Bydd modd ymgeisio i fod yn rhan o Raglen Brentisiaethau adnabyddus Cyngor Rhondda Cynon Taf o 1 Ebrill, ac mae amrywiaeth o gyfleoedd ar gael unwaith eto eleni!
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ymfalchïo mewn darparu cyfleoedd cyflogaeth o safon, ac ym mis Tachwedd 2018 ac 2021, fe enillon ni wobr Cyflogwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru am ein Rhaglen Brentisiaethau ragorol. Yn ogystal â hynny, mae nifer fawr o’n Prentisiaid naill ai wedi ennill gwobrau neu wedi cyrraedd y rhestr fer!
Mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf hanes cryf o ddarparu cyfleoedd cyflogaeth trwy ystod o gynlluniau cyflogaeth. Mae 150 o brentisiaid wedi'u cyflogi ers 2017.
Mae'r Cynllun Prentisiaethau wedi bod yn cael ei gynnal ers mis Medi 2012, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, mae mwy na 300 o brentisiaid wedi'u cyflogi mewn amrywiaeth o feysydd o fewn y Cyngor.
Mae'r prentisiaethau cyfnod penodol (2 flynedd) â thâl yn rhoi cyfle i sicrhau cymwysterau cydnabyddedig ym myd diwydiant, yn ogystal â phrofiad galwedigaethol hanfodol mewn maes penodol.
Mae’r cyfleoedd sydd ar gael yn 2022 yn cynnwys:
- Cynorthwy-ydd Cymorth a Chydymffurfio - Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain
- Cynorthwy-ydd Gweinyddol Gwasanaeth Addysg i Oedolion
- Swyddog Prosiect Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Syrfëwr Adeiladu (Rheoliadau Adeiladu)
- Syrfëwr Adeiladu (Eiddo'r Cyngor)
- Cynorthwy-ydd Cymorth i Fusnesau/Cyllid
- Cymorth Gweinyddol y Gwasanaethau Arlwyo
- Technegydd Peirianneg Sifil
- Technegydd Traffig - Peirianneg Sifil
- Cynorthwy-ydd Data a Gwybodaeth Reoli
- Cynorthwy-ydd Ariannol (Refeniw a Budd-daliadau)
- Technegydd Rheoli Perygl Llifogydd
- Gofal Tir a Gosod Planhigion
- Cynnal y Priffyrdd
- Gweithiwr Garddwriaethol
- Gweithiwr Cymorth Ymyriadau Meisgyn
- Technegydd Rheoli Prosiectau (Sifil)
- Cynorthwy-ydd Prynu a Chomisiynu
- Gwneuthurwr Arwyddion
- Cynorthwy-ydd Gofal Cymdeithasol
- Cynorthwy-ydd Goleuadau Stryd a Signalau Traffig
- Technegydd Rheoli Prosiectau (Adeiladu)
- Technegydd (Gwastraff, Ynni a’r Amgylchedd)
- Cynorthwy-ydd Gweinyddu Materion Trafnidiaeth
- Gweithiwr Ieuenctid
- Cynorthwyydd Cyflogres a Thaliadau
- Cynorthwy-ydd Cyfrifeg
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Rydw i'n falch iawn o allu cyhoeddi bod modd i bobl gyflwyno ceisiadau ar gyfer Rhaglen Brentisiaethau Rhondda Cynon Taf yn 2022.
“Mae Rhaglen Brentisiaethau'r Cyngor wedi bod yn hynod lwyddiannus bob blwyddyn.
“Yn 2017, fe wnaethon ni ymrwymiad i ddarparu o leiaf 150 o brentisiaethau a swyddi i raddedigion drwy'r ddau gynllun yn ystod tymor y Cyngor yma. Fe ragoron ni ar yr ymrwymiad hwnnw, bron i ddwy flynedd yn gynt na'r disgwyl, gan wneud addewid pellach y bydden ni'n parhau i ddarparu rhagor fyth o gyfleoedd y llynedd ac eleni.
“A ninnau'n un o gyflogwyr mwyaf yr ardal leol, rydyn ni'n cydnabod pwysigrwydd creu swyddi o safon sy'n talu'n dda, ynghyd â chyfleoedd dysgu, i'n trigolion lleol – ac mae hynny'n bwysicach nag erioed erbyn hyn.
“Mae’r Cyngor yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau, ac mae ein cyfleoedd i brentisiaid yn adlewyrchu hyn - gyda swyddi ar gael mewn meysydd sy’n amrywio o beirianneg sifil i oleuadau stryd, gofal cymdeithasol i addysg i oedolion. Mae rhywbeth at ddant pawb.
“Ers 2017, mae 150 o brentisiaid wedi manteisio ar y cyfleoedd hyfforddi a datblygu sy'n rhan annatod o'r cynllun, ac mae cylch 2020 o brentisiaid bellach yn cyrraedd diwedd eu taith, ac yn edrych ymlaen at ddechrau eu gyrfaoedd llwyddiannus.
"Rydyn ni'n falch o nodi bod mwy na 95% o Brentisiaid y Cyngor wedi cyflawni eu fframwaith cymhwyster llawn rhwng 2012 a 2016, gyda 90% yn sicrhau cyflogaeth ar ôl i'w cynllun ddod i ben. Aeth mwy na 78% o'r rhain ymlaen i gael swydd gyda'r Cyngor, tra bod eraill wedi mynd ymlaen i gyflawni dysgu pellach.
“Mae creu prentisiaethau hefyd yn mynd law yn llaw â'r cynlluniau gwaith rydyn ni'n eu cynnig i unigolion sy'n gadael gofal. Mae hyn yn cynnwys eu paratoi nhw ar gyfer y byd gwaith trwy gynllun GofaliWaith a chynnig lleoliadau gwaith dwy flynedd â thâl iddyn nhw, yn ogystal â darparu catalog helaeth o brofiad gwaith i helpu pobl ifainc i ddod o hyd i swyddi llawn amser trwy gynllun “Camu i'r Cyfeiriad Cywir”.
“Mae'r pandemig wedi dangos bod staff y Cyngor yn cyflawni gwaith hanfodol er mwyn diogelu'n cymunedau a chynnal gwasanaethau hollbwysig ar gyfer ein trigolion. Rydw i'n gobeithio y bydd gwaith hanfodol ein staff yn ysbrydoli pobl i ystyried dod i weithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf.”
Wedi ei bostio ar 24/03/2022