Mae Aelodau’r Cabinet wedi cytuno ar fanylion dyraniad cyllid o £8.23 miliwn yn rhan o raglen gyfalaf barhaus y Cyngor ar draws ei ysgolion. Mae hyn i wneud gwaith atgyweirio, cynnal a chadw a gwelliannau cyffredinol yn 2022/23.
Bob blwyddyn, mae'r Cyngor yn gwneud gwelliannau pwysig ar draws ei ysgolion i sicrhau bod yr adeiladau'n parhau i fod yn ddiogel, yn dal dŵr ac yn gynnes. Mae llawer o'r gwaith yma'n digwydd yn ystod gwyliau haf yr ysgol. Yn ystod mis Chwefror 2022, dyrannodd y Cabinet £8.23 miliwn ar gyfer y rhaglen waith yma ar gyfer y flwyddyn nesaf, yn rhan o’r Rhaglen Gyfalaf dreigl tair blynedd ehangach ar draws holl wasanaethau’r Cyngor.
Cyflwynodd adroddiad swyddog i'r Cabinet ddydd Llun, 21 Chwefror, Raglen Gyfalaf Addysg arfaethedig ar gyfer 2022/23, yn amlinellu sut y byddai'r cyllid yn cael ei wario. Cafodd ei lywio gan nifer o ffactorau gan gynnwys arolygon cyflwr eiddo, adroddiadau Estyn, ystyriaethau iechyd a diogelwch, lleihau'r defnydd o ynni a charbon, creu mannau dysgu hyblyg ac anghenion hygyrchedd i hyrwyddo cynhwysiant.
Bydd gwaith i adnewyddu toeau (£2.55 miliwn) ar draws 19 o ysgolion yn ogystal ag atgyweiriadau i amddiffyn nifer o adeiladau ysgolion rhag y glaw. Mae rhai o’r prosiectau allweddol yn cynnwys gosod blociau to newydd yn Ysgol Gyfun Treorci, Ysgol Gymuned Glynrhedynog, Ysgol Gynradd Pengeulan, Ysgol Gynradd Penrhiwceibr ac Ysgol Babanod Tonpentre – ynghyd â gosod toeon newydd ar Ysgol Gynradd Caradog ac Ysgol Gynradd yr Hafod.
Mae gwaith uwchraddio Ystafelloedd Dosbarth yr 21ain(£566,000) yn cael ei ddyrannu ar draws 11 o brosiectau, gan gynnwys gwelliannau rheoli traffig yn Ysgol Gymuned Glynrhedynog, gwaith cladin yn Ysgol Gyfun Treorci, gwella ystafelloedd dosbarth a gwaith allanol yn Ysgol Gynradd Gymraeg (YGG) Bronllwyn, a gwella ystafelloedd dosbarth yn Ysgol Gynradd Penrhiwceibr, Ysgol Gynradd Trehopcyn ac YGG Bodringallt.
Bydd gwaith adnewyddu Toiledau (£1.17 miliwn) yn digwydd mewn 23 o ysgolion, gyda'r rheini'n cynrychioli buddsoddiad o leiaf £50,000 yn Ysgol Uwchradd Pontypridd, YGG Bronllwyn, Ysgol Garth Olwg, Ysgol Gynradd Blaengwawr, Ysgol Gynradd Brynnau, Ysgol Gynradd Cwmdâr , Ysgol Gynradd Llanhari, Ysgol Gynradd Llwyn-crwn, Ysgol Gyfun Aberpennar, Ysgol Gynradd Trehopcyn, YGG Bodringallt ac YGG Ynys-wen.
Bydd £496,000 ar gyferGwaith Hanfodol yn cael ei ddyrannu i 10 ysgol – Ysgol Gynradd Dolau, Ysgol Gynradd Llantrisant, Ysgol Gynradd Penderyn, Ysgol Gynradd Pengeulan, Ysgol Gynradd Maes-y-Coed, Ysgol Gynradd Treorci, Ysgol Llanhari, Ysgol Nant-Gwyn, YGG Ynys-wen ac Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru. Bydd gwaith ailfodelu mewnol, gwerth £100,000, yn rhan o Hwb Gwasanaeth Cwricwlwm Amgen a Cherddoriaeth yn cael ei gynnal yn hen adeilad Llyfrgell Pontypridd yn rhan o'r buddsoddiad yma.
Mae'r £3.44 iliwn sy'n weddill yn cael ei ddyrannu ar draws categorïau eraill gan gynnwys Adnewyddu Ceginnau, Newid Ffenestri/Drysau, Ailweirio Trydanol, Uwchraddio Larymau Tân, Gwaith i Gydymffurfio â'r Ddeddf Cydraddoldeb, Arolygon Cyflwr Mynediad Addysg a Chynhwysiant, Gosod Boeleri Newydd a Chaledwedd TG /Trwyddedau Meddalwedd.
Mae rhagor o fanylion am y cyllid yma wedi'u cynnwys yn adroddiad y Cabinet ddydd Llun, gan gynnwys rhestr lawn o'r gwaith yn yr Atodiad. Yn dilyn cytundeb y Cabinet, bydd yr holl waith nawr yn cael ei wneud yn y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill, 2022.
Meddai'r Cynghorydd Jill Bonetto, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant: “Mae cynnal lefel sylweddol o gyllid i atgyweirio, cynnal a gwella ein hystad ysgolion yn gyffredinol yn agwedd hanfodol ar y Rhaglen Gyfalaf – gan ganolbwyntio ar greu amgylcheddau dysgu’r 21ain ganrif, gosod y cyfleusterau TG diweddaraf, a gwella effeithlonrwydd ynni. Bydd y cyllid yn diogelu ein hysgolion at y dyfodol, felly rydw i'n falch iawn bod £8.23 miliwn wedi’i ddyrannu yn ystod blwyddyn ariannol 2022/23.
“Mae’r cyllid yma'n rhan o’n Rhaglen Moderneiddio Ysgolion, wrth i’r Cyngor barhau i fuddsoddi mewn Addysg fel maes blaenoriaeth. Yn y Gyllideb y cytunwyd arni’n ddiweddar ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae ein hysgolion wedi’u hariannu’n llawn gyda £11.2 miliwn ychwanegol, neu gynnydd o 6.8%, o’r flwyddyn gyfredol. Mae darparu cyfleusterau newydd sylweddol i ysgolion ar draws y Fwrdeistref Sirol hefyd yn parhau, gyda buddsoddiad o £252 miliwn mewn partneriaeth â Rhaglen Dysgu Cynaliadwy i Gymunedau Llywodraeth Cymru yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.
“Mae’n bwysig nodi hefyd y bydd y Cyngor yn defnyddio cadwyni cyflenwi lleol a diwydiannau adeiladu lleol i gyflawni’r gwelliannau gwerth £8.23 miliwn i ysgolion, wrth i ni anelu at gefnogi busnesau bach yn ein cymunedau. Bydd llawer o’r gwaith yn cael ei gwblhau yn ystod gwyliau’r ysgol er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl. Rydw i'n edrych ymlaen at weld rhaglen 2022/23 yn mynd rhagddi o fis Ebrill ymlaen ac at weld y gwelliannau ar unwaith i wead adeiladau ein hysgolion.”
Wedi ei bostio ar 24/03/22