Tipiwch yn anghyfreithlon yn Rhondda Cynon Taf ac fe fyddwch chi'n cael eich dal fel dysgodd y dyn yma o Benrhiwceiber yn ddiweddar!
Yn gynharach y mis yma cafodd yr unigolyn ei erlyn mewn llys am dipio’n anghyfrifol mewn ffordd anystyriol. Arweiniodd hyn at ddirwy o dros £740.
Dyma atgoffa trigolion fod dyletswydd gofal arnyn nhw i gael gwared ar eu gwastraff yn briodol, ac i sicrhau bod eitemau'n cael eu gwaredu'n gywir. Os na fyddwch chi'n gwneud hyn, efallai bydd y gost yn fwy na theithio ychydig filltiroedd ychwanegol i'r ganolfan ailgylchu yn y gymuned agosaf!
Roedd gweithredoedd yr unigolyn yma'n cynnwys 'helpu ffrind' trwy glirio ei thŷ ym Mhen-y-bont ar Ogwr a thaflu'r eitemau ar hyd Heol Ddu, Pentre'r Eglwys Uchaf. Cafodd 6 bag du eu gadael wedi'u gwasgaru yng nghefn gwlad. Roedden nhw'n cynnwys gwybodaeth a arweiniodd at olrhain y troseddwr a'i ddal! Y peth gwaethaf am hyn yw bod yr eitemau wedi'u gadael rhwng dwy ganolfan ailgylchu yn y gymuned - roedd Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Tŷ Glantaf ond ychydig dros 3 milltir i ffwrdd!
Mae Adran 33(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn disgrifio'r drosedd o dipio'n anghyfreithlon fel a ganlyn: “illegal deposit of any waste onto land that does not have a licence to accept it”. Mae modd i unrhyw un sy'n cael gwared ar eu gwastraff yn anghyfreithlon wynebu dirwy sylweddol fel mae'r bobl yma wedi cael gwybod!
Fydd achosion o dipio'n anghyfreithlon, taflu sbwriel neu beidio â chodi baw cŵn mewn man cyhoeddus ddim yn cael eu goddef yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r achos diweddaraf yn dangos y bydd y Cyngor yn defnyddio pob un o'i bwerau i ddal unigolion sy'n gyfrifol am ddifetha ei drefi a'i ardaloedd gwledig.
Yn ogystal â chynnal gwiriadau rheolaidd ledled y Fwrdeistref Sirol ac ymateb i bryderon sy'n dod i law, mae gan y Cyngor nifer o gamerâu cudd, symudol sy'n cael eu gosod mewn lleoliadau lle mae achosion o dipio'n anghyfreithlon.
Mae gan y Cyngor wasanaeth diderfyn wythnosol, sy'n casglu eitemau sych, gwastraff bwyd a chewynnau i'w hailgylchu o ymyl y ffordd. Yn ogystal â hynny, mae gan y Cyngor nifer o ganolfannau ailgylchu yn y gymuned ledled y Fwrdeistref Sirol, felly does dim esgus dros dipio'n anghyfreithlon, yn enwedig tipio'r eitemau hynny y mae modd eu casglu o ymyl y ffordd neu eu hailgylchu yma yn Rhondda Cynon Taf.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth:
“Fyddwn ni ddim yn goddef tipio’n anghyfreithlon yn ein Bwrdeistref Sirol. Does BYTH esgus i ddifetha'n trefi, strydoedd na'n pentrefi gyda'ch gwastraff a byddwn ni'n dod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol ac yn eu dwyn i gyfrif.
"Fel y mae'r achos yma'n ei ddangos, rydyn ni'n ymchwilio i BOB adroddiad am dipio'n anghyfreithlon a byddwn ni'n darganfod yr holl fanylion.
"Mae cael gwared ar wastraff wedi’i dipio'n anghyfreithlon yn ein Bwrdeistref Sirol yn costio cannoedd ar filoedd o bunnoedd y byddai modd eu gwario ar wasanaethau rheng flaen allweddol.
“Byddwn ni'n defnyddio POB pŵer sydd ar gael inni, i ddwyn i gyfrif y rheini sy'n gyfrifol am eu gweithredoedd. Mae llawer o'r eitemau rydyn ni'n eu clirio oddi ar ein strydoedd, ein trefi a'n mynyddoedd yn eitemau y mae modd eu hailgylchu neu’u gwaredu yn y Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned neu hyd yn oed eu casglu o ymyl y ffordd - heb unrhyw gost ychwanegol."
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i roi gwybod i ni am achosion o Dipio'n Anghyfreithlon, Ailgylchu a Chanolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn RhCT, dilynwch y Cyngor ar Facebook/Twitter neu ewch i www.rctcbc.gov.uk.
Wedi ei bostio ar 03/03/2022