Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi
Mae'r Cyngor wedi derbyn caniatâd cynllunio i ddisodli hen adeiladau yn Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref, Ysgol Gynradd Pont-y-clun ac Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi, a gosod cyfleusterau newydd o'r radd flaenaf i'r holl staff a disgyblion.
Ystyriodd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu dri chais gwahanol ddydd Iau, 10 Mawrth. Penderfynodd aelodau'r pwyllgor i roi caniatâd cynllunio llawn i bob cais a chytuno ag argymhellion swyddogion, a oedd ynghlwm wrth y ceisiadau.
Cytunodd y pwyllgor ar un amod ar gyfer pob cais - mae'n rhaid i'r Cyngor ddylunio a chymeradwyo gwelliannau sydd wedi'u hargymell gan Lwybrau Mwy Diogel yn y Gymuned, yn ogystal â’u rhoi ar waith ar y brif ffordd ym mhob ardal.
Nododd bob adroddiad y byddai'r datblygiadau yn defnyddio safleoedd ysgolion cynradd presennol, yn cynnig cyfleusterau o'r radd flaenaf i ddisgyblion, ac y byddai'r adeiladau modern yn gwella cyfleusterau addysgol ac yn gwella gwedd yr ysgolion.
Bydd y prosiectau yn cael eu cyflawni yn 2023/24 a'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol fydd yn eu hariannu nhw. Bydd y cyllid refeniw ar gael yn rhan o Fand B Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru (hen raglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain). Roedd modd i drigolion ddod o hyd i ragor o wybodaeth a dweud eu dweud ar y prosiectau mewn ymgynghoriadau ar wahân rhwng Hydref a Thachwedd 2021.
Bydd y tri datblygiad yn brosiectau Carbon Sero-Net ac yn cydymffurfio ag ymrwymiadau y Cyngor mewn perthynas â Newid Hinsawdd.
Ysgol Gynradd Pont-y-clun
Bydd pob adeilad ar y safle (gan gynnwys dosbarthiadau dros dro) yn cael eu dymchwel er mwyn adeiladu ysgol newydd, cyfleusterau chwaraeon a hamdden, a maes parcio newydd i geir ac i feiciau. Bydd gwaith tirlunio, draenio ac isadeiledd hefyd yn digwydd yno. Bydd gan yr adeilad newydd ddau lawr a thair adain oddi ar ganol yr adeilad. Bydd dwy ystafell i'r feithrinfa, dwy i'r dosbarth derbyn, pump i'r adran fabanod, naw i'r adran iau a phrif neuadd. Bydd lle i 480 o ddisgyblion rhwng 4 ac 11 oed a 60 o ddisgyblion yn y feithrinfa.
Bydd gan ddosbarthiadau Cyfnod Sylfaen fynediad uniongyrchol at ardaloedd chwarae caled o amgylch yr adeilad. Bydd dwy Ardal Gemau Aml-ddefnydd ac ardaloedd chwarae anffurfio eraill o amgylch yr ysgol. Bydd y fynedfa i gerbydau sydd eisoes ar Heol-y-Felin yn dod yn fynediad i'r ysgol gynradd, a bydd Coedlan y Palalwyf yn troi'n fynedfa i gerddwyr yn unig. Bydd y ddwy fynedfa i gerddwyr sydd eisoes yno yn cael eu cadw’r un fath. Bydd dau faes parcio gyda 40 o lefydd (bydd 10% o'r llefydd hynny yn cynnwys mannau gwefru i gerbydau trydanol). Bydd y safle hefyd yn manteisio ar System Ddraenio Drefol Gynaliadwy.
Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref
Bydd yr ysgol bresennol yn cael ei dymchwel ac adeilad newydd yn cael ei godi yn yr ardal chwarae, ar ochr ddwyreiniol y safle. Bydd gan yr adeilad newydd un llawr a naw dosbarth ar gyfer disgyblion yr ysgol gynradd a'r feithrinfa ynghyd â phrif neuad, ystafelloedd cotiau, ystafelloedd newid, cegin, storfeydd a chyfleusterau eraill. Bydd gan bob dosbarth fynediad uniongyrchol at ofodau awyr agored. Bydd lle i 240 o ddisgyblion rhwng 4 ac 11 oed a 30 o ddisgyblion yn y feithrina.
Bydd y cyfleusterau awyr agored yn cynnwys ardaloedd wedi'u tirlunio, amffitheatr, ac ardaloedd chwarae meddal a chaled. Bydd dwy Ardal Gemau Aml-ddefnydd ar dir yr ysgol, cae chwarae (5-bob ochr) a thrac rhedeg 40 metr. Bydd lle i gadw 30 beic, a maes parcio gyda 23 o lefydd (bydd 10% o'r llefydd hynny yn cynnwys mannau gwefru i gerbydau trydanol). Bydd y fynedfa bresennol yn aros yr un fath, a bydd ardaloedd na fydd yn cael eu defnyddio yn cael eu tirlunio. Bydd y safle yn manteisio ar System Ddraenio Drefol Gynaliadwy
Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi
Bydd pob adeilad ar dir yr ysgol yn cael eu dymchwel er mwyn adeiladu ysgol dau lawr newydd yng nghornel gogledd-ddwyreiniol y safle. Bydd tair adain yn dod oddi ar brif rhan yr adeilad newydd. Bydd dwy feithrinfa, un dosbarth derbyn, tri dosbarth i'r adran fabanod a chwech i'r adran iau. Bydd prif neuadd a chyfleusterau amrywiol o amgylch y safle. Bydd lle i 310 o ddisgyblion rhwng 4 ac 11 oed a 45 o ddisgyblion yn y feithrinfa.
Bydd gan ddosbarthiadau Cyfnod Sylfaen fynediad at ardaloedd chwarae caled yn nwyrain a gorllewin yr adeilad, a bydd cae chwarae (7-bob-ochr), dwy Ardal Gemau Aml-ddefnydd ac ardaloedd chwarae anffurfiol yn de y safle. Bydd y fynedfa ar Gilgant Burgesse a'r fynedfa i gerddwyr yn de y safle yn cael eu huwchraddio. Bydd 28 o lefydd parcio (bydd 10% o'r llefydd hynny yn cynnwys mannau gwefru i gerbydau trydanol) a lle i 40 o feiciau. Bydd y safle yn cynnwys System Ddraenio Drefol Gynaliadwy.
Meddai'r Cynghorydd Jill Bonetto, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant: "Rwy'n falch iawn bod tri o'n prosiectau buddsoddi mewn ysgolion wedi cael caniatâd cynllunio. Bydd y buddsoddiad yn Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref, Ysgol Gynradd Pont-y-clun ac Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi yn creu amgylcheddau dysgu o'r radd flaenaf i'r disgyblion. Bydd gwelliannau i'r priffyrdd hefyd yn cael eu datblygu yn seiliedig ar argymhellion Llwybrau Mwy Diogel Yn Y Gymuned.
"Penderfynodd y Cyngor gynnig yr ysgolion yma ar gyfer derbyn buddsoddiad ym mis Medi 2020 gan eu bod nhw wedi'u lleoli mewn ardaloedd sy’n profi datblygiadau tai cyson. Mae angen buddsoddi yn yr ysgolion yma er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gwbl hygyrch a bod eu cyfleusterau yn cyrraedd safon Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain. Digwyddodd achlysuron wyneb yn wyneb yn 2021 a lleisiodd drigolion lleol eu barn a gofyn cwestiynau am y prosiectau.
"Mae'r tri phrosiect Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn cynrychioli un elfen o'n gwaith parhaus i gyflawni buddsoddiad mawr mewn ysgolion trwy'r rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Mae buddsoddiad eang gwerth £60 miliwn ar draws Pontypridd Fwyaf yn digwydd ar hyn o bryd a bydd ysgolion yn y Ddraenen Wen, Rhydfelen, Cilfynydd a'r Beddau yn manteisio yn sgil y buddsoddiad hwnnw yn 2023. Mae gwaith hefyd yn digwydd ar ddarparu cyfleusterau newydd a chapasiti mwy yn Ysgol Gyfun Gymraeg Aberdâr ac Ysgol Rhydywaun.
"Mae buddsoddiad gwerth £85 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Hydref wedi cynnig buddsoddiad arwyddocaol ar gyfer Ysgol Llanhari, Ysgol Cwm Rhondda, Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn, Ysgol Gynradd Pen-rhys, Ysgol Gynradd Maes-y-bryn ac Ysgol Gynradd Tonysguboriau, yn ogystal ag ysgol gynradd cyfrwng Saesneg newydd i gymuned Glyn-coch ac ysgol arbennig newydd i’r Fwrdeistref Sirol.
"Mae bellach modd symud at gamau nesaf tri phrosiect y Model Buddsoddi Cydfuddiannol a’u cwblhau erbyn blwyddyn academaidd 2023/24 wedi i'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu roi caniatâd ddydd Iau. Bydd y Cyngor yn sicrhau bod preswylwyr yn effro i newyddion diweddaraf pob prosiect maes o law."
Wedi ei bostio ar 17/03/2022