Skip to main content

Cynhyrchiad Aladdin RhCT ar restr fer Gwobrau Pantomeim y DU

Aladdin

Mwynhaodd miloedd o bobl gynhyrchiad digidol Theatrau RhCT o Aladdin fis Rhagfyr y llynedd ac mae'r cynhyrchiad wedi cyrraedd rhestr fer gwobrau blynyddol UK Pantomime Association.

Mae’r cynhyrchiad, oedd yn serennu Ceri Dupree fel Widow Twankey, wedi'i enwebu yn y categori Pantomeim Gorau (Digidol). Bydd y seremoni yn cael ei chynnal yn ardal y West End, Llundain, ym mis Ebrill.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Hinsawdd a Chymunedau: "Rwy'n falch iawn bod pantomeim digidol Aladdin Theatrau RhCT wedi'i enwebu ar gyfer gwobr genedlaethol. Dyma dystiolaeth o holl waith caled pob aelod o gast a chriw y pantomeim yn ystod amgylchiadau anodd.

“Roedd cynnig cyfle i wylio Aladdin am ddim yn y sinema, yn ogystal â'r cynnig digidol ar-lein am ddim, wedi sicrhau bod modd i gynulleidfa eang wylio'n pantomeim, gan gynnwys unrhyw drigolion sydd wedi'u hallgau'n ddigidol.

"Mae bod yn un o dri phantomeim o Gymru sydd wedi cyrraedd rhestr fer gwobrau UK Pantomime Association yn gydnabyddiaeth genedlaethol.

"Mae cyfnod y Nadolig yn gyfnod arbennig iawn i lawer o bobl ac rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu pawb yn ôl i Theatr y Colisëwm a Theatr y Parc a'r Dâr eleni."

Roedd cynhyrchiad Theatrau RhCT yn brofiad sinema AM DDIM dros gyfnod y Nadolig o ganlyniad i'r cyfyngiadau oedd mewn grym ar y pryd. Roedd modd gwylio'r cynhyrchiad gartref hefyd. Cafodd y cynhyrchiad ei recordio ymlaen llaw ac roedd yn cynnwys hwyl a sbri pantomeim traddodiadol ar y sgrîn fawr. 

Mae dros 20 o gategorïau yn rhan o'r gwobrau yma a gafodd eu sefydlu yn 2021 i ddathlu pantomeimiau, rhannu hanes y genre ac ysbrydoli cynyrchiadau newydd yn y dyfodol.

Mae'r categorïau'n cynnwys Chwiorydd Hyll Gorau, yr Hen Wraig Orau, Pantomeim Gorau, Prif Gymeriad Gorau, Artist Cynorthwyol Gorau, Dull Gorau, Coreograffi Gorau, Gwisgoedd Gorau a Dihiryn Gorau.

Mae cynhyrchiad Theatrau RhCT, a gafodd ei ysgrifennu a'i gyfarwyddo gan Richard Tunley gyda cherddoriaeth wreiddiol gan Nathan Jones, dau o drigolion Rhondda Cynon Taf, wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Pantomeim Gorau (Digidol). Y cynyrchiadau eraill sydd wedi'u henwebu yn y categori yw Beauty and the Beast (Nottingham Playhouse), Cinderella (Corn Exchange, Newbury), Cinderella (Panto Online) a Jack and the Beanstalk (New Wolsey Theatre, Ipswich).

Gwyliodd 46 o feirniaid 207 o bantomeimiau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ystod 2021/22. Teithiodd y beirniaid o Aberdeen i Aylesbury, Belfast i Bognor a Chaerdydd i Canterbury, yn ogystal â gwylio cynyrchiadau ar-lein.

Bydd y seremoni yn cael ei chynnal yn Theatr Trafalgar yn Llundain ddydd Mawrth, 19 Ebrill a bydd yn cael ei harwain gan Christopher Biggins. Dyma seremoni gyntaf UK Pantomime Association wedi i'r gymdeithas dderbyn statws elusen ym mis Chwefror eleni. 

Mae Theatrau RhCT yn falch o gyhoeddi bod Theatr y Colisëwm, Aberdâr a Theatr y Parc a'r Dâr, Treorci, bellach ar agor i'r cyhoedd ac mae ystod o sioeau byw, achlysuron a ffilmiau ar gael yno.

Beth sy' mlaen yn Theatrau RhCT? 

Wedi ei bostio ar 22/03/22