Skip to main content

Picnic y Tedis 2022

Teddy Bears Picnic - 2

Daeth miloedd o'n trigolion ieuengaf, eu rhieni a'u cynhalwyr i fwynhau'r haul ym Mhicnic y Tedis, wrth iddo ddychwelyd i’w leoliad bendigedig, Parc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd.

Roedd y tywydd yn braf ac roedd llond trol o hwyl a sbri yn yr haul wrth i blant dan bump oed fwynhau'r achlysur. Roedd digonedd o bethau'n mynd ymlaen i ddiddanu'r plant ifainc, gan gynnwys cerddoriaeth fyw a sesiwn ganu gyda'r gantores boblogaidd Heini, cerddoriaeth a swigod gan Charlie Bubbles a'i dreic cerddorol, cyfle i gwrdd â chymeriadau, chwarae gemau a llawer yn rhagor.

Gweithiodd carfan achlysuron Rhondda Cynon Taf, sy'n cynnal amrywiaeth o achlysuron teuluol ledled y fwrdeistref sirol eleni, yn galed i sicrhau bod yr achlysur yn dychwelyd y flwyddyn hon, y tro cyntaf ers 2019 o ganlyniad i bandemig y coronofeirws.

Mae Picnic y Tedis yn cael ei gynnal er mwyn arddangos a dathlu holl wasanaethau'r Cyngor sydd ar gael i blant a'u teuluoedd yn y fwrdeistref sirol - gan gynnwys cymorth i ddewis yr ysgol gywir, gwneud penderfyniadau i ymwneud â gofal plant, syniadau o ran chwarae, gwybodaeth am iechyd a danedd plant, darllen, llythrennedd, ymarfer corff a mwy.

Roedd yr holl stondinau yn cynnig  gemau a gweithgareddau rhyngweithiol  er mwyn diddanu'r plant wrth i'w rhieni a chynhalwyr siarad, gofyn cwestiynau a dod o hyd i'r wybodaeth oedd ei hangen arnyn nhw.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor: "Peth hyfryd oedd gweld ein trigolion ieuengaf yn dychwelyd i un o'n hachlysuron mwyaf poblogaidd.

"Mae digonedd o wybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar gael i'n teuluoedd, ac rydyn ni am eu harddangos i bawb sydd eu heisiau neu sydd eu hangen. Ond rydyn ni eisiau sicrhau bod yr achlysur yn un hwyliog, felly beth sy'n well na mwynhau picnic gyda'ch tedis yn harddwch Parc Coffa Ynysangharad a chael hwyl a sbri yn yr haul.

"Croesawon ni deuluoedd, ysgolion, cylchoedd chwarae a meithrinfeydd i'r achlysur ac roedd hi'n hyfryd i weld cynifer o bobl yn mwynhau'r achlysur yma sydd am ddim."

Pe hoffech chi weld rhestr o achlysuron Rhondda Cynon Taf sydd ar y gweill, gan gynnwys achlysur Rhyddid y Fwrdeistref ac achlysuron i ddiolch i'n gweithwyr hanfodol, achlysur Rhialtwch Calan Gaeaf yn Nhaith Pyllau Glo Cymru a dathliadau’r Nadolig yn RhCT, ewch i www.rctcbc.gov.uk/achlysuron

Am ragor o wybodaeth ynghylch y gefnogaeth a'r gwasanaethau sydd ar gael i deuluoedd yn Rhondda Cynon Taf, ewch i'r dudalen ar gyfer teuluoedd.

 Noddir Picnic y Tedis a phob achlysur arall yn 2022 gan Nathaniel Cars, sydd wedi bod yn gwerthu ceir i drigolion Rhondda Cynon Taf a thu hwnt ers mwy na 35 mlynedd. Mae gan y cwmni dibynadwy yma safleoedd yng Nghaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr.

Maen nhw wedi noddi ein hachlysuron y flwyddyn yma er mwyn dangos cefnogaeth a gwerthfawrogiad i’r gymuned.

Wedi ei bostio ar 27/06/2022