Skip to main content

Gwobrau Cyn-filwyr Cymru 2022

Welsh vets logo

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf ac un o'i weithwyr sy’n filwr wrth gefn i’r Lluoedd Arfog wedi cyrraedd y rhestr fer yn rhan o Wobrau Cyn-filwyr Cymru 2022.

Mae Gwobrau Cyn-filwyr Cymru yn gwobrwyo Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog sy'n llwyddo ym myd busnes, ffitrwydd, chwaraeon a'r gymuned ehangach. Eleni bydd y gwobrau'n digwydd yng Ngwesty'r Village yng Nghaerdydd ddydd Iau, 30 Mehefin. Mae'r Gwobrau, sy'n cael eu cynnal mewn partneriaeth â ABF Soldiers Charity hefyd yn cydnabod y milwyr wrth gefn sy’n gwneud gwaith gwych a'r cwmnïau a chyflogwyr sy'n cefnogi cymuned y Lluoedd Arfog.

Mae Prif Weithredwr Valley Veterans, Paul Bromwell, cyn-aelod o'r Gwarchodlu Cymreig a milwr o Ryfel y Falklands hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Gwobrau’r Gymuned ar gyfer ei waith gwirfoddol gyda chymuned y Lluoedd Arfog.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Cyflogwr y Flwyddyn ar gyfer ei gefnogaeth barhaus a'i waith â chymuned y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a milwyr cyfredol a'u teuluoedd.

Y Cyngor yma oedd y cyntaf i ymuno â Chyfamod y Lluoedd Arfog yn 2012 ac rydyn ni’n falch iawn o'n cymuned Lluoedd Arfog. Mae ymrwymiad y Cyngor i'r Cyfamod yn cefnogi amcanion y Cyngor i gefnogi ei Gymuned Lluoedd Arfog.

Mae hefyd gan y Cyngor rwydwaith gref o weithwyr sy'n filwyr wrth gefn. Karen Spencer, sy'n eiriolwr i filwyr wrth gefn sy'n arwain y rhwydwaith yma ac mae Karen hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Milwr Wrth Gefn y Flwyddyn am gydnabod y rheiny sy'n ceisio cydbwyso’u gyrfa filwrol a'u rôl yn y gymdeithas.

Meddai Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber: "Mae'r Cyngor yn falch iawn o fod ar y rhestr fer mewn dau gategori yng Ngwobrau Cyn-filwyr Cymru 2022. Mae'r cyflawniad yma'n destament i holl gefnogaeth ac ymrwymiad y Cyngor i Gymuned y Lluoedd Arfog.

"Mae Karen Spencer bob tro yno i gynnig cyngor a chefnogaeth i aelodau'r Lluoedd Arfog ac mae ei dealltwriaeth hi o fod yn filwr wrth gefn yn Rhondda Cynon Taf yn fuddiol inni wrth gefnogi ein haelodau staff sy'n filwyr ac yn gyn-filwyr.

"Rydyn ni'n gweithio'n agos â Karen er mwyn trefnu ein Bore Coffi cyntaf  i staff sy'n filwyr wrth gefn ac yn gyn-filwyr ar 22 Mehefin. Bydd Karen yno i gynnig cymorth a chefnogaeth i'r rheiny sydd eu hangen. Mae Karen wir yn eiriolwr ar gyfer milwyr wrth gefn yn Rhondda Cynon Taf.

"Mae ein Cyngor yn falch iawn o gefnogi milwyr, cyn-filwyr a'u teuluoedd. Mae ein dyled ni iddyn nhw'n fawr."

Mae Karen Spencer, Swyddog Busnes, Hyfforddiant, Sicrwydd Ansawdd a Rheoli Risg Cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd yn filwr wrth gefn i Gatrawd Gymraeg RLC 157. Mae hi'n mynd ati i hyrwyddo rôl allweddol milwyr wrth gefn a'r sgiliau mae hi wedi'u datblygu ac yn eu defnyddio yn ei gwaith beunyddiol ac yn ei bywyd milwrol.

Mae Karen wedi bod yn filwr wrth gefn ers dros 10 mlynedd a hi yw eiriolwr a hyrwyddwr milwyr wrth gefn y Cyngor. Mae hi'n darparu cefnogaeth ac arweiniad gwych i garfan Lluoedd Arfog y Cyngor, gan gynnwys cefnogi a hyrwyddo Diwrnod Milwyr wrth Gefn, cymryd rhan yn niwrnod Gwisgo'ch Iwnifform i'r Gwaith, cynrychioli ei hadran yn rhwydwaith staff y Lluoedd Arfog y Cyngor a chynorthwyo â threfnu Bore Coffi cyntaf y Cyngor ar gyfer aelodau staff sy'n filwyr wrth gefn ac yn gyn-filwyr.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd wedi sefydlu Rhwydwaith Staff y Lluoedd Arfog ac wedi cyflwyno proses Cyfweliad wedi'i Warantu'r Lluoedd Arfog. Mae hefyd gan y Cyngor Wasanaeth Cynghori llwyddiannus i gyn-filwyr sy'n cefnogi tri grŵp o gyn-filwyr ledled y Fwrdeistref Sirol.

Mae categorïau eraill Gwobrau Cyn-filwyr Cymru yn cynnwys: Model Rôl y Flwyddyn; Gwobr y Gymuned; Cyfraniad i Ddiwydiant a Chymdeithas Ffitrwydd Cymru; Ysbrydoliaeth y Flwyddyn; Entrepreneur y Flwyddyn; Gwobr Cyflawniad Oes; Gwobr Leavers to Leaders; Gwirfoddolwr y Flwyddyn; Gwobr Iechyd a Lles a Busnes Cyn-filwr y Flwyddyn. Bydd Prif Eiriolwr Gwobrau Cyn-filwyr Cymru'n cael ei ddewis o blith enillwyr pob categori uchod a bydd yr enillydd yn derbyn darn o waith unigryw wedi'i gomisiynu'n arbennig ar gyfer yr achlysur.

Elusen genedlaethol y Fyddin yw ABF The Soldiers' Charity sy'n cefnogi ei aelodau presennol a chyn-aelodau, gartref a thramor, a'u teuluoedd.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am ABF The Soldiers' Charity

Mae nifer o gyn-filwyr llwyddiannus iawn sydd wedi mynd o fod yn rhan o'r Fyddin i fyw bywyd arferol yn byw ledled Cymru ac mae Gwobrau Cyn-filwyr Cymru yn cydnabod ac yn gwobrwyo'r rheiny sydd wedi mynd tu hwnt i'r gofyn ac wedi rhagori yn eu maes.

Gwobrau Cyn-filwyr Cymru 2022

Wedi ei bostio ar 30/06/2022