Skip to main content

Dros £26 miliwn o gyllid ar gyfer Priffyrdd a Thrafnidiaeth y flwyddyn nesaf

More than £26m is allocated to Highways and Transportation next year

Mae Aelodau’r Cabinet wedi cytuno ar Raglen Gyfalaf gwerth £26.365m ar gyfer y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol yn 2022/23 – i fuddsoddi ymhellach yn y meysydd blaenoriaeth yma, wrth barhau i wneud y mwyaf o gyfleoedd ariannu allanol.

Roedd adroddiad i'r Cabinet ddydd Llun, 21 Mawrth yn cynnig dyraniadau cyfalaf o £11.203m (Gwasanaethau Technegol y Priffyrdd) a £15.162m (Cynlluniau Strategol) ar gyfer y flwyddyn nesaf – er mwyn parhau i atgyweirio, cynnal a chadw a diogelu’r rhwydwaith priffyrdd a thrafnidiaeth at y dyfodol, a’i ddatblygu i fodloni gofynion teithio newidiol. Cytunodd yr Aelodau ag argymhellion Swyddogion i gymeradwyo'r Rhaglen.

Gwasanaethau Technegol y Priffyrdd (£11.203m)

Mae'r Rhaglen yn dyrannu £3.663m ar gyfer Ffyrdd Cerbydau, ar draws rhestr o 121 o gynlluniau gosod wyneb newydd. Mae'r rhestr wedi'i chynnwys fel Atodiad i'r adroddiad. Mae cyllid ar gyfer adnewyddu llwybrau troed (£437,000) hefyd wedi'i ddyrannu ar draws 41 o gynlluniau, ac mae 13 cynllun Ffyrdd heb eu Mabwysiadu newydd (£500,000) wedi’u cynnwys, yn ogystal â'r rhaglen barhaus o saith cynllun yn 2021/22.

Bydd cyllideb Strwythurau Priffyrdd o £5.65m yn cefnogi pum cynllun arfaethedig – Pont Bodringallt a Phont Droed Stryd y Nant yn Ystrad, Pont Droed Rheilffordd Llanharan, Cantilifer Nant Cwm-parc/Pont y Stiwt yn Nhreorci, a Phont Imperial yn ardal Porth. Mae rhaglen Strwythurau Parciau gwerth £500,000 i’w rhoi ar waith gyda phrosiectau wedi’u cymryd o’r rhai a amlinellir yn yr Atodiad.

Yn ogystal â hyn, mae cyllid ar gyfer gwaith gwella Goleuadau Stryd mewn pedwar lleoliad (£200,000), cynlluniau Rheoli Traffig ar raddfa fach (£160,000) a gwaith parhaus i atgyweirio a gwella Meysydd Parcio (£45,000) hefyd wedi'i gynnwys.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi’r cyllid ar wahân sydd wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith yn sgil Storm Dennis, gyda £6.441m wedi’i ddyrannu yn 2022/23. Bydd hyn yn symud cynlluniau â blaenoriaeth yn eu blaenau, megis atgyweiriadau Heol Berw (y Bont Wen), gosod Pont Droed Castle Inn newydd, Pont Droed Tyn-y-bryn a Phont Droed y Bibell Gludo.

Mae hefyd yn ychwanegu bod gwaith sylweddol o ran Gwelliannau Draenio Tir a Pherygl Llifogydd ar wahân i’r Rhaglen Gyfalaf, ac mae modd i'r Cyngor elwa’n aml ar gymorth gan Lywodraeth Cymru (fel cyfraniad o 85%).

Cynlluniau Strategol (£15.162m)

Cyfanswm y dyraniad ar gyfer Seilwaith Trafnidiaeth yw £14.989m – gan ddyrannu £5.55m i symud cynllun Ffordd Gyswllt Llanharan yn ei flaen, £5.341m ar gyfer gwaith Deuoli'r A4119 (Coed-elái i Ynysmaerdy), ac £1.5m ar gyfer Porth Gogledd Cwm Cynon. Mae £640,000 wedi'i ddyrannu ar gyfer y Rhaglen Parcio a Theithio, er mwyn creu rhagor o leoedd parcio mewn gorsafoedd rheilffordd ochr yn ochr â buddsoddiad y Metro, a £350,000 wedi’i ddyrannu ar gyfer offer gwefru cerbydau trydan.

Hefyd o fewn y dyraniad Trafnidiaeth mae cyllid gwerth £1.1m ar gyfer y Rhaglen Gwneud Defnydd Gwell, sy'n canolbwyntio ar welliannau cost isel, gwerth uchel i'r rhwydwaith ffyrdd i wella llif traffig a lleddfu tagfeydd. Y ddau gynllun sydd i’w datblygu yn 2022/23 yw dylunio a datblygu gwelliannau i goridor yr A4059, a chroesfan i gerddwyr yn Nhŷ Nant yn ardal Beddau.

Mae cyllid ehangach y Cynlluniau Strategol yn dod i ben gyda dyraniad o £515,000 ar gyfer Gwelliannau Amrywiol, gan ymdrin â materion gweithredol mewn perthynas â choridorau bysiau, a gweithio mewn partneriaeth i ddatrys materion priffyrdd lleol.

Mae’r adroddiad yn nodi bod y Rhaglen Gyfalaf ar wahân i gyfres o grantiau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru (Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, y Gronfa Trafnidiaeth Leol, Cronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol a Grant Diogelwch y Ffyrdd), y dyrannwyd £6.777m ar eu cyfer yn 2021/22. Cafodd cyllid y Cyngor ei hun yn y maes yma ei ategu hefyd gan Gronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU (£11.417m) a grantiau draenio/llifogydd Llywodraeth Cymru (£7m) y llynedd.

Mae ceisiadau am gyllid ar gyfer Teithio Llesol, Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a’r Gronfa Trafnidiaeth Leol ar gyfer 2022/23 wedi’u cyflwyno, ynghyd â chais i Lywodraeth Cymru ar gyfer 16 o gynlluniau Ffyrdd Cydnerth (cyfanswm o £2.4m) y flwyddyn nesaf.

Mae'r Cyngor wedi derbyn cadarnhad yn ddiweddar ei fod wedi llwyddo i sicrhau £2.939m o'r rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, a £939,250 o'r rhaglenni Grant Gwaith Graddfa Fach. Mae’r cyllid yma wedi’i glustnodi ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd yn ystod 2022/23.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae’r adroddiad manwl iawn a gafodd ei drafod gan y Cabinet ddydd Llun yn amlinellu’r buddsoddiad mawr parhaus sy’n cael ei wneud ar draws meysydd gwasanaeth y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol – gyda £26.365m bellach wedi’i gytuno ar gyfer y blaenoriaethau yma'r flwyddyn nesaf, gyda chefnogaeth gan Aelodau’r Cabinet.

“Mae cyllid y Cyngor yn cael ei ategu gan gyfraniadau allanol sylweddol hefyd – er enghraifft, mae dros £6.4m eisoes wedi’i sicrhau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau Storm Dennis y flwyddyn nesaf, ynghyd â bron i £3.9m o ddwy raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer gwaith rheoli perygl llifogydd. Yn 2021/22, roedden ni'n llwyddiannus iawn wrth sicrhau’r buddsoddiad allanol yma, a bydd Swyddogion yn parhau i chwilio am gyfleoedd ariannu pwysig ar gyfer 2022/23 – gyda Swyddogion yn gwneud ceisiadau mewn meysydd allweddol fel Teithio Llesol a Llwybrau Diogel.

“Rwy’n falch y bydd ein dull 'cyllido carlam' ar gyfer cynnal a chadw ffyrdd hefyd yn parhau’r flwyddyn nesaf, gyda £3.663m bellach wedi’i gytuno i helpu 121 o gynlluniau gosod wyneb newydd. Roedd yr adroddiad i'r Cabinet ddydd Llun yn nodi sut mae cyflwr y ffyrdd yn Rhondda Cynon Taf wedi gwella'n eang ar draws yr holl ddangosyddion. Er enghraifft, roedd angen gwaith cynnal a chadw ar 3.6% o’r holl ffyrdd yn 2021/22, o'i gymharu â 15.7% yn 2010/11 – ac mae'r duedd yma i'w gweld dros yr un cyfnod ar gyfer ffyrdd 'A' (16.2% i 3.7%), ffyrdd ‘B’ (15.2% i 4.8%) a ffyrdd 'C' (15.3% i 2.3%). 

“Mae Rhaglen Gyfalaf y flwyddyn nesaf hefyd yn cefnogi cynlluniau strwythurau priffyrdd pwysig – gyda £5.65m wedi'i ddyrannu ar gyfer Pont Bodringallt, Pont Droed Stryd y Nant, Pont Droed Rheilffordd Llanharan, Cantilifer Nant Cwm-parc a Phont Imperial.  Mae cyllid ychwanegol wedi'i ddyrannu i ddatblygu cynlluniau mawr ymhellach megis Ffordd Gyswllt Llanharan, gwaith deuoli'r A4119 a Phorth Gogledd Cwm Cynon - a hynny o fewn dyraniad ehangach o £14.989m ar gyfer Trafnidiaeth.

“Mae cytundeb Aelodau'r Cabinet ar y Rhaglen Gyfalaf hon ddydd Llun yn dangos ymrwymiad y Cyngor i gefnogi Priffyrdd a Thrafnidiaeth fel maes buddsoddi â blaenoriaeth, er budd y trigolion. Bydd y rhaglen o waith yn dod i rym ar 1 Ebrill 2022.”

Wedi ei bostio ar 23/03/22