Mae’r Cyngor yn cefnogi agoriad swyddogol a dadorchuddio Cofeb Blits Cwm-parc, gan gofio’r rhai a fu farw’n drasig yn ystod bomio’r pentref yn yr Ail Ryfel Byd.
Bydd gwasanaeth coffa awyr agored arbennig a seremoni ddadorchuddio yng Nghwm-parc, Cwm Rhondda, ddydd Sadwrn, 30 Ebrill am 1pm. Mae croeso i'r cyhoedd ddod.
Ymysg y rhai a fydd yn bresennol yn ystod dadorchuddio Cofeb Cwm-parc fydd Meirion John, weldiwr wedi ymddeol a oroesodd y bomio ac sydd bellach yn 82 oed. Roedd yn rhy ifanc i gofio'r ymosodiad trasig ond mae ganddo atgofion plentyndod o'r Ail Ryfel Byd o hyd.
Dywedodd Meirion John, a gafodd ei eni a'i fagu yng Nghwm-parc cyn symud i Dreorci:
“Dim ond dwy a hanner oed oeddwn i pan gafodd Cwm-parc ei fomio yn 1941, yn rhy ifanc i gael unrhyw atgof o’r noson dyngedfennol honno. Er hyn, rydw i'n dal i gofio rhai rhannau o’r Ail Ryfel Byd – er enghraifft, mae sŵn y seirenau cyrch awyr yn dal yn fyw yn fy nghof.
“Roedd fy rhieni’n arfer tynnu’r bwrdd bwyd i fyny yn erbyn y ffenest ac yna’r soffa yn erbyn hynny nes bod yr awyren wedi mynd uwchben a’r seirenau wedi stopio. Gan ei bod yn gymuned glos, roedd fy nheulu yn adnabod pob un o’r bobl hynny a fu farw yn ystod y cyrch bomio ar Gwm-parc.
"Dylen ni fod wedi cael Cofeb Blits Cwm-parc ers meitin ond mae'n rhywbeth i ni i gyd fod yn falch ohono. Mae’r noson drasig honno’n bennod enfawr yn ein hanes ac rydw i'n falch iawn o weld y gofeb yn cael ei dadorchuddio yn ystod fy oes.”
Mae Mr John yn aelod o bwyllgor Prosiect Coffa Blitz Cwm-parc, sydd wedi cael ei arwain gan y gymuned drwyddo draw, gyda chefnogaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf. Mae’r gofeb, sydd wedi’i lleoli ar dir ger Heol y Parc, Cwm-parc, wedi’i chysegru i’r rhai a fu farw yn ystod y bomio a’r holl filwyr o’r ardal a fu farw yn ymladd dros eu gwlad yn y ddau Ryfel Byd a rhyfeloedd eraill.
Ar Ebrill 29, 1941, bu cyrch bomio ar gymunedau clos Cwm-parc a Threorci gan y Luftwaffe Almaenig, a lladdwyd 27 o bobl. Fe’i disgrifiwyd ar y pryd fel y golled unigol fwyaf o fywydau yng Nghwm Rhondda yn ystod yr Ail Ryfel Byd, lle’r oedd plant o bob rhan o Brydain yn cael eu hanfon yn rhan o'r cynllun i wacáu trefi a dinasoedd mawr. Dim ond 18 mis oed oedd y person ieuengaf i gael ei ladd.
Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber:
“Mae’r Cyngor yn falch o’i gysylltiadau cadarn â’i gymuned Lluoedd Arfog ar draws y Fwrdeistref Sirol ac yn falch iawn o gefnogi Prosiect Coffa Blits Cwm-parc.
“Collodd cymaint o bobl eu bywydau yng Nghwm-parc ar y noson ofnadwy honno ar yr un adeg ac mewn man lle roedden nhw’n meddwl eu bod yn ddiogel, yn cysgu’n sownd yn eu gwelyau gartref.
“Cafodd y gymuned glos yma ei siglo’r noson honno, noson sy’n cael ei chofio yn ein llyfrau hanes. Noson pan gollwyd llawer o fywydau diniwed. Byddwn ni'n eu cofio am byth.
“Mae Cofeb Blits Cwm-parc yn deyrnged deilwng i’r bobl yma ac mae’r Cyngor yn cydymdeimlo â’r gymuned ac â’r rhai a gollodd anwyliaid. Bydd hon yn gofeb barhaol iddyn nhw ac i bawb arall o’r gymuned leol a gollodd eu bywydau yn ystod y ddau ryfel byd a rhyfeloedd eraill ledled y byd.”
Wedi ei bostio ar 22/03/22