Mae ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf wedi ymateb i "Her Barddoniaeth i'r Blaned" er mwyn ceisio codi ymwybyddiaeth o'r Newid yn yr Hinsawdd.
Roedd yr her, a osodwyd i holl ysgolion y Fwrdeistref Sirol, yn gofyn i ddisgyblion ddefnyddio geiriau creadigol, llawn dychymyg i fynegi eu teimladau tuag at yr amgylchedd, ailgylchu a'r newid yn yr hinsawdd.
Heddiw yw Diwrnod Barddoniaeth y Byd (21 Mawrth) ac mae'r cerddi a ddaeth i law gan y disgyblion talentog wedi profi mai plant y Fwrdeistref Sirol yw'r dyfodol. Dyma obeithio y bydd eu geiriau angerddol yn ysgogi ein trigolion i weithredu ac i ymuno â'r frwydr yn erbyn y Newid yn yr Hinsawdd.
Yr her i'r disgyblion oedd llunio cerdd i'r blaned, gan ganolbwyntio ar y themâu canlynol:
- Y Cyfnod Sylfaen - Edrych ar ôl ein Byd Bendigedig
- Cyfnod Allweddol 2 - Gwneud Gwahaniaeth - Lleihau, Ailddefnyddio, Ailgylchu.
Roedd safon y cerddi a ddaeth i law yn wych, a chan fod cynifer o gerddi wedi cael eu cyflwyno, cafodd gategorïau arbennig eu creu ar gyfer cerddi yn y Gymraeg.
Roedd safon yr holl gerddi wedi creu argraff arbennig ar y beirniaid, ac yn y diwedd, daeth y disgyblion canlynol i'r brig:
- Elionr Barden, Ysgol Gynradd Llantrisant
- Pippa Conway, Ysgol Gartholwg
- Laila Oliver, Ysgol Gynradd Ton Pentre, a
- Poppy Jones, Ysgol Gynradd Gartholwg
Bydd yr ysgolion buddugol yn ennill gwobr ariannol gwerth £150 yr un, a'r disgyblion buddugol yn ennill taleb £20 yr un.
Bydd y cerddi buddugol hefyd ar gael i bawb eu mwynhau ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor. Bydd y cerddi'n cael eu hanimeiddio maes o law i godi ymwybyddiaeth o'r newid yn yr hinsawdd ledled y Fwrdeistref Sirol.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth:
"Roedd safon y cerddi yn uchel iawn a hoffwn i ddiolch i'n holl beirdd ifainc ni am fod yn rhan o'n Her Barddoniaeth i'r Blaned.
“Rydyn ni i gyd yn wynebu cyfnod heriol wrth i'r tymheredd barhau i godi ledled y byd, ac rydyn ni i gyd yn rhy gyfarwydd ag amodau tywydd garw yn Rhondda Cynon Taf.
"Llongyfarchiadau i'r holl ysgolion buddugol. Mae dros 240,000 o bobl yn byw yn ein Bwrdeistref Sirol - gyda'n gilydd, mae modd i ni i gyd wneud gwahaniaeth, waeth pa mor fawr neu fach."
Mae'r Cyngor yn parhau i weithio tuag at ei nod o ddod yn Gyngor a Bwrdeistref Sirol Carbon Niwtral erbyn 2030. Mae eisoes wedi gwneud cynnydd tuag at gyflawni'r ymrwymiad yma i gyrraedd targedau byd-eang, cenedlaethol a lleol, a chyfrannu atyn nhw.
Sicrhau bod 100% o'n cyflenwad ynni trydanol yn dod o ffynonellau ynni adnewyddadwy.
Mae pob golau stryd yn RhCT, oddeutu 29,700 ohonyn nhw, wedi'u newid i LED neu gyfwerth sydd wedi arwain at ostyngiad o 75% yn yr ynni sy'n cael ei ddefnyddio ers 2015/16. Mae'r Cyngor hefyd wedi gosod Paneli Solar ar ysgolion ac Adeiladau Corfforaethol, cyfanswm o 1.7MW.
Mae'r Cyngor hefyd ar y trywydd iawn i gyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% ar gyfer 2025 ac mae wedi cynyddu ei darged ailgylchu i 80% erbyn 2025
Mae dros 11,000 tunnell o wastraff bwyd hefyd yn cael ei gasglu o gartrefi yn Rhondda Cynon Taf bob blwyddyn a'i ailgylchu ar safle Biogen a'i droi'n ynni i bweru dros 1,000 o gartrefi.
Am ragor o wybodaeth am Newid yn yr Hinsawdd yn RhCT ewch i www.rctcbc.gov.uk/newidhinsawddrhct
Wedi ei bostio ar 21/03/2022