Skip to main content

Buddsoddiad ychwanegol ar gyfer meysydd blaenoriaeth yn rhan o'r Rhaglen Gyfalaf

Cabinet has agreed extra investment in priority areas

Mae’r Cabinet wedi cytuno ar fuddsoddiad ychwanegol o £14.5 miliwn ar gyfer meysydd blaenoriaeth y Cyngor y flwyddyn nesaf yn rhan o’i Raglen Gyfalaf tair blynedd gwerth £149 miliwn. Mae'n nodi cyllid ar gyfer priffyrdd, parciau, ysgolion, mannau chwarae, gwefru cerbydau trydan ac eiddo gwag.

Yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Llun, 28 Chwefror, trafododd yr Aelodau ddau adroddiad yn ymwneud â gwariant y Cyngor y flwyddyn nesaf. Roedd y cyntaf yn cyflwyno adborth o ymgynghoriad diweddar ar ddrafft o Strategaeth y Gyllideb Refeniw, a oedd yn seiliedig ar gynnydd o 8.4% yn y cyllid ar ôl setliad ffafriol gan Lywodraeth Cymru.

Mae elfennau allweddol y Strategaeth yn cynnwys y sefyllfa Treth y Cyngor fwyaf ffafriol ers blynyddoedd lawer (cynnydd o 1%), cynyddu’r isafswm cyflog uwchlaw’r Cyflog Byw Gwirioneddol, £11.2 miliwn ychwanegol ar gyfer ysgolion a £15 miliwn ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, cadw'r cynnydd cyffredinol mewn ffioedd a thaliadau yn is na chyfradd chwyddiant, a dim toriadau i wasanaethau unwaith eto. Yn dilyn adborth cadarnhaol i’r ymgynghoriad, mae’r Cabinet bellach wedi cytuno ar y Strategaeth, y bydd yn ei hargymell i’r cyfarfod llawn o'r Cyngor ar 9 Mawrth.

Amlinellodd yr ail adroddiad a ystyriwyd gan y Cabinet ddydd Llun Raglen Gyfalaf tair blynedd newydd arfaethedig (2022/23 tan 2024/25). Mae’n cynrychioli cyfanswm rhaglen fuddsoddi o £148.77 miliwn a bydd yn cynnal rhaglen gyfalaf graidd y Cyngor, wedi’i hariannu’n llawn ar £42.3 miliwn dros y tair blynedd nesaf.

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi buddsoddiad ychwanegol o £14.5 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf, yn ychwanegol at y Rhaglen Gyfalaf arferol. Mae hyn yn cael ei ariannu drwy gronfeydd wrth gefn sydd wedi’u neilltuo ar gyfer buddsoddi yn ein seilwaith, ynghyd ag adnoddau ychwanegol sydd wedi’u sicrhau. Mae’r blaenoriaethau buddsoddi a nodwyd i elwa o fis Ebrill 2022 yn cynnwys:

  • Cynnal y Priffyrdd – £3 miliwn
  • Ffyrdd heb eu Mabwysiadu – £500,000
  • Strwythurau Priffyrdd – £1.5 miliwn
  • Ffordd Gyswllt Llanharan – £2 filiwn
  • Gwneud Gwell Defnydd / Datblygiadau Traffig – £150,000
  • Strwythurau Parciau – £500,000
  • Parciau a Mannau Gwyrdd – £2.4 miliwn
  • Mannau Chwarae – £250,000
  • Ysgolion – £2.571 miliwn
  • Grantiau Eiddo Gwag – £1 filiwn
  • Gwefru Cerbydau Trydan – £350,000
  • Rhaglen Buddsoddi (dyraniad refeniw) – £250,000.

Yn dilyn penderfyniad y Cabinet ddydd Llun, bydd y Rhaglen Gyfalaf yma hefyd yn cael ei trafod gan y cyfarfod llawn o'r Cyngor ar 9 Mawrth, ynghyd â drafft o Strategaeth y Gyllideb.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Fe wnaeth y Cabinet drafod drafft o Strategaeth y Gyllideb ddydd Llun yn dilyn yr ymgynghoriad diweddar. Diolch i setliad llywodraeth leol ffafriol, bydd Rhondda Cynon Taf yn derbyn 8.4% o gynnydd yn ein cyllid y flwyddyn nesaf – gan ein galluogi i fuddsoddi’n sylweddol mewn gwasanaethau. Mae llawer o agweddau cadarnhaol i'r Strategaeth – gan gynnwys cynyddu'r gyfradd isafswm cyflog a buddsoddiad mawr mewn ysgolion a’r Gwasanaethau Cymdeithasol.

“Cafodd hyn ei adlewyrchu yn yr ymatebion cefnogol iawn a dderbyniwyd yng Ngham 2 yr ymgynghoriad, a gynhaliwyd dros bythefnos ym misoedd Ionawr a Chwefror, pan dderbyniwyd 700 o ymatebion. Mae hyn yn golygu y derbyniwyd 1,700 o ymatebion yn ystod proses pennu'r Gyllideb, ac mae'r Cabinet bellach wedi cytuno i argymell drafft o Strategaeth y Gyllideb i'r Cyngor Llawn.

“Rhan allweddol o’r Strategaeth oedd nodi £4.9 miliwn yn rhagor mewn arbedion effeithlonrwydd ar gyfer 2022/23, sy'n uwch na'r £4.6 miliwn a nodwyd ar gyfer y flwyddyn gyfredol. Mae hyn yn dod â’r cyfanswm a arbedwyd drwy arbedion effeithlonrwydd i tua £100 miliwn dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae'r gwaith yma'n parhau i alluogi'r Cyngor i fuddsoddi ymhellach mewn meysydd blaenoriaeth. Ystyriwyd y manylion gan y Cabinet mewn ail adroddiad ddydd Llun.

“Argymhellwyd bod buddsoddiad o £14.5 miliwn yn cael ei wario ar ein blaenoriaethau o fis Ebrill 2022. Mae hyn yn cynnwys £3 miliwn ar gyfer Cynnal a Chadw Priffyrdd, £2.4 miliwn ar gyfer Parciau, £2 filiwn tuag at Ffordd Gyswllt Llanharan, £1 filiwn ar gyfer adnewyddu Tai Gwag. Mae hefyd arian pellach ar gyfer Gwefru Cerbydau Trydan, Ysgolion, Mannau Chwarae a Strwythurau. Mae’r holl feysydd ariannu yma'n gysylltiedig â blaenoriaethau ein Cynllun Corfforaethol, ac mae’r Cabinet wedi cytuno â’r buddsoddiad arfaethedig a fydd nawr yn cael ei drafod yn ffurfiol gan y cyfarfod llawn o'r Cyngor ar 9 Mawrth.”

Cynhaliwyd Cam 2 yr ymgynghoriad ar y Gyllideb rhwng 28 Ionawr a 13 Chwefror, 2022. Cymerodd dros 700 o bobl ran yn y cam yma o’r broses, yn ogystal â mwy na 1,000 o bobl a gymerodd ran yng Ngham 1, a gynhaliwyd yn ystod yr hydref.

O'r arolygon ar-lein a ddychwelwyd, roedd 88.2% o'r ymatebwyr yn cytuno â chodi'r isafswm cyflog ar gyfer staff y Cyngor a staff gofal dan gontract, ac roedd 91.2% yn cytuno â'r broses barhaus o flaenoriaethu Ysgolion a Gwasanaethau Cymdeithasol. Ystyriwyd y gyfradd Treth y Cyngor arfaethedig yn rhesymol gan 80.2% o'r ymatebwyr, tra bod 79.8% yn cytuno â'r cynigion ar gyfer ffioedd a thaliadau. Mae crynodeb llawn o’r ymatebion wedi’i gynnwys yn Atodiad i adroddiad Cabinet ddydd Llun.

Wedi ei bostio ar 02/03/22