Skip to main content

Tenant newydd wedi'i sicrhau ar gyfer swyddfa yn Llys Cadwyn

Llys Cadwyn complete 4 - Copy

Mae'r Cyngor wedi sicrhau tenant ar gyfer dau lawr o ofod swyddfa yn rhif 2 Llys Cadwyn. Firstsource Solutions UK Ltd yw'r cwmni diweddaraf i sefydlu canolfan yn y datblygiad ac i ymuno â chymuned leol Pontypridd.

Mae Llys Cadwyn yn ddatblygiad aml-ddefnydd sy'n cynnwys swyddfeydd yn hen safle Canolfan Siopa Dyffryn Taf. Mae tri adeilad modern, llwybr ar hyd yr afon a phont droed newydd yn cysylltu'r datblygiad â Pharc Coffa Ynysangharad. Mae Trafnidiaeth Cymru, Bradley’s Coffee Shop a Gatto Lounge eisoes yn denantiaid yn rhif 3 Llys Cadwn (yn agos at faes parcio Heol y Weithfa Nwy).

Y Cyngor yw tenantiaid rhif 1 Llys Cadwyn (wrth Stryd y Bont). Yno mae Llyfrgell yr Unfed Ganrif ar Hugain, Pwynt Cyswllt i Gwsmeriaid a Chanolfan Ffitrwydd.

Mae'r Cyngor wedi parhau i weithio'n agos ag ymgynghorwyr masnachol JLL mewn perthynas â swyddfeydd eraill y datblygiad ac yn falch iawn o gael cyhoeddi taw Firstsource yw'r tenant newydd ar gyfer llawr gwaelod a llawr cyntaf rhif 2 Llys Cadwyn. Mae'r cwmni yn ddarparwr blaenllaw ym maes datrysiadau prosesau busnes ac yn gweithio gyda dros 100 o fusnesau ar draws y byd.

Mae Firstsource yn ddarparwr byd-eang blaenllaw o wasanaethau Rheoli Prosesau Busnes. Yn y DU, mae Firstsource yn gweithio gydag enwau cyfarwydd yn y diwydiannau Gwasanaethau Ariannol, Cyfathrebu, Cyfleustodau, y Cyfryngau ac Adloniant. Mae'r cwmni'n cyflogi 5,000 o bobl ledled y DU ac mae dros 400 o bobl yn gweithio yn Ne Cymru, a hynny ers i'r cwmni ddod yma yn 2015.

Bydd deiliaid 200 o swyddi yn gweithio mewn swyddfa yn Llys Cadwyn a bydd cannoedd o weithwyr sy'n gweithio gartref yn defnyddio’r adeilad yn ganolfan. Bydd y dull hybrid yma'n helpu Firstsource i greu rhagor o gyfleoedd cyflogaeth ym Mhontypridd a ledled De Cymru. Mae disgwyl i 200 o swyddi newydd fod ar gael o fewn y chwe mis nesaf.

Hoffai'r Cyngor hefyd gadarnhau bod trafodaethau cadarnhaol yn parhau gyda darpar-denantiaid eraill ar gyfer tri llawr arall rhif 2 Llys Cadwyn ac Uned Fwyd A3 sydd ar y llawr gwaelod.

Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu a Thai: "Rydyn ni'n falch iawn bod Firstsource yn ymuno â Thrafnidiaeth Cymru, Bradley’s Coffee Shop a Gatto Lounge yn Llys Cadwyn. Dyma gwmni sefydledig arall sy'n ymuno â chymuned fusnes Pontypridd. Mae'r cwmni yn gweithio ar draws y byd ac mae ganddo gleientiaid mawr mewn sawl maes.

"Mae buddsoddiad y Cyngor yn Llys Cadwyn wrth wraidd adfywiad tref Pontypridd ac mae datblygiad Llys Cadwyn yn gobeithio denu cyflogwyr i'r dref a rhoi hwb i'r economi leol, cynyddu nifer yr ymwelwyr â'r dref a chwsmeriaid newydd i'r busnesau lleol. Bu cryn dipyn o oedi wrth ddatblygu Llys Cadwyn yn sgil y pandemig, fodd bynnag, Firstsource Solutions yw'r cwmni diweddaraf i ymuno â Llys Cadwyn. Rwy'n falch iawn y bydd 200 o swyddi newydd yn dod i'r dref.

"Dyma gyfnod hynod o gyffrous i Bontypridd gan fod Canolfan Gelfyddydau y Miwni ac YMCA Pontypridd hefyd yn cael eu hadnewyddu’n rhan o strategaeth adfywio ar gyfer y dref. Mae buddsoddiad mawr hefyd ar ddod ym Mharc Coffa Ynysangharad. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn ymgynghori ar gam nesaf yr adfywio ac mae modd i breswylwyr ddweud eu dweud ar Gynllun Creu Lleoedd Pontypridd hyd at 29 Mawrth. Mae'r cynllun hwnnw wedi clustnodi pum gofod gwag ar gyfer buddsoddi, gan gynnwys datblygu'r Neuadd Bingo a hen siop M&S.

"Hoffwn i groesawu Firstsource i gymuned Pontypridd a dymuno'n dda iddo ar ddechrau ei gyfnod yn Llys Cadwyn. Mae'r Cyngor hefyd wedi derbyn diddordeb pellach ar gyfer y swyddfeydd eraill ac uned fwyd rhif 2 Llys Cadwyn."

Dywedodd Paul Collings, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Firstsource: “Rydyn ni wrth ein boddau i ddod i Bontypridd ac i gynnig rhagor o swyddi ledled De Cymru yn y tymor hir. Bydd y swyddi yma'n helpu talent leol i feithrin gyrfaoedd ym maes gwasanaethau i gwsmeriaid. Yn y bôn, rydyn ni'n cynnig swyddi sy'n gofyn am empathi, ac rydyn ni'n chwilio am bobl sy'n mwynhau meithrin cydberthynas.

“Bydd deiliaid y 200 o swyddi newydd yn darparu gwasanaethau i fanc mwyaf y DU a darparwr cyfleustodau mawr. Bydd modd elwa ar opsiynau gweithio hybrid a gweithio gartref. Bydd gweithwyr newydd yn cael hyfforddiant llawn a chefnogaeth felly dyma annog unigolion o bob cefndir, beth bynnag eu hanes addysg a chyflogaeth, i gyflwyno cais.

Ychwanegodd Rhydian Morris, cyfarwyddwr swyddfa Caerdydd y cwmni ymgynghorwyr eiddo, JLL, a roddodd gyngor i'r Cyngor ar faterion gosod: “Mae gan y swyddfeydd, sydd yng nghanol tref Pontypridd, gyfleusterau o safon uchel, dyluniad sy'n effeithlon o ran ynni, ac amwynderau cyfagos. Mae’r rhain yn cysylltu’n uniongyrchol â llwyddiant Llys Cadwyn ac mae'n gaffaeliad i'r Cyngor. Rydyn ni'n falch iawn o groesawu Firstsource yn denant diweddaraf y cynllun”.

Cwblhawyd Llys Cadwyn yn nhymor yr hydref 2020 gan y Cyngor a'i bartneriaid Willmott Dixona'r prif gynghorydd, Hydrock. Ariannwyd y prosiect gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Enillodd y datblygiad y Wobr Drawsnewid yng Ngwobrau Eiddo Caerdydd 2021, a derbyniodd lawer o glod yng ngwobrau y Diwydiant Adeiladu Prydain 2021 ac yng Ngwobrau Prosiect y Flwyddyn CLAW 2021. Enillodd wobr Ystadau Cymru 2021 am greu twf economaidd.

Wedi ei bostio ar 18/03/22