Ar ôl ystyried deilliannau ymgynghoriad cyhoeddus diweddar, mae Aelodau o'r Cabinet wedi cytuno i fwrw ymlaen â chynnig i adeiladu ysgol gynradd newydd sbon gwerth £9 miliwn ar gyfer cymuned Glyn-coch.
Yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Llun 21 Mawrth, rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i adroddiad a oedd yn cyflwyno'r adborth a ddaeth i law gan y cyhoedd. Roedd hyn mewn perthynas â'r cynnig i uno Ysgol Gynradd Cefn ac Ysgol Gynradd Craig-yr-Hesg erbyn 2026 ac adeiladu ysgol newydd i wasanaethu dalgylch y ddwy ysgol bresennol. Y cynnig yw adeiladu'r ysgol newydd ar safle presennol Ysgol Gynradd Craig-yr-Hesg a thir gerllaw, sef hen Uned Atgyfeirio Disgyblion Tŷ Gwyn.
Byddai’r ysgol newydd yn cael ei hariannu gan y Model Buddsoddi Cydfuddiannol, sef cyllid refeniw sy'n dod gan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru (Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gynt).
Cafodd yr ymgynghoriad cyhoeddus ei gynnal rhwng 10 Ionawr a 21 Chwefror 2022 er mwyn cyflwyno’r cynnig i’r gymuned a rhoi cyfle i drigolion gael dweud eu dweud. Roedd yr adroddiad i'r Cabinet ddydd Llun yn cynnwys ymateb llawn Estyn i'r cynnig, crynodeb o'r ymatebion i'r arolwg ar-lein a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad, a gwybodaeth am sawl cyfarfod a gafodd eu cynnal i drafod y cynnig.
Daeth cyfanswm o 34 o ymatebion ysgrifenedig i’r ymgynghoriad i law (32 o ymatebion i’r arolwg ar-lein a dau lythyr). Roedd 25 (74%) o’r rhain o blaid y buddsoddiad arfaethedig, 6 yn anghytuno, 2 yn ansicr ac un heb ymateb i'r cwestiwn dan sylw. Nododd yr adroddiad i'r Cabinet fod yr ymatebion yn gyffredinol o blaid adeiladu'r ysgol newydd.
Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys cyfres o gwestiynau, ac ymateb y Cyngor i bob un, a gafodd eu gofyn yn ystod cyfarfodydd gyda staff, Cyrff Llywodraethu a Chynghorau Ysgol Gynradd Cefn ac Ysgol Gynradd Craig-yr-Hesg. Cafodd y cyfarfodydd yma eu cynnal ar-lein yn ôl y gofynion mewn perthynas â'r pandemig adeg yr ymgynghoriad. Mae cyfanswm o 76 o gwestiynau ac atebion mewn perthynas â'r cynigion yn rhan o Atodiad i'r adroddiad i'r Cabinet ddydd Llun.
Ar ôl ystyried yr adborth, cytunodd Aelodau o'r Cabinet i fwrw ymlaen â'r cynllun i'r cam nesaf. O ganlyniad i hyn, bydd Hysbysiad Statudol yn cael ei gyhoeddi ar 4 Ebrill 2022 i uno Ysgol Gynradd Cefn ac Ysgol Gynradd Craig-yr-Hesg wrth gau’r ddwy ysgol, ac agor ysgol gynradd gymunedol fwy. Wedyn, bydd cyfnod o 28 diwrnod os oes rhywun am gyflwyno unrhyw wrthwynebiadau. Yna, bydd adroddiad pellach i'r Cabinet yn cael ei lunio er mwyn i'r Aelodau ddod i benderfyniad terfynol ar y cynnig.
Meddai'r Cynghorydd Jill Bonetto, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant: “Byddai’r cynnig pwysig yma ar gyfer Glyn-coch yn gwella cyfleusterau presennol yr ysgolion, gan ddisodli adeiladau a gafodd eu codi yn y 1950au a’r 1970au gydag ysgol newydd o faint addas gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf. Byddai’r buddsoddiad gwerth £9 miliwn yn darparu amgylcheddau dysgu hyblyg, cyfleusterau hygyrch i’r gymuned ehangach a mannau awyr agored gwell, a hynny mewn man amlwg wrth i chi ddod at y pentref.
“Byddai’r cynnig hefyd yn cynnwys adolygiad o fenter Llwybrau Diogel i’r Ysgol. Gallai hyn olygu gwelliannau i lwybrau troed, mannau croesi i gerddwyr a mesurau arafu traffig yn y gymuned. Rydyn ni eisoes wedi gweld nifer o leoliadau yn y Fwrdeistref Sirol yn elwa ar y math yma o fuddsoddiad i'w hysgolion.
“Cafodd y buddsoddiad yma ei ystyried am y tro cyntaf gan y Cabinet ym mis Hydref 2021, ochr yn ochr ag ystod o gynlluniau yn rhan o fuddsoddiad ychwanegol gwerth £85 miliwn sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru yn rhan o’i Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Yn ogystal â'r cynnig yng Nglyn-coch, mae cynigion hefyd ar gyfer buddsoddiad arfaethedig yn Ysgol Llanhari, Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn-y-Forwyn, Ysgol Gynradd Pen-rhys, Ysgol Gynradd Maes-y-bryn ac Ysgol Gynradd Tonysguboriau, ynghyd ag ysgol arbennig newydd ar gyfer y Fwrdeistref Sirol.
“Rwy'n falch iawn bod Aelodau o'r Cabinet wedi cytuno i fwrw ymlaen â chynnig Glyn-coch fel bod modd cyhoeddi Hysbysiad Statudol. Dyma garreg filltir bwysig tuag at wireddu'r ysgol newydd erbyn 2026. Bydd y cynnig yma'n cael ei ystyried gan y Cabinet yn ddiweddarach eleni er mwyn i’r Aelodau ddod i benderfyniad terfynol.”
Mae adeiladau Ysgol Gynradd Cefn ac Ysgol Gynradd Craig-yr-Hesg ymhlith yr adeiladau gwaethaf o dan adain Gwasanaethau Addysg y Cyngor. Mae'r ysgolion wedi'u lleoli 0.7 milltir ar wahân, ac ers iddyn nhw ffurfio ffederasiwn yn 2012, un pennaeth gweithredol sy'n arwain y ddwy.
Mewn arolwg yn 2020, derbyniodd adeilad Ysgol Gynradd Cefn radd 'D' o ran cyflwr ac addasrwydd (lle mai 'A' yw'r cyflawniad uchaf a 'D' yw'r isaf). Dydy'r ysgol ddim yn bodloni safonau hygyrchedd, a does dim modd gwneud llawer i wella'r safle. Cafodd yr adeilad ei adeiladu yn yr 1970au ac mae wedi cronni rhestr o waith cynnal a chadw angenrheidiol gwerth £58,000. Mae disgwyl bydd gyda'r ysgol 34.8% o leoedd dros ben erbyn 2025/26.
Derbyniodd adeiladau Ysgol Gynradd Craig-yr-Hesg radd 'C' o ran cyflwr ac addasrwydd mewn arolwg yn 2019. Mae'r adeilad o'r 1950au wedi cronni rhestr o waith cynnal a chadw gwerth £196,000 ac mae disgwyl y bydd yr ysgol yn fwy na'i chapasiti dros y pum mlynedd nesaf.
Wedi ei bostio ar 24/03/2022