Skip to main content

Gyrru ymlaen â Strategaeth Cerbydau Trydan

EV-logo

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn 'gyrru ymlaen' â'i Strategaeth Cerbydau Trydan gan chwarae ei ran i leihau ei ôl troed carbon wrth i'r byd frwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.

Wrth weithio tuag at ei nod o ddod yn Gyngor a Bwrdeistref Sirol Carbon Niwtral erbyn 2030, mae'r Cyngor yn helpu i lywio datblygiad mannau gwefru cerbydau trydan ledled y Fwrdeistref Sirol yn y dyfodol trwy gyflwyno rhagor o fannau gwefru.

https://dewch-i-siarad.rctcbc.gov.uk/dewch-i-siarad-am-wefru-cerbydau-trydan2

Mae hefyd yn annog trigolion a busnesau i brynu cerbydau trydan yn dilyn ymgynghori â'r cyhoedd yn rhan o'i Sgwrs am yr Hinsawdd – 'Dewch i Siarad am y Newid yn yr Hinsawdd RhCT'.

Cafodd y Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan ei  chyflwyno i Gabinet y Cyngor Mae'n nodi pam mae angen cymryd camau gweithredu brys a dull Bwrdeistref Sirol gyfan y Cyngor tuag at fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd a Chymunedau: “Rydw i wrth fy modd bod Strategaeth Cerbydau Trydan y Cyngor yn cael ei chyhoeddi, gan dynnu sylw at ymrwymiad llawn y Cyngor i fod yn Gyngor Sero-net ac yn Fwrdeistref Sirol Carbon Niwtral erbyn 2030.

“Yr unig ffordd i ni i gyd wneud hyn yw chwarae ein rhan wrth leihau'r ôl troed carbon. Mae modd i ni i gyd wneud gwahaniaeth, waeth pa mor fawr neu fach, a helpu i amddiffyn ein planed ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. “Mae'r Cyngor yma wedi ymrwymo i gefnogi ei drigolion, a'i fusnesau ac ymwelwyr â'r Fwrdeistref Sirol trwy ddarparu cyfleusterau gwefru cerbydau trydan digonol wrth iddyn nhw fyw eu bywydau beunyddiol. Mae modd i ni wireddu hyn gyda'n gilydd.”

Bydd y Strategaeth hefyd yn annog datblygiad rhwydwaith gwefru cerbydau trydan cadarn ac ymarferol yn y tymor byr, canolig a hir, wrth fabwysiadu proses bontio o gerbydau petrol a diesel i Gerbydau Allyriadau Isel Iawn (ULEVs) yn rhan o nodau trafnidiaeth gynaliadwy ehangach y Cyngor.

Mae nifer y bobl sy'n defnyddio cerbydau trydan yn cynyddu bob blwyddyn ac mae'n bwysig bod modd i'r Cyngor asesu'r galw am seilwaith gwefru cerbydau trydan yn Rhondda Cynon Taf yn y dyfodol. Mae rhagamcanion yn nodi y bydd trigolion Rhondda Cynon Taf yn berchen ar oddeutu 8,000 o gerbydau trydan erbyn 2030.

Mae adroddiad manwl, a gyflwynwyd i Grŵp Llywio ar Faterion yr Hinsawdd (CCSG) y Cyngor, yn amlinellu sut mae'r Awdurdod Lleol yn gweithio tuag at ei nod o fod yn Awdurdod Lleol Sero-net, yn ogystal ag ailddatgan ei ymrwymiadau lleihau carbon.

Sefydlodd y Cyngor ei Weithgor Gwefru Cerbydau Trydan a Thrafnidiaeth ym mis Ebrill 2021, ac mae'n cynnwys swyddogion o bob maes gwasanaeth y Cyngor. Mae'r gweithgor yn cael ei arwain gan Garfan Ynni a Lleihau Carbon Eiddo'r Cyngor. Tasg gyntaf y gweithgor oedd llunio dau ddarn o waith hanfodol, a ystyrir yn sylfaenol o ran datblygu seilwaith gwefru cerbydau trydan yn y Fwrdeistref Sirol. Bydd Strategaeth yn cael ei datblygu ar gyfer gwefru cerbydau trydan yn y dyfodol, gan dynnu sylw at ddyheadau'r Cyngor a chyfleoedd cyllido posibl sydd ar gael. Yn ogystal â hon, bydd Cynllun Gweithredu fydd yn cynnig canllawiau a chyngor clir ar y gofynion sydd eu hangen ar gyfer datblygu seilwaith gwefru cerbydau trydan ledled y Fwrdeistref Sirol.

Yn ychwanegol at hyn, mae'r Cyngor yn parhau i weithio gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) ac Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCRTA), sydd wedi prynu 70 tacsi trydan ar gyfer y rhanbarth, gyda phump ohonyn nhw wedi'u dyrannu i Rondda Cynon Taf. Mae cwmni rheoli wedi cael ei benodi i weithredu'r cerbydau a'r seilwaith gwefru sydd ei angen.

Mae'r CCRTA eisoes yn rhan o'r broses gosod mannau gwefru tacsis ledled RhCT. Mae'r mannau gwefru cyntaf wedi'u gosod yng nghyfleuster parcio a theithio Porth, maes parcio Stryd y Dug, Aberdâr a maes parcio Heol Sardis, Pontypridd.  Y gobaith yw y bydd y mannau gwefru yma ar waith cyn bo hir.

Mae'r CCRTA hefyd yn gweithio gyda'r Cyngor ar gynnig i osod ystod o fannau gwefru cyflym rhwng 7 a 22 cilowat mewn mwy na 60 o safleoedd y Cyngor. Bydd y rhain mewn meysydd parcio cyhoeddus yn bennaf ond bydd rhai eraill yng nghanolfannau hamdden y Cyngor yn ogystal â chanolfannau cymuned.

Mae Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan y Cyngor yn nodi 10 uchelgais clir, gan gynnwys cyflwyno ei seilwaith gwefru cerbydau trydan, yn unol â'r galw yn y dyfodol; gweithio gyda pherchnogion tir preifat a datblygwyr i sicrhau bod cyfleoedd gwefru cerbydau trydan yn cael eu nodi a'u gwireddu; monitro  ansawdd aer i werthuso'r berthynas rhwng y cynnydd yn nifer y cerbydau  trydan ac ansawdd aer gwell; a nodi lleoliadau addas ar gyfer gosod mannau 'Gwefru Cyrchfan' a 'Gwefru yn y Gweithle' ar bob safle'r Cyngor.

Bydd y Cyngor hefyd yn parhau i weithio gyda thrigolion i godi ymwybyddiaeth o'r mater pwysig yma ac archwilio cyfleoedd i sefydlu Clybiau Cerbydau Trydan ledled y Fwrdeistref Sirol.

Wedi ei bostio ar 25/03/22