Skip to main content

Arddangosfa Lleisiau Olaf Cwm Rhondda

Last Voices heritage park

Mae Maer Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Wendy Treeby wedi agor arddangosfa 'Lleisiau Olaf Cwm Rhondda' yn swyddogol. Mae'r arddangosfa ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda yn Nhaith Pyllau Glo De Cymru arobryn y Cyngor.

Mae Lleisiau Olaf Cwm Rhondda yn arddangosfa glyweledol sy'n defnyddio amryw o gyfryngau i arddangos creadigaethau disgyblion lleol wedi iddyn nhw glywed straeon a phrofiadau glöwyr.

Meddai'r Cynghorydd Wendy Treeby, Maer Rhondda Cynon Taf: "Mae'r hen byllau glo enwog wrth wraidd cymunedau Rhondda Cynon Taf. Er nad yw'r pyllau glo yn dal i fod yno, mae'n bwysig ein bod ni'n cofio ein hanes diwydiannol ac yn addysgu'r to iau am fywyd yn yr ardal yn y cyfnod hwnnw, yn enwedig o ran yr amodau wrth weithio yn y pyllau.

"Mae Taith Pyllau Glo De Cymru yn adrodd hanes y diwydiant glo o safbwynt y glöwyr.

"Mae Lleisau Olaf Cwm Rhondda yn arddangosfa hynod ddiddorol ac mae'n rhaid diolch i'r sawl a fu'n gweithio er mwyn ei chyflawni, yn enwedig y disgyblion ifainc sydd wedi creu portreadau gwych.

Cwmni Vision Foundation sy'n arwain yr arddangosfa wedi iddo dderbyn cyllid i gyflawni'r prosiect ar y cyd â Chyngor Rhondda Cynon Taf, The Oral History Society, Y Loteri Genedlaethol a Cyngor Celfyddydau Cymru.

Ymysg y rheini a ddaeth i agoriad swyddogol yr arddangosfa oedd cyn-löwyr ac aelodau o'r gymuned leol a oedd yn rhan o'r prosiect.

Mae'n rhaid diolch i Darren Macy, Kath Lewis ac Esta Lewis (staff Gwasanaeth Treftadaeth y Cyngor) ac athrawon Ysgol Gynradd y Parc, Ysgol Gynradd Maerdy ac Ysgol Gynradd Hafod yng Nghwm Rhondda.

Mae'r prosiect yma'n cyfuno hanesion llafar a phortreadau 3D gan ddefnyddio technoleg 3G yn seiliedig ar atgofion glöwyr o weithio yn y pyllau.

Meddai Richard Jones, cyfarwyddwr creadigol Vision Foundation: "Mae ymrwymiad disgyblion lleol a chyn-löwyr o'r ardal leol trwy gydol y prosiect wedi arwain at greu campwaith aml-gyfrwng sydd wrth wraidd y prosiect ehangach."

Mae arddangosfa Lleisiau Olaf Cwm Rhondda ar agor yn Nhaith Pyllau Glo De Cymru hyd at 23 Mai. Am ragor o wybodaeth am yr arddangosfa, atyniadau eraill ac i drefnu eich Taith Aur Du bwriwch olwg ar y wefan www.parctreftadaethcwmrhondda.com.

Wedi ei bostio ar 25/03/22