Mae penderfyniad gan Adran Drwyddedu'r Cyngor i ddirymu trwydded gyrrwr tacsi yn Rhondda Cynon Taf wedi'i gadarnhau yn dilyn gwrandawiad apêl lwyddiannus.
Mewn gwrandawiad apêl yn Llys y Goron Merthyr Tudful, cafodd penderfyniad ei wneud a oedd yn datgan doedd Sui Hung Yip, o Bentre'r Eglwys, ddim yn berson addas neu'n briodol i yrru tacsi. Cafodd ei drwydded Hackney a'i drwydded Cerbyd Hurio Preifat ei dirymu.
Ar ôl i'w drwydded gael ei dirymu unwaith o'r blaen gan Adran Drwyddedu Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dilyn cwynion a dderbyniwyd ynglŷn â'i ymddygiad fel gyrrwr, derbyniodd yr Adran wybodaeth bod Yip yn parhau i dderbyn taliadau a chludo teithwyr heb drwydded.
Yn rhan o ymchwiliad gan swyddogion y Cyngor, derbyniodd Yip dâl gyda'r bwriad o gasglu teithwyr yn ardal Pentre'r Eglwys. Gwelodd swyddogion y Cyngor Yip yn cyrraedd i'w casglu nhw mewn cerbyd trwyddedig.
Yn ystod sgwrs ddilynol gyda Swyddogion Trwyddedu'r Cyngor, fe gyfaddefodd Yip ei fod yn gweithio heb drwydded. Roedd ei benderfyniad i weithio heb drwydded yn peryglu'r cyhoedd gan nad oedd yswiriant ganddo i yrru'r tacsi.
Ym mis Rhagfyr 2021, apeliodd Yip yn erbyn y penderfyniad yn y Llys Ynadon, a gwrthdroi'r dirymiad gwnaeth yr ynadon. Fodd bynnag, apeliodd Swyddogion Trwyddedu Cyngor Rhondda Cynon Taf ar y penderfyniad yn Llys y Goron, ar sail diogelwch y cyhoedd.
Yn dilyn y gwrandawiad yn Llys y Goron, cytunodd y Barnwr â'r Awdurdod Lleol gan roi gorchymyn i ddirymu'r drwydded.
Meddai llefarydd dros Adran Drwyddedu Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Mae gennym ni ddyletswydd i sicrhau bod pob gyrrwr tacsi yn Rhondda Cynon Taf yn canolbwyntio ar ddiogelwch y cyhoedd.
"Mae'r cyhoedd yn ymddiried mewn gyrrwyr tacsi, ac mae ganddyn nhw ddyletswydd gofal dros y cyhoedd. Os ydy'r safonau'n cwympo'n is na'r disgwyl, rydyn ni'n dirymu'r drwydded yn syth. Rydyn ni'n hapus â chanlyniad yr achos yma."
Wedi ei bostio ar 21/06/2022