Skip to main content

'Ride Of Respect' Pen-blwydd y Gwarchodlu Cymreig yn 40

Falklands Memorial Pontypridd

Mae'r Cyngor yn cefnogi 'Ride of Respect' i nodi pen-blwydd y Gwarchodlu Cymreig yn 40 wrth iddo deithio trwy Rhondda Cynon Taf, ddydd Mercher, 22 Mehefin.

Bydd beiciau modur yn teithio am bedwar diwrnod rhwng 21 a 24 Mehefin er mwyn cofio ac anrhydeddu’r Gwarchodlu Cymreig a'r aelodau a gollodd eu bywydau 40 mlynedd yn ôl yn ystod Rhyfel Ynysoedd Falkland ym 1982.

Bwriad yr achlysur yw coffáu'r rheiny a aberthodd eu bywydau, dangos parch i'w teuluoedd sy'n byw heb eu hanwyliaid, codi ymwybyddiaeth a dangos cefnogaeth i Gyn-filwyr a'u teuluoedd.

Bydd y 'Ride of Respect' yn ymweld â beddau a chofebau ledled y wlad i gofio am y rhai a fu farw yn ystod Rhyfel Ynysoedd Falkland (2 Ebrill - 14 Mehefin 1982).

Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber: "Mae'n fraint cael croesawu'r modurwyr i Rondda Cynon Taf, yn enwedig i Barc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd, 40 mlynedd wedi Rhyfel Ynysoedd Falkland.

"Mae ein dyled ni i aelodau presennol a chyn-aelodau y Lluoedd Arfog a'u teuluoedd yn fawr ac ni fyddwn ni fyth yn anghofio eu haberthion. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, mae'r torcalon yn parhau i nifer o bobl, yn enwedig y rhieny a gollodd eu hanwyliaid yn ystod y gwrthdaro.

"Wrth groesawu modurwyr y 'Ride of Respect' rydyn ni'n mynegi ein diolch ac yn cofio am y rheiny a gafodd ddychwelyd adref."

Bydd y modurwyr yn teithio dros 1,000 o filltiroedd gan ddechrau ym Marics Combermere, Windsor fore dydd Mawrth, 21 Mehefin, ac yn gorffen wrth gofeb y Gwarchodlu Cymreig yn Wrecsam brynhawn dydd Gwener, 24 Mehefin.

Rydyn ni'n disgwyl croesawu'r modurwyr i Barc Coffa Ynysangharad, Pontypridd tua hanner dydd, ddydd Mercher, 22 Mehefin. Bydd y modurwyr yn gosod torch o flodau ar y gofeb i gofio am y Rhingyll C Elley, y Gwarchodwr I Dale, y Gwarchodwr M Gibby, y Gwarchodwr B Jasper, y Gwarchodwr A Keeble, a’r Gwarchodwr G Poole.

Ar yr un diwrnod bydd y modurwyr yn gosod torch o flodau ar y gofeb yn Llanhari i goffáu'r Gwarchodwr A Keeble, ar y gofeb yn Ynys-y-bwl i goffáu'r Gwarchodwr B Jasper, ac yn Ardd Goffa Cwm Cynon yn Aberdâr i goffáu'r Is-gorporal P Sweet. Collodd y milwyr uchod eu bywydau yn ystod Rhyfel Ynysoedd Falkland.

Bu farw 48 o ddynion ar long y Sir Galahad a Sir Tristram yn Bluff Cove, Ynysoedd Falkland ddydd Mawrth, 8 Mehefin 1982. Roedd 32 o'r dynion hynny'n aelodau o'r Gwarchodlu Cymreig. Cafodd llawer rhagor eu hanafu. Dinistriwyd y Sir Galahad gan jetiau Skyhawk chwe niwrnod cyn diwedd Rhyfel Ynysoedd Falkland.

Parhaodd Rhyfel Ynysoedd Falkland 1982 am 10 wythnos, ac fe gollodd dros 900 o bobl eu bywydau. Bu farw 255 o bersonél Prydeinig, 3 o drigolion lleol, a 649 o filwyr o'r Ariannin yn y gwrthdaro. Llwyddodd Byddin Prydain i gael meddiant ar Ynysoedd Falkland ar 14 Mehefin 1982.

Wedi ei bostio ar 22/06/22