Skip to main content

Y diweddaraf – Cynllun adeiladu pont droed newydd yn Stryd y Nant, Ystrad

Brook Street footbridge at Ystrad Rhondda Railway Station

Mae'r Cyngor bellach wedi cyrraedd cam nesaf y cynllun i adeiladu pont droed newydd yn Stryd y Nant ger Gorsaf Reilffordd Ystrad Rhondda. Mae gwaith yn mynd rhagddo i sefydlu safle ar gyfer peiriannau/offer cyn dechrau ar brif gam y gwaith.

Mae'r bont wedi cyrraedd diwedd ei hoes, ac mae angen gosod un newydd yn ei lle er mwyn parhau â'r mynediad sy'n cael ei ddefnyddio'n aml gan gerddwyr o Ystrad i Heol Nant-y-gwyddon. Mae'r bont hefyd yn darparu'r unig fynediad â ramp i blatfform gogleddol yr orsaf reilffordd. Mae'r cynllun yn cael ei ariannu ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru.

Mae'r Cyngor wedi penodi Alun Griffiths (Contractors) Ltd yn gontractwr ar gyfer y cynllun. Mae'r prosiect yn heriol gan fod rhaid i'r gwaith gael ei gynnal law yn llaw â gwaith gweithredu dydd i ddydd yr orsaf reilffordd. Yn ogystal â hyn, mae'r llinell reilffordd wedi'i thrydaneiddio ac mae afon gerllaw.

Mae gwaith clirio llystyfiant sylweddol a gafodd ei ddechrau ym mis Ionawr 2022 bellach wedi'i gwblhau. Mae gwaith y contractwr i sefydlu safle ar gyfer peiriannau/offer yn mynd rhagddo ger Ystad Ddiwydiannol Gelli. Bydd prif gam adeiladu'r cynllun yn dechrau erbyn diwedd mis Mawrth, a bydd yn cael ei gwblhau yn ddiweddarach eleni.

O ddechrau mis Ebrill 2022, bydd gofyn i'r contractwr gynnal llawer o'r gwaith gyda'r nos o ganlyniad i natur y prosiect. Dylai trigolion lleol ddisgwyl rhywfaint o sŵn, ond bydd mesurau ar waith i helpu i liniaru hyn. Bydd y contractwr yn ysgrifennu at drigolion lleol i roi rhagor o fanylion.

Yn ystod y cam yma o'r cynllun, fydd dim effaith ar ddefnyddwyr y bont nac ar yr orsaf reilffordd o ddydd i ddydd. Bydd tarfu yn y dyfodol pan fydd y contractwr yn tynnu'r bont yn ddarnau. Bydd angen trefniadau mynediad dros dro i'r orsaf reilffordd. Bydd y Cyngor yn rhoi rhybudd o'r gwaith yma, gyda manylion pellach i'w rhannu maes o law.

Bydd Alun Griffiths (Contractors) Ltd yn cyhoeddi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn rheolaidd ar ei wefan gymunedol – sydd ar gael yma.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Bydd trigolion lleol a chymudwyr wedi sylwi ar waith clirio llystyfiant ger Gorsaf Reilffordd Ystrad Rhondda ers y Flwyddyn Newydd. Dyma gam cyntaf y gwaith i adeiladu pont droed newydd yn Stryd y Nant. Mae cynnydd wedi'i wneud sy'n golygu bod modd dechrau gwaith paratoi ar gyfer y prif gam adeiladu. Mae disgwyl i'r cam yma gael ei gwblhau erbyn diwedd 2022.

“Mae'r Cyngor yn parhau i ddarparu cyllid sylweddol i atgyweirio a diogelu strwythurau ar gyfer y dyfodol sy'n rhan bwysig o'n rhwydwaith priffyrdd a thrafnidiaeth. Mae pont droed Stryd y Nant yn un o lawer o gynlluniau sydd i'w cynnwys yn Rhaglen Gyfalaf y Priffyrdd arfaethedig ar gyfer 2022/23, a hynny o fewn buddsoddiad o £5.65 miliwn ar gyfer strwythurau. Mae gwneud atgyweiriadau i Bont Imperial yn ardal Porth, gwaith ar gantilifer Nant Cwm-parc, cryfhau Pont y Stiwt yn Nhreorci ac adeiladu pont droed newydd ar gyfer Rheilffordd Llanharan yn gynlluniau â blaenoriaeth.

“Bydd cam nesaf y gwaith yng Ngorsaf Reilffordd Ystrad Rhondda yn cynnwys gwaith gyda'r nos o fis Ebrill ymlaen, gan y bydd raid i'r contractwr weithio pan na fydd y rheilffordd yn cael ei defnyddio. Bydd y Cyngor yn parhau i weithio'n agos gyda'i gontractwr i symud y cynllun yn ei flaen gan darfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned, wrth iddo weithio tuag at ddymchwel y bont bresennol yn y misoedd nesaf. Diolch i drigolion am eich cydweithrediad parhaus."

Wedi ei bostio ar 21/03/22