Mae'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu wedi cefnogi cais cynllunio'r Cyngor i adeiladu pont droed newydd yn Castle Inn yn Nhrefforest. Bydd y bont newydd yn golygu y bodd modd croesi Afon Taf eto a bydd yn lleihau risg llifogydd yno.
Yng nghyfarfod y Pwyllgor ddydd Iau 24 Mawrth, cytunodd yr Aelodau ag argymhellion Swyddogion y Cyngor i roi caniatâd cynllunio llawn i adeiladu pont newydd. Mae pont droed Castle Inn yn ymestyn dros Afon Taf rhwng Stryd yr Afon yn Nhrefforest a Heol Caerdydd yng Nglyn-taf ac yn cysylltu'r B4595 a’r A4054. Roedd difrod gwael i'r bont yn ystod Storm Ciara a Storm Dennis (mis Chwefror 2020) ac mae wedi parhau ar gau ers hynny er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd.
Yn ôl adroddiad a gafodd ei ystyried yn y cyfarfod ddydd Iau, mae'r cais cynllunio yn rhan o gyfres o fesurau sydd â'r nod o fynd i'r afael â'r risg barhaus o lifogydd yn y lleoliad yma, a'i gwella. Ar ôl y stormydd, daeth Adroddiad Modelu Llifogydd Llinell Sylfaen i'r casgliad fod y bont wedi cyfrannu at lifogydd gan ei bod yn cyfyngu ar lif yr afon yn y lleoliad.
Cafodd cais ei gyflwyno i Gyfarwyddiaeth Cynllunio Llywodraeth Cymru am Ganiatâd Adeilad Rhestredig i ddymchwel y bont er mwyn lleihau risg llifogydd yn lleol. Mae'r Gyfarwyddiaeth wedi ymgynghori â Cadw, sef asiantaeth Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am gadwraeth adeiladau a henebion Cymru.
Yn ôl un o arolygwyr Cadw, mae'r gwaith dymchwel arfaethedig wedi'i gyfiawnhau. Byddai’r cynnig i adeiladu pont newydd yn gwella nodweddion llif yr afon yn fawr er budd y gymuned, a fyddai ddim yn effeithio’n sylweddol ar Ardal Gadwraeth Sgwâr y Castell. Wrth ystyried asesiad Cadw, cymeradwyodd y Gyfarwyddiaeth y cais am ddymchwel y bont.
Cais cynllunio'r Cyngor i gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ddydd Iau oedd codi pont un bwa newydd a seilwaith cysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys gosod rhan newydd yn y wal gynnal ar Heol Caerdydd. Byddai'n cael ei haddasu gan adeiladu wal fer er mwyn lliniaru risg llifogydd ymhellach.
Mae Swyddogion o’r farn y bydd y bont newydd yn lleihau risg llifogydd yn sylweddol yn y lleoliad a bydd eiddo cyfagos yn elwa'n fawr arni, er y bydd risg llai yn dal i fodoli i orlifdir glaswellt ymhellach i lawr yr afon. Doedd Cyfoeth Naturiol Cymru ddim wedi gwrthwynebu'r cynlluniau.
Byddai'r bont ei hun yn cael ei hadeiladu gan ddefnyddio dur gwag ac yn ymestyn dros tua 35.1 metr. Byddai pibell garthffos fudr Dŵr Cymru o dan y strwythur hefyd. Byddai modd i gerddwyr a beicwyr ddefnyddio'r bont 3.5 metr, a bydd canllawiau ar y naill ochr a'r llall, yn ogystal ag arwyneb gwrthlithro.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae pont droed Castle Inn yn Nhrefforest yn un o gynlluniau â blaenoriaeth allweddol y Cyngor yn rhan o’i ymdrech barhaus ehangach i atgyweirio'r seilwaith ar ôl Storm Dennis ac er mwyn lleihau risg llifogydd mewn cymunedau lleol. Mae llifogydd yn digwydd yn aml yn y lleoliad yma a chafodd ei effeithio'n wael eto yn ystod Storm Dennis. Dros yr wythnosau diwethaf, bydd trigolion wedi sylwi ar waith ar Heol Caerdydd i ddargyfeirio cyfleustodau. Mae hyn er mwyn paratoi ar gyfer adeiladu'r bont newydd yn ddiweddarach yn y gwanwyn.
“Nod y cynllun arfaethedig a gafodd ei gyflwyno gan y Cyngor a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ddydd Iau yw cynnal y cyswllt hanfodol rhwng Stryd yr Afon a Heol Caerdydd ar gyfer y gymuned leol. Bydd hefyd yn lleihau risg llifogydd, gan fod y bont bresennol wedi cyfrannu'n helaeth at y llifogydd diweddar. Hefyd, bydd gyda'r bont newydd lwybr ehangach i gerddwyr a beicwyr ei rannu a'i ddefnyddio.
“Ers Storm Dennis, mae’r Cyngor wedi cynnal gwaith lliniaru llifogydd gwerth £13 miliwn. Rydyn ni'n parhau i ariannu gwaith atgyweirio strwythurau, gan dderbyn £6.441 miliwn gan Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â chynlluniau yn Heol Berw (Y Bont Wen), pont droed Tyn-y-bryn a phont droed y Bibell Gludo, yn ogystal â chynllun pont droed Castle Inn, yn 2022/23. Yn rhan o’n Rhaglen Gyfalaf Priffyrdd, bydd buddsoddiad ar wahân gwerth £5.65 miliwn yn mynd tuag at atgyweirio Pont Imperial, Cantilifer Nant Cwm-parc/Pont y Stiwt, a phont droed rheilffordd Llanharan yn 2022/23.
“Mae cymeradwyaeth y Pwyllgor ddydd Iau yn garreg filltir bwysig mewn perthynas â chodi pont droed newydd yn Castle Inn. Bydd Swyddogion nawr yn bwrw ymlaen â'r cynllun fel ei fod yn barod yr haf yma. Byddwn ni'n cysylltu â thrigolion yr ardal maes o law er mwyn rhannu gwybodaeth, trefniadau a manylion y prif waith.”
Wedi ei bostio ar 25/03/2022