Mae bellach modd i breswylwyr ddweud eu dweud ar ddrafft Cynllun Creu Lleoedd Pontypridd sy'n amlinellu'r adfywio ar gyfer dyfodol canol tref Pontypridd. Gwnewch hyn trwy gymryd rhan mewn achlysuron rhithiol neu wyneb yn wyneb mewn ymgynghoriad drwy gydol mis Mawrth.
Fis diwethaf, cytunodd y Cabinet i holi am farn preswylwyr ar y Cynllun sy'n nodi cynigion amrywiol am ddyfodol Pontypridd. Byddai'r cynllun yma'n dilyn y Fframwaith Adfywio Pontypridd (2017-2022) sydd wedi cyflawni Llys Cadwyn a Chwrt yr Orsaf. Mae'r Cynllun cyfredol hefyd wedi symud buddsoddi ar gyfer YMCA Pontypridd, Theatr y Miwni a Pharc Coffa Ynysangharad yn ei flaen.
Mae’r Cynllun Creu Lleoedd arfaethedig yn nodi uchelgeisiau craidd ar gyfer Pontypridd. Mae'r uchelgeisiau yma yn cynnwys bod yn gyrchfan busnes ac yn lle gwych i fyw, bod yn dref hygyrch sydd â chysylltiadau trafnidiaeth da, cynnig mannau gwyrdd ar lan yr afon a threflun unigryw, a bod yn gyrchfan ddiwylliannol a chymdeithasol, yn ogystal â thref gynhwysol a chydnerth. Mae'r Cynllun hefyd yn cynnwys pum ardal sydd â gofod gwag mawr i fod yn ganolbwynt i fuddsoddi yn y dyfodol – Porth y De, Craidd Canol y Dref, Ardal y Farchnad, Porth y Gogledd a Pharc Coffa Ynysangharad.
Dewch i Siarad Pontypridd
Mae cynlluniau cyffrous ar droed i ailddatblygu hen safle'r Neuadd Bingo a safle Clwb Nos Angharad, yn ogystal ag adeiladau Marks & Spencer, Dorothy Perkins a Burtons (96-99a and 100-102 Stryd y Taf).
Yn eu cyfarfod ym mis Chwefror cytunodd yr Aelodau y dylai'r Cyngor ddechrau proses gaffael yn ffurfiol er mwyn bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer yr hen Neuadd Bingo. Mae'r cynlluniau yn trafod troi'r safle yn westy gan ddefnyddio'r llawr gwaelod at ddiben manwerthu. Cytunodd yr Aelodau i ddymchwel 96-99a ac 100-102 Stryd y Taf er mwyn caniatáu ailddatblygu'r holl safle ac agor y dref i gyfeiriad yr afon yn y dyfodol.
Mae'r Cyngor bellach wedi dechrau'r ymgynghoriad ar gyfer y cynllun ehangach a fydd yn parhau hyd at ddydd Mawrth, 29 Mawrth (5pm). Mae modd i drigolion fwrw golwg ar ddogfennau'r Cynllun Creu Lleoedd ar wefan Dewch i Siarad y Cyngor, gan gynnwys uwchgynllun y cynigion ar gyfer Porth y De. Mae hefyd modd i'r sawl sy'n cymryd rhan lenwi arolygon barn byr, adran syniadau ac arolwg mwy.
Bydd swyddogion yno gyda'r cerbyd ymgynghori i gwrdd ag aelodau o'r cyhoedd. Byddan nhw yn Stryd y Felin ddydd Mercher, 9 Mawrth ac wrth y cyrtiau tenis ddydd Iau, 17 Mawrth (10am-2pm). Mae croeso i bawb i fynd yno a chael rhagor o wybodaeth.
Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu a Thai: "Yng nghyfarfod diwethaf y Cabinet, cytunodd Aelodau'r Cyngor i holi preswylwyr am ddrafft o Gynllun Creu Lleoedd Pontypridd, sy'n amlinellu'r cam nesaf yn y cynlluniau adfywio ledled y dref. Rydyn ni eisoes wedi cyflawni cymaint yn ddiweddar gan gynnwys Llys Cadwyn, cyfleuster gofal ychwanegol Cwrt yr Orsaf Pontypridd, cam cyntaf buddsoddi ym Mharc Coffa Ynysangharad, a chynnydd gwych gyda phrosiectau YMCA Pontypridd a Chanolfan Gelfyddydau y Miwni.
"Byddai'r Cynllun arfaethedig yn dilyn y Fframwaith Adfywio Pontypridd cyfredol pan fydd y fframwaith hwnnw'n dod i ben eleni. Byddai'n rhoi gweledigaeth y Cyngor ar gyfer canol y dref ar waith ac yn pennu amserlenni ar gyfer prosiectau allweddol. Mae rhoi gwybod i breswylwyr, busnesau a rhanddeiliaid eraill am y cynllun ac i gasglu eu barn nhw yn allweddol. Bydd gwneud hyn yn golygu bod modd i Swyddogion ystyried yr adborth a gwneud unrhyw newidiadau cyn trafod â'r Cabinet yn y dyfodol.
"Mae bellach modd i breswylwyr a busnesau ddod o hyd i ragor o wybodaeth a dweud eu dweud ar y cynigion. Rydyn ni'n awyddus i glywed eu barn am y pum ardal sydd â gofod gwag ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol. Ymysg y buddsoddi yma mae cynlluniau cyffrous ar gyfer hen safle y Neuadd Bingo a hen safle Marks & Spencer, dau leoliad allweddol ym Mhorth y De sy'n destun cynigion adfywio. Mae uwchgynllun o ddrafft y cynigion ar gyfer y safleoedd yma wedi'i gynnwys yn y dogfennau.
"Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb mewn dod o hyd i ragor o wybodaeth am y cynigion ar gyfer canol tref Pontypridd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Mae'n bwysig ein bod ni'n clywed barn trigolion lleol er mwyn llywio'r fframwaith ar gyfer buddsoddi ym Mhontypridd yn y dyfodol. Mae modd cymryd rhan trwy fynd i'n gwefan Dewch i Siarad, neu trwy gwrdd â swyddogion yn yr achlysuron sydd wedi'u trefnu yn y dref."
Wedi ei bostio ar 08/03/22