Skip to main content

Cynllun Ffyrdd Cydnerth yn sicrhau gwelliannau o ran draenio yn Nhreorci

A Resilient Roads scheme has started at Hermon Street in Treorchy

Mae'r Cyngor wedi dechrau ar gynllun gwella draeniad sylweddol i leihau'r perygl o lifogydd yn Nhreorci. Byddwn ni'n gwneud hyn drwy ddiweddaru'r isadeiledd draenio priffyrdd yn Stryd Hermon, yn ogystal â chwteri cyfagos ar y Stryd Fawr.

Mae'r gwaith wedi'i ariannu gan gynllun Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru, a bydd yn dechrau ddydd Llun, 28 Chwefror, ar ôl i'r Cyngor ysgrifennu at drigolion lleol i egluro'r sefyllfa. Bwriad cynllun yw lleihau’r perygl o lifogydd i eiddo ar y Stryd Fawr, a bydd yn cael ei gwblhau ymhen pedair wythnos – yn amodol ar y tywydd.

Bydd rhan o'r gwaith yn ymwneud â chodi 18 metr o'r ffordd gerbydau yn Stryd Hermon er mwyn gosod pibell newydd yn lle'r bibell sy'n gorwedd 3 metr o dan y ffordd. Bydd angen cau Stryd Hermon i gerbydau fel bod modd i'r gwaith yma fynd rhagddo, ond byddwn ni'n ymdrechu i'w gyflawni cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi tarfu'n ormodol ar drigolion lleol.

Bydd mynediad i gerddwyr a gwasanaethau brys bob amser, a bydd trefniadau hefyd ar waith i sicrhau bod modd casglu sbwriel a gwastraff ailgylchu yn ôl yr arfer tra bod Stryd Hermon ar gau.

Mae rhan arall o'r cynllun yn cynnwys uwchraddio cwteri draenio ffyrdd ar y rhan gyfagos o'r ffordd yn y Stryd Fawr. Byddwn ni'n gosod griliau sy'n gallu derbyn rhagor o ddŵr, tra bydd y cwteri newydd yn gallu gwrthsefyll rhwystrau yn well.

Fydd y mesurau rheoli traffig sydd ei angen ar gyfer y gwaith ar y Stryd Fawr ddim yn effeithio ar lif y traffig, a fydd dim angen defnyddio goleuadau traffig. Serch hynny, bydd dim modd parcio get y cwteri yma tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo. Byddwn ni'n ymdrechu i darfu cyn lleied â phosibl ar drigolion.

Mae'r cynllun wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth â Dŵr Cymru, sy'n gyfrifol am yr isadeiledd sydd wedi'i leoli i lawr yr afon o rwydwaith draenio'r Stryd Fawr. Mae hyn wedi sicrhau y bydd y gwaith yma'n sicrhau cydnerthedd pellach i eiddo ar y Stryd Fawr, heb gynyddu'r perygl y bydd llifogydd ymhellach i lawr yr afon.

Mae'r gwaith yn cael ei wneud gan Garfan Gofal Strydoedd y Cyngor, sydd wedi penodi Arch Services yn is-gontractwr ar gyfer y cynllun.

Mae modd i Awdurdodau Lleol hawlio cyllid gan Gynllun Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru er mwyn cyflawni gwelliannau draenio ar rannau o’r rhwydwaith ffyrdd sydd â hanes o lifogydd – ac mae £7.5 miliwn wedi’i sicrhau ar gyfer cyflawni cynlluniau draenio wedi’u targedu yn Rhondda Cynon Taf yn 2020/21 a 2021/22. Mae'r gwaith pwysig sydd wedi'i gyflawni hyd yma yn cynnwys Ffordd Liniaru'r Porth yn Ynys-hir, yr A4059 o Ben-y-waun i Drecynon, Ffordd Osgoi Aberdâr ar yr A4059 ger Cylchfan Asda, yn ogystal â'r ffordd honno rhwng Aberpennar ac Abercynon.

Dechreuodd gwaith uwchraddio sylweddol i geuffosydd ar yr A4061 Ffordd Rhigos (ger Glofa'r Tŵr) ym mis Ionawr.

Bydd y cynllun diweddaraf yn Nhreorci yn cael ei gwblhau drwy gydol mis Mawrth, a hoffai’r Cyngor ddiolch i’r gymuned leol am eu cydweithrediad tra bod y gwaith pwysig yma'n cael ei gwblhau i ddiogelu eiddo ar y Stryd Fawr.

Wedi ei bostio ar 02/03/22