd eisiau dysgu rhagor i ymweld ag arddangosfa Cofio Srebrenica yn Amgueddfa Cwm Cynon. Mae'n dechrau heddiw a bydd hi ar agor am wythnos.

Thema Cofio Srebrenica ar gyfer 2022 yw Gwrthwynebu Gwadu:  Herio Casineb'

Mae’r sefydliad yn datgan ar ei wefan (yn y Saesneg gwreiddiol):

“denial of the Srebrenica genocide as well as the crimes against humanity committed across Bosnia and Herzegovina between 1992 to 1995 remains prevalent amongst individuals and institutions at the highest levels, including the Mayor of Srebrenica, the current political leadership of Republika Srpska and Serbia as well as Russia which vetoed a UN resolution in 2015 to condemn the killings at Srebrenica as a genocide…

… Denial brings not only more pain and suffering for the survivors but serves as a rallying call to continue the division and hatred as well as to glorify the murderers. Denial also serves as a significant impediment to peace and reconciliation which can never be achieved without acknowledgement…

… In the UK, communities are only too aware of the damaging impact that denial can have for individuals and community cohesion. 

Victims of serious crime can often be subjected to further trauma when having to confront perpetrators in a court of law who deny that they have committed their crimes. In addition to denial, the perpetrators seek to minimise what they have done or concoct a version of events based on alternative facts that reverses the blame which is placed upon the victim. This exacerbates the suffering of the victims and can deter many from coming forward to report incidents out of fear of having to face the denial which increases the painful experiences that they have had to endure. 

Home Office figures reveal a worrying trend across the country in which the number of hate crimes recorded have doubled in the space of five years. Reported hate crimes have increased by 9% since last year to a record 124,091, with nearly three quarters of those incidents being racially motivated crimes. These sobering statistics underline the scale of the problem which our communities face, yet there are still those who continue to deny the seriousness of the issue which needs to be addressed and fail to take the action required, despite these statistics and the lived experiences of those on the receiving end of such hate crime." 

Mae arddangosfa Cofio Srebrenica yn Amgueddfa Cwm Cynon tan 11 Gorffennaf.

Mae modd i chi ddarllen rhagor am Cofio Srebrenica yn https://srebrenica.org.uk/.

Wedi ei bostio ar 07/07/22