Yn ystod yr Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd yma (7-13 Mawrth), mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gofyn i drigolion feddwl cyn iddyn nhw wneud eu siopa bwyd wythnosol a'n helpu ni i siapio'r cynllun ailgylchu gwastraff bwyd.
Mae'r Cyngor wedi lansio ei arolwg Dewch i Siarad am Wastraff Bwyd ac yn gofyn i drigolion i gymryd rhan. Hoffai'r Cyngor wybod eich barn ynglŷn ag ailgylchu gwastraff bwyd a sut y gallwn ni i gyd wneud gwahaniaeth i leihau gwastraff bwyd a gwella'r gwasanaeth rydyn ni'n ei gynnig.
Mae bwyd coll neu wastraff bwyd yn cyfrif am 8–10% o gyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n cael eu hachosi gan bobl.
Bydd yr Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd y DU yn cael ei chynnal am yr eildro rhwng dydd Llun 7 Mawrth a dydd Sul 13 Mawrth 2022. Bydd yn dod â dinasyddion a sefydliadau o feysydd manwerthu, gweithgynhyrchu, llywodraeth leol, lletygarwch ac ar draws y byd diwydiant ynghyd i ddangos effaith gwastraffu bwyd ar bobl, ar fusnes, ac ar y blaned.
Mae'r Cyngor yn gofyn pobl i FEDDWL am y bwyd maen nhw'n ei wastraffu ac i brynu dim ond yr hyn sydd ei angen wrth archebu neu wneud eu siopa wythnosol. Trwy feddwl yn gyntaf, mae modd lleihau faint o fwyd sy'n cael ei wastraffu a sicrhau bod gan bobl yr hyn sydd ei angen arnyn nhw i ailgylchu unrhyw wastraff sydd ar ôl. Does dim modd bwyta rhai eitemau bwyd e.e. pilion llysiau, plisg wyau, esgyrn ac ati. Mae modd ailgylchu'r eitemau yma'n rhan o gynllun casglu gwastraff bwyd ymyl y ffordd wythnosol y Cyngor.
Mae'r rhan fwyaf o drigolion RhCT bellach yn dweud eu bod nhw'n ailgylchu eu bwyd sydd dros ben (84%). Ar gyfartaledd, mae dros 11,000 tunnell o wastraff bwyd yn cael ei gasglu a'i ailgylchu yn RhCT. Wrth droi'r gwastraff yma'n ynni yn ffatri ailgylchu gwastraff bwyd Bryn Pica, Llwydcoed, caiff digon o ynni ei gynhyrchu i bwreu dros 1000 o gartrefi.
Os dydych chi ddim wedi cofrestru eto, mae modd i chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma www.rctcbc.gov.uk/gwastraffbwyd.
Diolch i gynllun ailgylchu gwastraff bwyd y Cyngor a'r biniau ar wahân ar gyfer gwastraff bwyd, mae'n hawdd gweld faint o fwydydd byddwn ni'n eu taflu.
Drwy gadw golwg ar faint o fwyd rydyn ni'n ei wastraffu, gallwch chi ystyried faint o fwyd sydd ar eich plât a'r rhestr siopa wythnosol, cyfyngu ar faint o fwyd rydych chi'n ei brynu a'r gwastraff, ac arbed arian.
Mae cartrefi'r DU yn gwastraffu 6.5 miliwn tunnell o fwyd bob blwyddyn. Dydyn ni ddim yn sôn am blisgyn wy nac esgyrn cyw iâr. Rydyn ni’n golygu’r ychydig frathiadau olaf o’ch plât na allech chi eu bwyta, neu’ch crystiau bara, neu groen tatws – y cyfan yn bethau a allai fod wedi’u trawsnewid yn rhywbeth blasus.
- Rydyn ni'n taflu rhyw 1.6 miliwn o fananas heb eu cyffwrdd bob blwyddyn.
- 1.3 miliwn o iogyrtau heb eu hagor bob dydd.
- 600,000 o wyau heb eu coginio bob dydd.
- 1.2 miliwn o selsig heb eu bwyta.
- 20 miliwn o dafellau o fara bob dydd.
Dyna lawer o frechdanau selsig ac wyau!
Pe bai pawb yn y Fwrdeistref Sirol yn ailgylchu gwastraff bwyd, byddai'n atal 30% rhag mynd yn eu bagiau du. Mae traean o'r hyn mae trigolion yn ei daflu yn wastraff bwyd.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth:
"Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod mwy o drigolion nag erioed yn cymryd rhan yn y cynllun ailgylchu gwastraff bwyd! Rydyn ni wrth ein bodd bod cynifer o bobl yn gweld pa mor hawdd yw hi i ailgylchu'ch gwastraff bwyd. Serch hynny, mae rhai unigolion yn parhau i beidio ag ailgylchu eu gwastraff bwyd, a hoffen ni wybod sut y gallwn ni eu hannog nhw i wneud hynny. Bydden ni'n dra diolchgar pe baech chi'n cymryd rhan yn yr arolwg er mwyn i ni allu llywio'n gwasanaeth a sicrhau ein bod ni i gyd yn gwneud gwahaniaeth i'r Newid yn yr Hinsawdd.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud ein gorau glas i ailgylchu cymaint ag sy'n bosibl. Byddwn ni'n parhau i fuddsoddi ar gyfer y dyfodol er mwyn sicrhau bod cerbydau o safon uchel a chyfleusterau sy'n hawdd eu defnyddio ar gael er mwyn cynnal gwasanaeth ailgylchu dibynadwy.
“Mae gyda ni safle ailgylchu gwastraff bwyd penodol yma yn ein Bwrdeistref Sirol ym Mryn Pica, Llwydcoed. Mae mwy o wastraff bwyd nag erioed yn cael ei droi'n ynni yno - digon i bweru cartrefi.
“Rydyn ni eisiau llwyddo mewn partneriaeth â'n cymunedau ni, a dyna pam rydyn ni'n darparu cynllun casglu gwastraff ailgylchu a gwastraff bwyd wythnosol ymyl y ffordd sy'n rhad ac am ddim, yn ogystal â chyfleusterau yn y gymuned a mentrau addysg a chodi ymwybyddiaeth.
Hoffech chi ragor o wybodaeth am gynllun ailgylchu gwastraff bwyd y Cyngor? Hoffech chi ofyn am gadi bach i'r gegin? Ewch i www.rctcbc.gov.uk/gwastraffbwyd.
I gymryd rhan yn yr arolwg Dewch i Siarad am Wastraff Bwyd, ewch i: https://dewch-i-siarad.rctcbc.gov.uk/dewch-i-siarad-ailgylchu-gwastraff-bwyd.
Wedi ei bostio ar 10/03/22