Skip to main content

Offer achub bywyd wedi'i osod ar gyfer y gymuned

Coliseum

Mae diffibriliwr newydd fydd yn achub bywydau wedi'i osod y tu allan i Theatr y Colisëwm, er budd y gymuned gyfan ac ymwelwyr â’r theatr.

Roedd y diffibriliwr wedi'i leoli y tu mewn i Theatr y Colisëwm a dim ond yn ystod oriau agor y theatr roedd modd ei ddefnyddio. Mae'r diffibriliwr, sydd bellach mewn uned newydd y tu allan i'r adeilad, ar gael i'r gymuned gyfan.

Meddai'rCynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Newid yn yr Hinsawdd a Chymunedau:"Gall unrhyw un gael trawiad ar y galon ar unrhyw adeg, heb unrhyw rybudd, a phan fydd yn digwydd, mae pob eiliad yn bwysig gan fod modd iddo fod yn angheuol.

“Mae modd i ddiffibrilwyr achub bywydau ac mae'n declyn amhrisiadwy i unrhyw un sy'n rhoi cymorth cyntaf. Mae diffibrilwyr bellach ar gael mewn lleoliadau amrywiol ledled Rhondda Cynon Taf ac rydw i'n falch iawn bod un bellach wedi'i osod y tu allan i Theatr y Colisëwm yn Aberdâr.

“Mae modd i unrhyw un ddefnyddio'r unedau achub bywyd yma mewn argyfwng, ar yr amod eu bod nhw wedi derbyn yr hyfforddiant angenrheidiol. Mae gan bob uned gyfarwyddiadau clir, ond mae'n hanfodol mai dim ond pobl sydd wedi cael hyfforddiant sy'n eu defnyddio.”

“Mae'r diffibriliwr yn ddarn pwysig o offer achub bywyd y mae modd i ymwelwyr â’r theatr ei ddefnyddio, ond mae hefyd ar gael i'r gymuned ehangach ei ddefnyddio 24 awr y dydd, drwy gydol y flwyddyn.”

Mae'r Cyngor yn trefnu cyrsiau hyfforddi defnyddio diffibriliwr ac adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) yn rheolaidd mewn lleoliadau ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae'r cyrsiau am ddim ac ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg. Gallai gweithredu'n gyflym achub bywyd.

Theatrau Rhondda Cynon Taf

Wedi ei bostio ar 22/03/22